Trigolion yn gorfod gadael eu cartrefi wedi tân mawr yn y gogledd

Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud bod angen i rai o drigolion Capelulo adael eu cartrefi yn dilyn tân mawr ar Fwlch Sychnant
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion mewn pentref yn Sir Conwy wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân mawr yn yr ardal.
Mae'r gwasanaethau brys wedi dweud wrth drigolion Capelulo, ger Penmaenmawr, sy'n byw'n agos i dafarn y Fairy Glen i adael yr ardal oherwydd y mwg sy'n dod o dân mawr ar Fwlch Sychnant.
Dywedodd Cyngor Tref Penmaenmawr bod Clwb Golff Penmaenmawr wedi agor fel lloches i'r rhai sydd wedi'u heffeithio.
Ychwanegodd y cyngor tref y dylai bobl osgoi'r ardal er mwyn cadw'r ffyrdd yn glir i'r gwasanaethau brys.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd y dylai trigolion lleol gadw'u drysau a ffenestri ar gau a bod Hen Ffordd Conwy yn Nwygyfylchi ar gau oherwydd y tân.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.