'Bendigedig cael dychwelyd i Gymru i weld cerflun fy hen fodryb'

Maura, Sarah a Lilian gyda'r cerflun o Elizabeth Andrews
- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o'r Rhondda, mae Maura High wedi bod yn byw yn Unol Daleithiau America am y rhan fwyaf o'i bywyd, ac newydd fod ar ymweliad yn ôl i Gymru.
Dyma oedd ei thro cyntaf hi yma ers dechrau dysgu Cymraeg yn ystod y Cyfnod Clo. Ac roedd hi wedi dod draw am reswm arbennig iawn; i seremoni dadorchuddio cerflun ei hen fodryb, Elizabeth Andrews, yr ymgyrchydd dros hawliau menywod a phlant o'r Rhondda.

Elizabeth Andrews, un o ymgyrchwyr gwleidyddol benywaidd mwyaf dylanwadol dechrau'r 20fed ganrif
Cafodd y cerflun ohoni ei ddadorchuddio ar 25 Mehefin, fel rhan o ymgyrch Monumental Welsh Women, ac roedd Maura yno gydag aelodau ei theulu.
I Maura, sy'n cofio Elizabeth yn iawn, roedd y seremoni wedi ei hatgoffa o bwysigrwydd cenedlaethol ei hen fodryb.
"Roedd hi'n brofiad anhygoel," meddai. "Y peth pwysicaf i fi oedd gweld cymaint o bobl, dim yn unig fy nheulu i, ond pobl o'r dref, o'r wlad, Aelodau o'r Senedd, y cyfryngau.
"Cofiais i bryd hynny pa mor bwysig ac enwog oedd fy hen fodryb – dwi'n cofio fy hen fodryb, dim y person cyhoeddus."
Hen fodryb Elizabeth
Cafodd Maura ei geni yn Y Porth, Y Rhondda, a threuliodd beth o'i phlentyndod ym Mhacistan a Malaysia oherwydd swydd ei thad.
Ond yn 10 oed, aeth hi a'i chwaer, Linda, i fyw gyda'u mam-gu a'u tad-cu ym Merthyr Tudful, a dyna pryd mae'n cofio gweld cryn dipyn ar ei hen fodryb Elizabeth.
"Roedd hi'n dod i Ferthyr yn aml er mwyn ymweld i gael paned neu ginio neu swper gyda ni, er ei bod yn byw yn y Rhondda. Doedd dim car gyda ni, felly roedd hi dipyn bach yn anodd i ymweld, i groesi'r mynyddoedd, i fynd i'r Rhondda o Ferthyr. Roedd angen mynd i Bontypridd i newid trên i fynd lan!

Maura (dde) gyda'i mam-gu a'i chwaer, Linda
"Roedd hi wedi marw pan o'n i'n 12 oed, felly dwi'n cofio llawer o amseroedd gyda hi yn dda.
"Dwi'n cofio unwaith hi, fi, fy mam-gu a fy chwaer, yn mynd i Lundain i ymweld â George Thomas, yr AS o Ferthyr, i gael paned yn y Senedd! Roedd e'n hyfryd iawn i deithio gyda hi.
"Roedd hi'n fenyw caredig a chynnes."

Cafodd y cerflun ei greu gan Billie Bond
Roedd Maura yn falch iawn o gael gweld y cerflun sydd nawr i'w weld ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda; cofnod parhaol o ymdrech a gwaddol ei modryb.
"Mae Elizabeth yn edrych yn ifancach yn y cerflun. Dwi'n cofio hen fenyw, dim menyw yn ei 30au. Dwi'n meddwl fod y ferch ifanc yn hyfryd hefyd – dwi'n meddwl fod plant yn y parc am weld y ferch a teimlo yn agos i'r cerflun.
"Roeddwn i a fy nheulu yn teimlo cysylltiad gyda hi, a gyda'r bobl eraill yno."
'Teimlo mwy fel Cymraes'
Yn blentyn, roedd sain y Gymraeg i'w chlywed yng nghartref Maura, wrth i'w mam-gu a'i hen fodryb sgwrsio, ac roedd rhaglenni Cymraeg ymlaen ar y teledu a'r radio, ond chafodd yr iaith mo'i phasio i lawr i Maura heblaw am ambell i ymadrodd.
Penderfynodd fynd ati i ddysgu Cymraeg o ddifri' yn ystod y Cyfnod Clo, gan fanteisio ar wersi ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Maura wedi teithio nôl i'w mamwlad yn rheolaidd ers symud i'r Unol Daleithiau, ond y tro yma, roedd yr ymweliad yn 'wahanol' am ei bod yn gallu siarad Cymraeg
Er nad oes ganddi neb i siarad Cymraeg â nhw ble mae hi'n byw ger Chapel Hill yn North Carolina, mae hi'n gallu ymarfer yr iaith yn rheolaidd dros y we gyda siaradwyr rhugl a dysgwyr eraill.
Ers symud i America ddegawdau yn ôl, mae hi wedi dod yn ôl i Gymru i weld ei theulu yn gyson. Ond yr ymweliad yma oedd yr un cyntaf ers ail-afael yn yr iaith; profiad 'gwahanol' iawn meddai. "Ro'n i'n teimlo mwy fel Cymraes nawr!"
Cafodd daith "bendigedig" draw gyda'i merch, Sarah, a'i hwyres, Lilian.
"Ro'n i'n hapus iawn i weld fy nheulu i a hen ffrindiau yn ardal Merthyr a Rhondda Cynon Taf, ac i fod yng Nghymru."

Maura gyda'i chefndryd, Tracey a Keith, o flaen tafarn Y Llew Coch ym Mhenderyn ar ei hymweliad diweddaraf â'i bro genedigol
Er mai newydd gyrraedd yn ôl adref mae hi, mae Maura yn barod yn cynllunio mwy o deithiau yn ôl i Gymru yn y dyfodol i gael ymarfer ei Chymraeg.
"Yng Nghymru, mae llawer o arwyddion [Cymraeg] pob man, a digwyddiadau, a sŵn yr iaith ar lafar o gwmpas.
"Dwi eisiau dod yn ôl mor aml â phosibl, i fynd i gartrefi a threfi a lleoedd lle mae mwy o'r bobl yn siarad Cymraeg.
"Ond mae'n anodd teithio yng Nghymru heb gar, a dwi'n ofnus i yrru yng Nghymru!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Mehefin

- Cyhoeddwyd7 Mehefin

- Cyhoeddwyd13 Mawrth
