Fformiwla Barnett - y dull dadleuol o ariannu Cymru sy'n 'amhosib' cael gwared arno

Mark Drakford, Andy Burnham a Richard Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images + BBC
GanGwenno Robinson
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Gyda hi'n edrych yn debygol iawn mai Andy Burnham fydd Prif Weinidog nesaf y DU, mae trafodaethau am beth y gallai hyn ei olygu i ddatganoli a'r ffordd mae Cymru'n cael ei hariannu wedi ail-danio.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones ar bodlediad Gwleidydda yr wythnos ddiwethaf fod y canfyddiad bod Cymru'n cael cam o fformiwla Barnett "wedi dyddio".

A chred cyn-brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ydy y byddai'n "amhosib just cael gwared" arni.

Ond, o le ddaeth y fformiwla a pham ei bod hi'n cael ei defnyddio?

Mae gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio fformiwla o'r enw fformiwla Barnett.

Roedd Joel Barnett yn weinidog cabinet Llafur yn yr 1970au ac fe oedd y dyn a ddatblygodd y model ariannu yma.

Felly, cafodd y fformiwla ei henwi ar ei ôl.

Bwriad y fformiwla yw sicrhau bod lefelau gwariant cyfatebol yn cael eu cynnal ar draws y DU - boed hynny'n gynnydd neu'n ostyngiad mewn gwariant.

Mae'r fformiwla felly yn ystyried maint poblogaeth Cymru.

Ond, yn hanesyddol, mae nifer wedi dadlau y dylai mwy o bwyslais gael ei roi ar anghenion poblogaeth Cymru wrth i'r cyfrifon gael eu gwneud.

Andy BurnhamFfynhonnell y llun, EPA/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn hyn, Andy Burnham yw'r unig ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur

Pa mor deg ydy fformiwla Barnett i Gymru?

Yn ystod ymgais Andy Burnham am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015, dywedodd ei fod yn gwybod bod Cymru wedi derbyn cyfran annheg o isel o wariant y DU pan oedd yn weinidog y Trysorlys wyth mlynedd ynghynt.

Dywedodd wrth BBC Cymru bryd hynny, nad oedd wedi gallu newid polisi'r llywodraeth ond "rwy'n credu bod Cymru wedi cael ei gadael yn brin [short-changed] ac fel arweinydd byddwn yn cymryd camau i gywiro hynny".

Dwy flynedd yn ôl, ysgrifennodd Burnham mewn llyfr ei bod hi'n amser "rhwygo" y trefniadau ariannu presennol.

Ond, mae'r BBC ar ddeall, fod Burnham bellach wedi newid ei feddwl a bod dim bwriad ganddo i wneud newidiadau i'r drefn ariannu pe bai yn dod yn Brif Weinidog.

Yn 2015, cyflwynodd Llywodraeth Geidwadol y DU 'lawr ariannu' i fformiwla Barnett er mwyn sicrhau na fyddai ariannu i bob pen yng Nghymru yn syrthio yn is na 115% o'r ffigwr yn Lloegr.

Pwrpas hyn oedd sicrhau bod yr arian ychwanegol mae Cymru'n derbyn o gymharu â Lloegr yn cael ei gynnal.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod yna "ganfyddiad hollbresennol ym mywyd Cymru, bod Cymru'n cael cam o fformiwla Barnett".

Dadleuodd bod y farn yma bellach wedi ei ddyddio o ganlyniad i'r newidiadau o 2015.

Yn yr Alban, does 'na ddim ffactor sy'n seiliedig ar anghenion wedi'i gyflwyno.

Mark Drakeford a Vaughan Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford fuodd ar bodlediad BBC Radio Cymru, Gwleidydda gyda Vaughan Roderick

Beth nesaf i Barnett?

Yn siarad ar bodlediad Gwleidydda yr wythnos hon, dywedodd cyn-brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y byddai'n "amhosib i just cael gwared ar [fformiwla] Barnett" gan y byddai'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gwrthwynebu hynny yn chwyrn.

"Mae, yn fy marn i, yn amhosibl i just cael gwared ar Barnett, bydd yr Alban ddim yn fodlon neud hynny, fydd Gogledd Iwerddon ddim yn fodlon i neud hynny... dydyn nhw ddim eisiau ail-agor y system yna," esboniodd.

"Mae lot o bethau ni'n gallu 'neud gyda fformiwla Barnett i gael hwnna yn gweithio yn well i Gymru… i bob un sy'n rhan o'r system. Ac i fi, mae e lot yn well i ganolbwyntio ar hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.