Plant dan 16 oed i gael eu gwahardd o TikTok, Snapchat ac Instagram

- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi gwaharddiad i blant dan 16 oed o'r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Mae TikTok, Snapchat, Instagram, YouTube, Facebook ac X ymhlith yr apiau fydd yn cael eu cynnwys.
Dywedodd eu bod "yn gobeithio pasio rheoliadau cyn y Nadolig" fel bod y gwaharddiad yn dod i rym erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Mae gweinidogion hefyd yn ystyried gosod cyrffyw cyfryngau cymdeithasol i blant hŷn, ond bydd dim manylion pellach o ran hynny tan fis nesaf.
Mae'r mesurau'n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i warchod pobl ifanc rhag niwed ar-lein a mynd i'r afael â'r arfer o sgrolio ar ffonau gyda'r hwyr.
Fe wnaeth ymgynghoriad yn gynharach eleni, a ddenodd dros 116,000 o ymatebion, awgrymu bod 85% o rieni'n credu bod risgiau'r cyfryngau cymdeithasol yn drech na'r buddion.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "asesu'n ofalus oblygiadau cyhoeddiad Llywodraeth y DU".

Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd y Prif Weinidog "nad ar chwarae bach" y mae cyhoeddi gwaharddiad.
Mae'n cydnabod nad yw'r cynllun "heb ei gostau, fel petai'r cyfryngau cymdeithasol heb ddod ag unrhyw fudd o gwbl i bobl ifanc".
Ond dywedodd ei fod "yn glir i mi taw gwaharddiad llawn yw'r dewis cywir".
"Dydw i ddim yn fodlon cyfaddawdu ar ddiogelwch ac hapusrwydd ein plant... dyna pam y mae'n rhaid i'r gwaharddiad yma ddigwydd, a pham y bydd y gwaharddiad yma yn digwydd."
Mae'n cydnabod "na fydd yn hawdd" a bydd rhai cwmnïau technoleg eisiau i bobl feddwl nad oes modd newid pethau, ond bod y llywodraeth "wedi gwrando ar bobl" a dysgu o brofiadau gwledydd eraill.
Fe fydd y DU, meddai, "yn mynd ymhellach" gyda "chamau diguro trwy'r byd" yn achos gwasanaethau gemau cyfrifiadol a phlatfformau ffrydio'n fyw.
Fe fydd newidiadau hefyd yn mynd i'r afael â phlatfformau sy'n caniatáu i bobl ddieithr gysylltu â phlentyn "heb wiriadau".

Mae cyfryngau cymdeithasol yn "llenwi'r bwlch" sy'n bodoli ym mywydau pobl ifanc, meddai Ifan Parry
Dywedodd Ifan Parry o Ynys Môn, a drodd yn 16 oed yn ddiweddar ac a fu'n wyneb cyfarwydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Urdd yn ystod yr Eisteddfod, ei fod yn gweld "y da" yn y cynllun ond nad yw'n siŵr mai gwaharddiad llwyr yw'r ateb.
"Mae'n sefyllfa anodd - 'dio ddim yn ddu a gwyn o gwbl, ac mae'n hawdd i fi dd'eud hynny rŵan gan nad yw'n mynd i effeithio arna i," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn credu y gallai'r llywodraeth wneud mwy i addysgu pobl ifanc am ddefnyddio technoleg yn gyfrifol, gan ddweud: "Dwi'n meddwl bod addysg yn rhan fawr o'r broblem dan sylw."
Dywedodd hefyd fod cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi cyfleoedd cadarnhaol iddo rannu cynnwys gyda ffrindiau a helpu'r Urdd i greu cynnwys ar TikTok, gan ychwanegu bod hynny'n dangos "pa mor bositif mae pethau'n gallu bod drwy hybu diwylliant Cymraeg".
Awgrymodd fod diffyg gweithgareddau a mannau i bobl ifanc yn cyfrannu at y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn llenwi'r bwlch."
'Rhoi plaster ar y mater'
Yn y cyfamser, dywedodd cyn-Bennaeth Rheoleiddiol Ofcom yng Nghymru, Elinor Williams, nad gwaharddiad llwyr yw'r ateb", gan ddisgrifio'r cynllun fel un sy'n "rhoi plaster ar y mater".
Dywedodd fod angen gorfodi'r ddeddf diogelwch ar-lein yn fwy cadarn a sicrhau bod cwmnïau technoleg yn dylunio eu gwasanaethau mewn ffordd sy'n cadw plant yn ddiogel.
"Mae angen mynd i'r afael â'r cynnyrch, nid atal mynediad," meddai, gan ychwanegu fod angen gwell rheoleiddio, mwy o addysg i blant am sut mae algorithmau'n gweithio, a mwy o gyfrifoldeb gan rieni wrth reoli mynediad eu plant at y llwyfannau hyn.
Ychwanegodd ei bod yn poeni y gallai gwaharddiad llwyr "wthio pobl ifanc i gorneli tywyllach i raddau o'r rhyngrwyd" lle na fydd yr un lefel o reoleiddio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn asesu effaith y cyhoeddiad ar faterion sydd wedi eu datganoli ac felly sy'n cael eu penderfynu ym Mae Caerdydd.
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymroddi i warchod pobl ifanc ar-lein a byddwn yn parhau i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg.
"Ochr yn ochr ag unrhyw gyfyngiadau mae angen i ni hefyd ganfod cyfleoedd i sicrhau y gall pobl ifanc drin a chael mynediad i wybodaeth ar-lein yn ddiogel.
"Bydd angen i ni asesu'n ofalus oblygiadau cyhoeddiad Llywodraeth y DU i ystyriaeth yr effeithiau, yn enwedig ar faterion datganoledig fel addysg, iechyd a lles."
'Fel codi ffens o gwmpas y môr'
Cafodd y gwaharddiad cyntaf yn y byd ei gyflwyno yn Awstralia i blant dan 16 oed ym mis Rhagfyr 2025 ac mae ffynonellau o fewn y llywodraeth yn disgrifio cynllun y DU fel "Australia-plus".
Yn ôl y newyddiadurwr yn Awstralia, Andy Bell, mae "un miliwn yn llai" o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ers hynny ond awgrym bod llawer o'r rheiny "yn gyfrifon ffug ta p'un" ac "ychydig" yn gyfrifon defnyddwyr ifanc.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast fod canran y bobl dan 16 oed sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn y wlad wedi gostwng o 84% i 78%, "felly mae 'na leihad wedi bod ond dyw e ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol".
"Wedi dweud hynny, nid yw llywodraeth ffederal Awstralia wedi mynnu ei fod yn llwyddiant ysgubol.
"Mae'r gweinidog [sy'n gyfrifol am faterion cyfathrebu] Annika Wells wedi dweud mae'r gwaharddiad 'wedi codi ffens o gwmpas y môr' - dyna gryfder y cyfryngau cymdeithasol a'r safle cry' sy' ganddyn nhw yn ein cymdeithas ni."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill

- Cyhoeddwyd21 Ionawr

