Dyn yn gwadu cyswllt rhywiol gyda dwy ferch yn eu harddegau

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o fod yn rhan o grŵp fu'n manteisio ar blant yn rhywiol, wedi gwadu cael unrhyw gyswllt rhywiol gyda dwy ferch yn eu harddegau o'r Rhyl.

Cafodd Jaswinder Singh, 61 oed o'r Rhyl, ei arestio ar ôl i oedolyn godi pryderon am blentyn 15 oed - sy'n cael ei hadnabod fel Plentyn B - pan oedd hi yn Llundain yn Ebrill 2022.

Mi wnaeth ei arestio arwain at honiadau pellach yn ymwneud â thri dyn arall, sy'n gwadu ymosodiadau rhywiol a chyhuddiadau o gynllwynio i fasnachu pobl.

Mae Mr Singh yn gwadu bod yn rhan gynllwyn i fasnachu dwy ferch a chyflenwi canabis iddyn nhw.

Yfed ac ysmygu canabis

Dywedodd Mr Sing iddo fynd â Phlentyn B gydag ef i Lundain er mwyn ei helpu i edrych ar ôl ei gi yn ystod trip penwythnos i weld teulu a ffrind, gyda Phlentyn B yn cynllunio i gwrdd ag un o'i ffrindiau.

Dywedodd Mr Sing nad oedd cynllun pendant ynghylch lle'r oedd y ferch am aros yn Llundain, ond mai'r syniad oedd y byddai hi'n cyfarfod gydag un o'i ffrindiau, neu'n aros ar ei phen ei hun mewn fflat oedd yn perthyn i un o'i ffrindiau ef.

Yn Llundain fe wnaeth y diffynnydd a Phlentyn B gwrdd â ffrind i'r ferch, ac fe aethon nhw i dŷ ffrind Mr Sing - o lle aeth Plentyn B a'i ffrind allan, tra i Mr Sing aros i mewn gyda'i ffrind yn Southall.

Dywedodd Mr Sing fod ffôn Plentyn B wedi cael ei adael yn y cyfeiriad, a phan ganodd hwnnw, ffrind Plentyn B oedd yno.

Erbyn yr amser hwnnw o'r noson, dywedodd y diffynnydd ei fod wedi bod yn yfed ac wedi ysmygu canabis.

'Ychydig yn flin'

Dywedodd Mr Sing fod ffrind Plentyn B wedi dweud wrtho yn ystod yr alwad bod Plentyn B yn 15, gan ei gyhuddo ef a'i ffrindiau o "gael rhyw gyda Phlentyn B a phethau felly".

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr am ei ymateb i hynny, dywedodd y diffynnydd ei fod "ychydig yn flin ond 'nes i ddim ei gymryd o ddifrif".

"Ar ôl ychydig 'nes i sylweddoli beth oedd hi'n ei ddweud a doeddwn i ddim yn hapus."

Dywedodd ei fod yn "flin" gyda phawb a'i fod wedi gwneud cyfres o alwadau a gyrru negeseuon testun i rai o'r rheiny yr oedd ffrind Plentyn B hefyd wedi eu cyhuddo o wneud "pethau rhywiol" gyda Phlentyn B.

"O'n i'n trio cael y wybodaeth allan ohonyn nhw: 'Be' sydd wedi bod yn mynd ymlaen? Pam bod hi'n dweud y pethau yma?'."

'Yr heddlu wedi mynd â hi'

Dywedodd Mr Sing ei fod wedi aros yn nhŷ ei ffrind yn Southall y noson honno a'i fod wedi siarad gyda Phlentyn C y bore canlynol, wedi iddi ffonio ffôn Plentyn B - oedd yn dal yn y cyfeiriad.

Mae Plentyn C yn achwynydd arall yn yr achos.

"Mi wnaeth hi ddweud wrtha' i bod Plentyn B yn ôl yng Nghymru. Dywedodd hi fod yr heddlu wedi mynd â hi yn ôl," meddai Mr Singh.

Cafodd Mr Sing ei arestio yn y cyfeiriad yn Llundain ar yr un diwrnod.

"A gafoch chi erioed unrhyw fath o gyswllt rhywiol gyda Phlentyn B?" gofynnodd ei fargyfreithiwr iddo.

"Na," oedd ateb Mr Sing, gan wadu'r un cwestiwn am Blentyn C.

Cafodd ei holi hefyd a oedd wedi dweud wrth Plentyn B mai ei fwriad oedd iddi beidio â mynd yn ei hôl i ogledd Cymru.

"Na" oedd ei ateb eto, gan wadu hefyd bod unrhyw gymhelliant rhywiol tu ôl y weithred o fynd â Phlentyn B i Lundain.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig