Ateb y Galw: Trystan Owen

Trystan OwenFfynhonnell y llun, Trystan Owen
GanAlun Gaffey
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Gŵr ifanc o Fangor, Gwynedd, yw Trystan Owen. Ar ei dudalen Instagram poblogaidd trysttalks, dolen allanol mae'n dogfennu bywyd cymdeithasol pobl yr ardal mewn cyfres o fideos hwyliog.

Fo sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf i ydi Nain yn dod i nôl fi o'r ysgol mewn Peugeot gwyrdd. Dwi'n cofio hi'n galw fy ffrind Euron yn "Euros" ac wedyn mynd i'w thŷ hi ym Mhorthaethwy, Sir Fôn a chael bar siocled 'Penguin' fel trît, oherwydd doeddwn i ddim yn cael llawer o siocled adref, a chwerthin ar y jôc sâl ar gefn y bar siocled.

Trystan ar draeth efo'i Nain pan yn fachFfynhonnell y llun, Trystan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Trystan ar draeth efo'i Nain pan yn fach

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae gen i lawer o lefydd yng Nghymru sy'n dod i'r meddwl ond os fyswn i'n gorfod dewis un, mi fyswn i'n dewis Llanberis oherwydd roeddwn i'n treulio lot o amser yna fel plentyn, yn gweld teulu oedd yn byw yno, chwarae yn y parc, mynd i nofio, mynd am dro ac wedyn ar ddiwedd y dydd cael dwy bunt i fynd i gael hufen iâ gan Yncl Alwyn.

Dwi wrth fy modd yn mynd i Lanberis hyd yn oed rŵan ond mae'r atgofion bob tro yn dod yn ôl ata i.

Trystan yn padl-fyrddio ar Lyn Padarn, LlanberisFfynhonnell y llun, Trystan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Trystan yn padl-fyrddio ar Lyn Padarn, Llanberis

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

I fod yn onest, y noson orau ges i oedd nos Sul.

I dorri stori hir yn fyr, roeddwn i yn Amsterdam yn nghanol mis Mai ac roeddwn i fod i fynd i ŵyl cerddoriaeth electroneg (house) ac mi gafodd hi ei chanslo awr cyn iddi ddechrau.

Ar yr ail ddiwrnod, mi wnes i ffeindio clwb i fynd iddo ac roedd hi'n noson anhygoel ‒ cerddoriaeth a phobl wych.

Mi ges i ffilmio cyfweliad gyda'r ddau DJ mwyaf poblogaidd ar y sioe a chael llwyth o fideos i'r flog i fynd ar fy sianel YouTube.

Noson anhygoel ‒ ces i gymaint o hwyl, ac roeddwn i'n sobor!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Doniol, hyderus a gweithgar.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Y foment nes i ddeud wrth fy hun 'dim ots be mae pobl yn meddwl ohonaf i, stwffia nhw'.

Mae'n rhaid i mi fynd am beth dwi eisiau neud a chael gymaint o hwyl tra dwi'n gwneud o, oherwydd mae pobl wastad am gael rhywbeth i'w ddweud.

Gwell bod yn hapus a llwyddiannus.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnot ti erioed?

Wel wir, mae'r cywilydd i gyd yn dod o'r bore wedyn oherwydd doeddwn i ddim yn cofio llawer... ond mae yna fideo ohonof i yn disgyn lawr grisiau clwb Cube Bangor. Roeddwn i'n tua 18 oed ar y pryd ac mae pawb wedi gweld y fideo.

Clwb nos Cube ym MangorFfynhonnell y llun, Cube Bar and Club Rooms
Disgrifiad o’r llun,

Clwb nos Cube ym Mangor

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi ddim yn crio yn aml, ond y tro diwetha oedd pan wnes i weld clip o uchafbwyntiau Cymru yn Ewros 2016 oherwydd 'swni'n dweud mai'r haf yna oedd un o'r hafau gorau, ac yn sicr yr haf gorau o fy mywyd.

Jest y ffaith mod i'n fyw i weld Cymru yn y semis yn erbyn Portiwgal a Cristiano Ronaldo ‒ atgof hapus ac emosiynol iawn.

Chris Coleman a thîm Cymru'n gorfoleddu yn 2016Ffynhonnell y llun, Srdjan Stevanovic / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman a thîm Cymru'n gorfoleddu yn 2016

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wel dwi ddim yn yfed dim mwy, ond dwi'n ffeindio hi'n anodd dweud na i McDonalds, yn enwedig Quarter Pounder!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Mae'n gorfod bod y ffilm Spiderman cyntaf gyda Tobey Maguire.

Roeddwn i wrth fy modd gyda Spiderman ac mi rydw i o hyd.

Dwi'n cofio Nain yn prynu gwisg Spiderman i fi ‒ yr un gyda chyhyrau ‒ a mi oeddwn i'n rhedeg o gwmpas y tŷ yn neidio i fyny ac i lawr y grisiau.

Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio'r ffilm Spiderman ar VHS ar ôl ysgol ac yn gobeithio y byswn i'n gallu bod fel Peter Parker un diwrnod.

Mae obsesiwn Trystan gyda Spiderman yn parhau hyd heddiwFfynhonnell y llun, Trystan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae obsesiwn Trystan gyda Spiderman yn parhau hyd heddiw

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Michael Jackson, cant y cant. Dwi wedi cael fy nwyn i fyny yn gwrando arno fo.

Mae Dad wrth ei fodd efo Michael Jackson hefyd.

'Swn i'n dweud mai fo ydy'r canwr gorau erioed, a mi fyswn i wrth fy modd yn dawnsio fel fo a dysgu'r moonwalk enwog.

Peidiwch â synnu os dach chi'n gweld fi wedi gwisgo fel "Thriller Mike" ar noson Calan Gaeaf rhyw flwyddyn!

Dyweda rhywbeth amdanot ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wrth fy modd gyda phêl-fasged a dwi wedi bod ers tua 10 mlynedd rwan.

Dwi wedi caru pêl-droed ers erioed ac yn cefnogi Manchester United, ond ym mlwyddyn 7 ches i ddim fy newis i dîm yr ysgol ac roeddwn i'n drist.

Ond rhywsut neu'i gilydd cafodd Mr Williams, fy athro addysg gorfforol fi i drio pêl-fasged ar ôl ysgol ac mi wnes i syrthio mewn cariad gyda'r gêm yn syth.

Wnes i chwarae i dîm Celts Caernarfon (Dreigiau Caernarfon ydyn nhw bellach) am tua 4-5 mlynedd.

Dwi wedi stopio chwarae i dîm ers cyfnod Covid, ond pan rydw i'n cael amser dwi'n chwarae ym Methesda gyda chriw gwych o ddynion ac un neu ddwy o ferched.

Cymysgedd da o hwyl a chystadleuaeth.

Trystan yn ystod ei ddyddiau'n chwarae pêl fasged i Celtiaid CaernarfonFfynhonnell y llun, Trystan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Trystan yn ystod ei ddyddiau'n chwarae pêl fasged i Celtiaid Caernarfon

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Rhedeg yn yr haf yn gwrando ar gerddoriaeth electroneg.

Trystan yn rhedegFfynhonnell y llun, Trystan Owen

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Hwn oherwydd faint dwi'n methu chwarae pêl-droed gyda Taid yn yr ardd ac hefyd mae'n gwneud i mi gofio am amseroedd mwy syml.

Trystan yn fach gyda'i nain a'i daidFfynhonnell y llun, Trystan Owen

Petaset ti’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gareth Bale, cant y cant. 'Swn i'n caru teimlo'r fraint o arwain Cymru mor bell ac o chwarae yn erbyn Cristiano Ronaldo a Real Madrid. A hefyd, sut fysa'n teimlo sgorio gôl wych i Gymru?

Gareth Bale yn dathluFfynhonnell y llun, Ian MacNicol / Getty Images

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: