'Artaith' gorfod aros pedair blynedd i gael gwybod pam fod babi wedi marw

Dyma'r tro cyntaf i rieni Jacob gael gafael ynddo yn Ysbyty Singleton, AbertaweFfynhonnell y llun, Kianty a Conor Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i rieni Jacob afael ynddo yn Ysbyty Singleton, Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl isod beri gofid.

Mae rhieni babi a fu farw ar ôl cyfres o fethiannau yn ystod ei enedigaeth yn dweud eu bod nhw'n dal i aros i gael gwybod beth ddigwyddodd iddo, bedair blynedd yn ddiweddarach.

Bu farw Jacob ar ôl cael ei eni yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ym Mehefin 2022.

Roedd yn bedwar niwrnod oed.

Dyw'r cwest i'w farwolaeth heb gael ei gynnal ac felly mae ei rieni, Kianty a Conor Simpson o Sir Lincoln, yn dal i aros am dystysgrif marwolaeth.

Mae Crwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi ymddiheuro i'r teulu am yr oedi ac yn dweud bod achos Jacob bellach "yn flaenoriaeth".

"All neb egluro sut mae'n teimlo i orfod tynnu'r sedd babi allan o'ch car neu dynnu'r arwydd yn dweud 'babi yn y car' oddi ar y ffenest cyn gyrru adre," meddai Conor.

"Roedd yr holl brofiad yn drawmatig iawn."

Roedd y cwpl yn byw yn Hwlffordd, Sir Benfro, oherwydd swydd Conor gyda'r fyddin pan gawson nhw wybod fod Kianty yn disgwyl babi.

"Roeddwn i wedi cael diwrnod gwael yn y gwaith... a fwya' sydyn, fe wnaeth yr holl bryderon ddiflannu. Yr unig beth roeddwn i'n gallu meddwl amdano oedd bod yn dad," eglura Conor.

 Kianty a Conor SimpsonFfynhonnell y llun, Kianty a Conor Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Fe drefnodd y cwpl barti gyda'u teulu a'u ffrindiau i ddathlu eu bod nhw'n mynd i gael bachgen bach

Ar 15 Mehefin 2022, aeth Kianty i Ysbyty Glangwili a dechreuodd gael poenau geni.

Erbyn y prynhawn canlynol roedd y poenau wedi dechrau cilio.

"Doeddwn i heb gael babi o'r blaen felly doedd gen i ddim syniad sut o'n i fod i deimlo a pha mor hir roedd pethau fod i gymryd," dywedodd.

Pan gafodd Jacob ei eni fe sylwodd Conor yn syth bod rhywbeth o'i le gan fod ei fab yn "welw ac yn las".

"Fe ges i deimlad o banig llwyr achos roedd e'n edrych fel ei fod e wedi marw ac roedd hynny'n anodd," meddai Conor.

"Roedd e i fod yn foment hapus ond roedden ni'n gwylio meddygon yn ceisio ei adfywio am 22 munud ac roedd hynny'n ofnadwy."

Kianty yn gweld ei mab am y tro cyntafFfynhonnell y llun, Kianty a Conor Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Kianty yn gweld ei mab am y tro cyntaf ar ôl rhoi genedigaeth iddo yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin

Cafodd y cwpl wybod bod Jacob yn sâl iawn ac nad oedd wedi cael digon o ocsigen i'w ymennydd yn ystod ei enedigaeth.

Fe gawson nhw wybod hefyd y gallai farw neu y byddai ganddo anghenion dwys petai'n dod drwyddi.

Cafodd Jacob ei symud i Ysbyty Singleton yn Abertawe lle cafodd driniaeth i geisio lleihau'r chwydd ar ei ymennydd.

Ond bedwar niwrnod yn ddiweddarach, bu farw.

"Roedd y staff yn arbennig," eglura Kianty. "Fe helpon nhw ni i greu mowld o'i droed bach ac fe gawson ni gyfle i afael ynddo ar y diwedd."

Mae genedigaeth a marwolaeth Jacob wedi cael effaith sylweddol ar Conor.

"Mae Kianty yn berson mor hyfryd," dywedodd.

"Rwy wastad yn meddwl, pam fod hyn wedi gorfod digwydd iddi hi?"

Dywedodd mai cerdded allan o'r ysbyty i ffonio eu teuluoedd i adael iddyn nhw wybod fod Jacob wedi marw oedd yr alwad ffôn anoddaf iddo orfod ei gwneud erioed.

Kianty a Conor Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kianty a Conor newydd briodi pan gawson nhw wybod eu bod nhw'n disgwyl babi

Mae'r cwpl yn dweud eu bod nhw'n cael trafferth ceisio symud ymlaen gyda'u bywydau.

Wedi iddyn nhw ofyn i gyfreithwyr helpu gyda'u hachos, fe benderfynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda roi'r gorau i'w ymchwiliad nhw fel rhan o broses 'Gweithio i Wella' y Gwasanaeth Iechyd ym Mehefin 2024.

Cyn iddyn nhw ddod â'r ymchwiliad i ben, fe ddaeth hi i'r amlwg fod cyfres o fethiannau wedi digwydd yn ystod yr enedigaeth gan gynnwys diffyg cyfathrebu, methiant i rannu pryderon gyda'r cwpl, monitro annigonol o'r curiad calon a methiant i gael gofal ychwanegol.

Roedd y teulu wedi cael gwybod am y methiannau hynny ond maen nhw'n dweud nad oedd yr ymchwiliad yn cynnwys tystiolaeth annibynnol gan arbenigwr gofal newydd-anedig er mwyn nodi'n fwy penodol beth allai fod wedi achosi marwolaeth Jacob.

Fe gawson nhw wybod hefyd y byddai'n rhaid aros i gwest gael ei gynnal.

'Ceisio dysgu gwersi'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Dywedodd llefarydd eu bod yn "cydymdeimlo'n ddwys" gyda'r teulu.

"Yn dilyn digwyddiad difrifol mae ganddon ni brosesau cadarn i adolygu'r digwyddiad yn fewnol, ceisio adnabod unrhyw broblemau a phan fo hynny'n berthnasol rydyn ni'n paratoi cynllun i wella'r drefn er mwyn atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n edifar am ddigwyddiadau o'r fath a wastad yn ceisio dysgu gwersi."

Yn Ionawr 2026, fe wnaeth y bwrdd iechyd gyfaddef esgeulustod gan dderbyn y gallai marwolaeth Jacob fod wedi ei hosgoi.

Ym mis Chwefror 2026, fe gafodd y cwpl gynnig iawndal gan y bwrdd ar yr amod y byddan nhw'n derbyn y cynnig mewn 21 diwrnod, ond fe benderfynon nhw wrthod y cynnig.

Llun o droed JacobFfynhonnell y llun, Kianty a Conor Simpson
Disgrifiad o’r llun,

Ar gais ei rieni, cafodd lluniau eu tynnu o Jacob ddiwrnod cyn iddo farw yn Ysbyty Singleton yn Abertawe

Ar ôl i'r BBC gysylltu gyda Chrwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i ofyn pam nad yw cwest Jacob wedi ei gynnal bedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd llythyr ei anfon ar e-bost i'r teulu yn ymddiheuro.

Yn y llythyr, dywedodd Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro Gareth Lewis bod prinder staff yn golygu eu bod nhw'n cael trafferth delio gydag achosion newydd yn ogystal ag achosion oedd yn bodoli'n barod. Ychwanegodd bod y pandemig wedi effeithio ar hynny.

Ychwanegodd bod cwest Jacob bellach "yn flaenoriaeth", gan gynnig dyddiad ar gyfer achos cyn y prif gwest fis nesaf.

Dywedodd Chantelle Cooper o gyfreithwyr Switalskis, sy'n cynrychioli'r teulu, bod gorfod aros mor hir am gwest yn "anarferol iawn".

"Rydyn ni'n gwybod bod 'na fethiannau. Fe aeth rhywbeth o'i le," dywedodd.

"Mae aros pedair blynedd heb atebion yn annioddefol."

Ychwanegodd cyfreithwyr y teulu eu bod nhw'n benderfynol o gael gwybod "pa wersi sydd wedi eu dysgu" er mwyn sicrhau na fydd yr un teulu arall yn gorfod wynebu sefyllfa debyg.

Kianty, Conor a Luke
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Kianty a Conor fachgen bach o'r enw Luke, sy'n ddwy oed

Mae'r cwpl bellach yn byw yn Sir Lincoln ac mae ganddyn nhw blentyn arall, ond mae Kianty yn dweud ei bod hi'n poeni'n ofnadwy tra'r oedd hi'n feichiog.

"Mewn ffordd, roeddwn i'n disgwyl i bethau orffen yn wael a doeddwn i heb baratoi ar gyfer bywyd ar ôl iddo gael ei eni," dywedodd.

Mae Luke yn ddwy oed ac mae ei rieni yn dweud ei fod "yn fachgen hollol hyfryd", ond mae Conor yn cyfaddef ei fod wedi gweld bod yn rhiant yn anodd ar y dechrau.

"Mae pobl yn gofyn i ni os mai fe yw'n plentyn cyntaf ni. Sut ydyn ni fod i ateb hynny?" dywedodd.

"Dyw e ddim yn hawdd bod yn rhiant ar ôl i chi wynebu colled."

Ychwanegodd hefyd nad ydyn nhw'n gallu rhoi eu holl sylw i Luke wrth iddyn nhw barhau i "ymladd dros Jacob".

Maen nhw'n gobeithio y bydd cwest llawn yn cael ei gynnal cyn bo hir.

Dywedodd Conor: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn artaith.

"Mae'n anodd delio gyda beth ddigwyddodd achos dydyn ni ddim yn gwybod be' ddigwyddodd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.