Cicio - y C'mon Midffîld newydd?

Gruff Huws o Langefni sy'n gyfrifol am gynhyrchu a sgriptio Cicio
- Cyhoeddwyd
Bron i 40 mlynedd ers i C'mon Midffîld! ymddangos gyntaf ar sgriniau teledu, mae cyfres gomedi newydd am hynt a helynt tîm pêl-droed llawr gwlad yn prysur wneud enw i'w hun.
Gruff Huws o Langefni yw cynhyrchydd, cyfarwyddwr, sgwennwr a phopeth sy'n ymwneud â'r comedi newydd hwn o'r enw Cicio.
Drwy garedigrwydd ei ffrindiau a'i deulu, mae Gruff yn dod â'i ddychymyg yn fyw ar y cae pêl-droed.
Cafodd sgwrs ddiweddar gyda Manon Steffan Ros ar y rhaglen Llwyfan am ei brosiect newydd sydd eisoes yn tynnu sylw ac yn casglu dilynwyr ar-lein.

Aelodau o gast Cicio gan gynnwys y rheolwr cegog - Dafydd Jakes
Mae Cicio yn dilyn helyntion y Pencraig Panthers, tîm pêl-droed lleol, a'r hyn sy'n digwydd ar y cae yn ystod eu gemau.
Wrth gwrs, i gyd-fynd â naws y gyfres, mae yna gymeriadau lliwgar iawn, gan gynnwys rheolwr tanllyd CPD Talwrn, Dafydd Jakes, a'r sylwebydd meddw Derwyn Pugh.
Roedd Gruff wedi sylwi bod prinder comedi Cymraeg sy'n defnyddio iaith naturiol, ac roedd yn chwilio am ffyrdd i lenwi bwlch yn y sîn gomedi yng Nghymru.
"Jest comedi am dîm pêl-droed Cymraeg a'r shenanigans sy'n digwydd o amgylch hynny, sydd wir yn digwydd yn bywyd go iawn ar y cae ar y lefel isel o ffwtbol yng Nghymru," eglurai Gruff.
Mae Gruff yn dibynnu ar ei deulu a'i ffrindiau i gymryd rhan, gyda sawl un yn mynd ymhellach na'r disgwyl i wneud i'r rhaglenni weithio - boed hynny drwy ffugio ymladd ar y cae pel droed, neu wneud rhywbeth ychydig yn symlach, sef sgorio gôl.
"Mae o'n challenge, ond mae gweithio hefo nhw i gyd yn bleser. Mae rhai ohonyn nhw yn gallu actio reit dda. Ro'n i'n gweithio efo Iago, a fo ydi'r commentator - Derwyn, ond mae gweddill y cast, y rhan fwyaf ohona ni, heb actio ers ysgol gynradd," meddai.
Daeth y syniad yn wreiddiol drwy gysylltiad Gruff â Chlwb Pêl-droed Cefni.
"Nes i baseio'r Panthers arnyn nhw, y sdwff sy'n digwydd yng ngemau Cefni, mae nhw'n hilarious, 'box office'.
"Nes i grybwyll o yr haf diwethaf yn y grŵp chat fy mod i eisiau gneud spoof o Sgorio a gofyn os oedden nhw eisiau bod yn rhan o hynny, ac fe ddaeth yr hogia," meddai.

Criw a rhai o gast Cicio ar ôl gorffen ffilmio
Mae'n deg dweud nad yw'r cynnwys efallai ar gyfer plant ifanc, gan fod rhegfeydd i'w clywed fel rhan o'r sgript. Ond wrth drafod yr iaith, roedd Gruff yn falch o allu dangos ongl o'r iaith Gymraeg sydd efallai ddim yn cael ei chlywed neu ei gweld yn aml.
"Dwi'm yn teimlo fod 'na ddigon o bethau fel hyn yn y Gymraeg. Dwi'n meddwl ein bod ni angen mwy.
"Dwi'n sgwennu sut mae pobl yn siarad. Dwi mor falch o lle dwi'n dod yn Llangefni a dwi mor falch o'r iaith Gymraeg, dwi just isho dangos yr ochr arall.
"Dwi eisiau profi pwynt bach, gwneud i bobl chwerthin a dangos pa mor brydferth ydy'r iaith naturiol," meddai.
O ran defnyddio rhegfeydd, roedd Gruff yn teimlo y buasai wedi methu a "thorri drwodd" yn y cyfryngau prif ffrwd.
"Dwi'n falch o'r iaith, dwi'n meddwl bod o'n bwysig i ni gael pethau efo iaith graenus a geiriau da, ond efo'r content a'r rhegi dwi'n rhoi yn Cicio, dwi'n teimlo fysa fo'n anodd i dorri drwodd yn y mainstream media. Ond tydw i ddim yn meindio cadw hwn ar y ffrinj," meddai.
Mae hi'n debyg fod y penderfyniad i gadw Cicio ar y we ac i ffwrdd o'r cyfryngau prif ffrwd wedi talu ar ei ganfed i Gruff.
"Mae'r ymateb wedi bod yn unreal. To'n i ddim yn disgwyl i betha fynd mor fawr, mor sydyn, ond mae pobl yn dod i fyny ata i ar y stryd ac at yr actorion.
"Dwi'n cael rhai pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn dod fyny ata i a dweud 'I don't understand Welsh but I love those videos.'
"Mae nhw'n uno pobl ac yn rhoi cynnwys i bobl Gymraeg allu trafod, yn yr iaith lle allwn ni ddathlu a bod yn prowd ohono.
"Dwi mor falch fod pobl or Gogledd a'r De yn dod ata i i ddweud faint ma nhw'n fwynhau, mae mwy i ddod," meddai.
Mae'n bosib gwylio'r gyfres drwy chwilio am Cicio ar y we.
Hefyd o ddiddordeb:
C'mon Midffîld: Ffans a phodledwyr yn cyhoeddi llyfr am y gyfres
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
Yn ôl i Midffîld: Y cast yn hel atgofion am y gyfres eiconig
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.