Cannoedd o ysgolion i gau wrth baratoi am y gwres eithafol

Rhybudd cochFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn newid trefniadau wrth i'r wlad baratoi ar gyfer y rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai rhannau o dde a chanolbarth Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae cannoedd o ysgolion wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor am y deuddydd nesaf, gyda phob ysgol yn cael eu hannog i asesu'r risgiau i ddisgyblion ac ystyried gohirio neu addasu gweithgareddau awyr agored.

Dywedodd y prif weinidog Rhun ap Iorwerth fod y rhybudd yn un "difrifol i fywyd" a'i bod yn bwysig bod pobl yn ei gymryd o ddifrif.

"Mae'n debygol iawn y byddwn ni'n gweld y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru dros y dyddiau nesaf," meddai.

Mae'r rhybudd coch mewn grym rhwng 09:00 ddydd Mercher a 21:00 ddydd Iau ar gyfer nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru.

Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru trwy gydol dydd Mercher a dydd Iau, a rhybudd oren arall ar gyfer siroedd y canolbarth a'r de-ddwyrain trwy gydol dydd Mawrth.

Yr olygfa ym Mhenarth fore MawrthFfynhonnell y llun, Nadezna/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ym Mhenarth, Bro Morgannwg fore Mawrth

Mae cannoedd o ysgolion mewn o leiaf 13 sir wedi dweud y byddan nhw'n cau ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tywydd eithafol.

Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae rhai ar gau yn llwyr, ac eraill yn cau'n gynnar i osgoi'r gwaethaf o'r tywydd poeth.

Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol.

Mirgathod Sw Mynydd Cymru yn torheulo yn yr haulFfynhonnell y llun, Sw Mynydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mirgathod Sw Mynydd Cymru yn torheulo yn yr haul - mae'r sw yn cymryd mesurau i ddiogelu eu hanifeiliaid yn y tywydd poeth

Mae cynghorau'n dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gydag ysgolion i asesu'r risgiau.

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo' modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

Galw am 'weithredu ar unwaith'

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog pobl i "weithredu ar unwaith" yn sgil y rhybudd coch.

"Gall gwres eithafol gael effeithiau difrifol ar iechyd," meddai'r corff.

"Yng Nghymru, lle nad yw cartrefi a threfnau dyddiol wedi'u cynllunio ar gyfer tymereddau uchel parhaus, gall pobl fynd yn sâl yn gyflymach nag y gallent ei ddisgwyl.

"Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ond mae pobl hŷn, babanod a phlant bach, a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn wynebu'r risg fwyaf.

"Gall pobl sy'n gweithio yn yr awyr agored, yn byw mewn fflatiau ar y llawr uchaf, neu sy'n agored i'r gwres am gyfnodau hir fod yn arbennig o agored i niwed hefyd."

Maen nhw'n annog pobl i yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcohol, caffein a diodydd llawn siwgr, ac aros allan o'r haul ac yn y cysgod cymaint â phosibl.

Yr haul yn tywynnu'n Nhalgarth, Powys fore MawrthFfynhonnell y llun, Mags/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr haul yn tywynnu'n Nhalgarth, Powys fore Mawrth

Mae nifer o gynghorau hefyd wedi newid trefniadau gwasanaethau er mwyn diogelu staff sy'n gweithio yn yr awyr agored.

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau'n gynharach na'r arfer yng Nghaerdydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Amgueddfa Casnewydd, yr Oriel Gelf a'r Llyfrgell Ganolog yn cau ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tymheredd uchel sy'n cael ei ragweld.

Effaith ar y rheilffyrdd

Mae'r diwydiant rheilffyrdd hefyd yn paratoi ar gyfer problemau posibl oherwydd y gwres, gan gynnwys gwifrau trydan yn sagio, traciau'n ystumio a thanau ar ochr y rheilffordd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio am darfu ar rai gwasanaethau yn ne Cymru, gan gynnwys rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd a rhwng Coryton a Phenarth.

Mae Great Western Railway wedi dweud y bydd yn rhedeg amserlen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod o wres eithafol, gan annog pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol ddydd Mercher ac Iau oherwydd y risg y gallai'r gwres effeithio ar y traciau a rhai trenau.

Dyn yn yfed dŵr yn yr haul
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai Rhun ap Iorwerth

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp lefel uchel sy'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i gydlynu'r ymateb.

Ychwanegodd fod llythyr wedi'i anfon at gyfarwyddwyr addysg ledled Cymru yn pwysleisio bod plant ymhlith y rhai a all fod yn fregus yn ystod y gwres eithafol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cymunedau'n chwarae rhan bwysig wrth edrych ar ôl pobl fregus, gan annog pobl i "gadw llygad ar ein gilydd" yn ystod y cyfnod poeth.

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig