'Hyd at £30m' yn llai i Gymru oherwydd cynlluniau amddiffyn y DU

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "bryderus iawn" y gallai ysgolion, ysbytai a chynlluniau eraill "golli allan ar gyllid hanfodol"

  • Cyhoeddwyd

Gallai cyllid ar gyfer adeiladau a seilwaith yng Nghymru gael ei dorri cymaint â £30m o fewn y flwyddyn nesaf oherwydd cynlluniau amddiffyn Llywodraeth y DU, yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru.

Ddydd Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl colli arian o'u cyllideb gyfalaf o £3.7bn oherwydd y cynllun buddsoddi yn yr amddiffyn - ond bryd hynny nid oedd yn glir faint.

Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd eu bod yn disgwyl toriadau pellach mewn blynyddoedd i ddod.

Pe bai £30m yn cael ei dorri, byddai hynny tua 0.8% o'r gyllideb gyfalaf, ond mae ffigurau cyfredol yn awgrymu bod popeth heblaw am £29,000 wedi'i ddyrannu o dan gynlluniau presennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU wrth y BBC y "byddai unrhyw newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru i gyfrannu at ein hamcan cyffredin o gadw Cymru'n ddiogel yn fach o'i gymharu â'r setliad mwyaf yn hanes datganoli a sicrhawyd ar gyfer yr adolygiad gwariant hwn, gan gynnwys bron i £6.5bn mewn pŵer gwario ychwanegol i Lywodraeth Cymru."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "bryderus iawn" y gallai ysgolion, ysbytai a chynlluniau eraill "golli allan ar gyllid hanfodol" am flynyddoedd i ddod.

Mae ffynhonnell o Lafur Cymru sy'n agos at Lywodraeth y DU yn dweud y bydd y "cyfraniad" gan Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf yn "fach iawn".

Ychwanegodd bod Plaid Cymru yn ymddwyn mewn ffordd "ddiofal" ym maes diogelwch cenedlaethol.

Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Syr Keir Starmer fuddsoddiadau newydd ym maes amddiffyn ddydd Mawrth

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd cynnydd o £15bn mewn gwariant amddiffynnol yn cael ei ariannu drwy dorri cyllidebau buddsoddi mewn meysydd eraill.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cael ei hariannu'n bennaf gan Lywodraeth y DU, yn seiliedig ar gyfrifiad o'r hyn sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn Lloegr.

Os bydd cyllidebau'n cael eu torri yn Lloegr, gall hynny olygu llai o arian i weinidogion Cymru.

'Gwbl annerbyniol'

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Dwi'n gwybod ein bod yn rhannu ymrwymiad i ddiogelwch a sicrwydd ein dinasyddion yng Nghymru a'r DU ehangach, ac mae'n bwysig bod gan y lluoedd amddiffyn offer digonol i wynebu bygythiadau modern.

"Fodd bynnag, roeddwn i'n bryderus iawn o glywed bod cyllidebau cyfalaf Llywodraeth Cymru yn wynebu toriadau eleni ac yn y blynyddoedd dilynol i ariannu'r Cynllun Buddsoddi yn yr Amddiffyn, sy'n golygu y gallai ysgolion, ysbytai a phrosiectau seilwaith yng Nghymru golli cyllid hanfodol o ganlyniad."

Honnodd nad oedd "rhybudd ymlaen llaw o union faint y toriadau hyn" - a dywedodd iddo glywed amdanyn nhw gyntaf yn y cyfryngau.

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n gwbl annerbyniol bod cyllidebau cyfalaf Cymru, sydd eisoes dan bwysau, bellach yn cael eu torri o bosibl gan filiynau lawer o bunnoedd yn y flwyddyn ariannol hon - a'r blynyddoedd i ddod - i ariannu cynllun na chawsom unrhyw lais ynddo."

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod y cynllun yn cynnwys £50m i Gymru, a gafodd ei gyhoeddi'n gynharach eleni a fydd yn anelu at helpu cwmnïau bach a chanolig i dyfu.

Dywedodd ffynhonnell o Lafur Cymru fod ymateb Plaid Cymru "i ddiogelu amddiffynfeydd y wlad yn siomedig ond nid yn syndod".

Dywedodd ffynonellau yn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru fod y Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi mynychu cyfarfod lle cafodd y cynlluniau gwariant amddiffyn eu trafod.

Yn ôl y Blaid Lafur roedd y cyfarfod yn cynnwys gweinidogion o'r Trysorlys a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac roedd Jones yn gefnogol yn ystod y cyfarfod a chytunodd pobl y byddai ffigurau yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru.

Daeth y cyfarfod i ben ar delerau da, meddai'r ffynhonnell.

Dywedodd ffynhonnell llywodraeth Plaid Cymru fod y gweinidog cyllid yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Mawrth ac wedi ei "synnu na chafodd unrhyw ffigurau eu rhannu gyda hi yn y cyfarfod".

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai £10.3bn yn cael ei symud o adrannau Llywodraeth y DU i ariannu gwariant amddiffyn ychwanegol. Bydd yn rhaid dod o hyd i £4.7bn arall yn y gyllideb nesaf, meddai.

Mae Llafur Cymru wedi bod yn rhoi pwysau ar Blaid Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf dros amddiffyn, a thros a yw'r blaid yn cefnogi'r gynghrair amddiffyn NATO.

Pan ofynnwyd iddo am aelodaeth NATO yn y Senedd wythnos diwethaf, dywedodd y prif weinidog nad oedd yntau na Phlaid Cymru "erioed wedi eirioli dros y DU yn tynnu allan o NATO nac wedi awgrymu hynny".

"Wrth gwrs, byddai'n fater i Gymru annibynnol, yn y blynyddoedd i ddod, benderfynu pa fath o gysylltiad neu aelodaeth fyddai ganddi â NATO," ychwanegodd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.