'Rhoddais y ffôn i lawr' - dyn o Dynewydd yn ennill tŷ gwerth £3.5m

Darren Summers yn y bar gyda gwydriad o gwrw yn ei lawFfynhonnell y llun, Omaze
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Darren Summers ddim yn credu ei fod wedi ennill nes i dîm Omaze ymddangos yn y dafarn

  • Cyhoeddwyd

Roedd dyn yn gweithio y tu ôl i far pan gafodd alwad yn dweud ei fod wedi ennill gwobr gwerth miliynau o bunnoedd, ond fe roddodd y ffôn i lawr gan gredu mai twyll oedd y cyfan.

Ychydig funudau'n ddiweddarach, cerddodd criw o gwmni Omaze i mewn i'r dafarn lle'r oedd yn gweithio yn Nhynewydd i ddweud wrtho ei fod wedi ennill tŷ gwerth £3.5m yng Nghernyw.

Yn ogystal â'r eiddo moethus ar arfordir Cernyw, enillodd Darren Summers £250,000 mewn arian parod hefyd.

Y peth cyntaf a ddywedodd wrth gwsmeriaid y dafarn, meddai, oedd bod y diodydd "on the house" y noson honno.

Ty Omaze yng NghernywFfynhonnell y llun, Omaze
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŷ gwerth £3.5m yn edrych dros draeth Downderry ar arfordir Cernyw

Roedd Darren yng nghanol shifft brysur y tu ôl i'r bar pan ddaeth yr alwad ffôn gan Omaze.

Dywedodd iddo godi'r ffôn yn y pen draw ond, pan glywodd ei fod wedi ennill gwobr, fe feddyliodd: "Ie, ie", cyn rhoi'r ffôn i lawr a pharhau i weithio.

Yn fuan wedyn, dywedodd cydweithiwr wrtho fod criw ffilmio yn aros y tu allan i'r dafarn.

Aeth cynrychiolwyr Omaze ag ef i gae criced cyfagos lle dangoswyd fideo iddo o'r tŷ pedair ystafell wely ar glogwyni sy'n edrych dros Draeth Downderry yng Nghernyw.

Mae'r eiddo wedi'i leoli ar erw o dir ac mae ganddo bwll nofio awyr agored wedi'i wresogi a thwba twym.

Yn ôl Omaze, gallai'r tŷ gynhyrchu rhwng £5,000 ac £8,000 y mis mewn incwm rhent.

Prynodd Darren, sy'n 50 oed ac o Dynewydd, ei docyn buddugol am £20.

Darren a'i wraig RebeccaFfynhonnell y llun, Omaze
Disgrifiad o’r llun,

Darren a'i wraig Rebecca yn sefyll ar ymyl pwll nofio'r eiddo gyda'r arfordir yn y cefndir

Dywedodd iddo ffonio ei wraig Rebecca, y mae wedi bod yn briod â hi ers wyth mlynedd, i rannu'r newyddion.

Dywedodd nad oedd hi'n ei gredu gan nad oedd hi hyd yn oed yn gwybod ei fod wedi cystadlu.

Ychwanegodd, pan ddywedodd wrthi ei bod ar y seinydd ar ei ffôn, roedd ei hymateb "bron angen ei sensro".

Dywedodd Darren fod y tŷ yn edrych fel "cartref seren ffilm" ac yn "hollol syfrdanol".

"Rydyn ni wastad wedi bod eisiau mynd i Gernyw ond dydyn ni erioed wedi bod yno o'r blaen," meddai.

"Roedden ni'n meddwl efallai y bydden ni'n dod yma i wersylla ryw ddiwrnod, ond nawr byddwn ni'n aros yn ein plasty ein hunain."

Wrth ddychwelyd i'r dafarn, dywedodd wrth y cwsmeriaid: "Os oes unrhyw un eisiau peint, mae'r diodydd yn llythrennol ar y tŷ heno!"

Ychwanegodd ei fod weithiau'n cael hanner peint yn rhodd gan gwsmeriaid, ond mai tŷ gwerth £3.5m oedd "y tip mwyaf" a gafodd erioed.

Mae Darren bellach yn bwriadu rhoi'r gorau i'w yrfa y tu ôl i'r bar a mwynhau ymddeoliad cynnar.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig