Chwech o bobl yn yr ysbyty wedi i fws droi drosodd yn Sir Gâr

- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gyhoeddi "digwyddiad difrifol" ddydd Mawrth wedi i fws droi drosodd yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd y llu eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar yr A484 ger cylchfan Parc y Bocs yng Nghydweli am 12:20.
Ychwanegon nhw fod pawb oedd yn teithio ar y bws wedi cael eu symud o'r cerbyd a'u bod yn derbyn "gofal priodol".
Dywedon nhw fod chwech o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty, ond y gred yw nad yw'r anafiadau yn peryglu bywyd.
Cafodd 13 o bobl yn rhagor eu trin yn y fan a'r lle.
Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau am beth amser, ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bod eu timau nhw wedi ymateb i'r digwyddiad hefyd.
"Mae ein hadrannau brys yn brysur, ac mae amseroedd aros yn debygol o fod yn hirach wrth i ni drin yr unigolion sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf."
Dywedodd ficer lleol, Jim Flanagan y cafodd ei ddargyfeirio oherwydd y gwrthdrawiad, gan ychwanegu ei fod wedi gweld to bws dros wrych.
Ychwanegodd fod sawl ambiwlans yno a bod ambiwlans awyr wedi glanio mewn cae gerllaw.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub bod canolfan orffwys wedi'i sefydlu yng Nghanolfan John Burns yng Nghydweli.
Cafodd y statws "digwyddiad difrifol" ei ddiddymu tua 17:30 brynhawn Mawrth.

Mae'r A484 ar gau rhwng Cydweli a Llandyfaelog
Mae cwmni First Bus wedi cadarnhau mai eu gwasanaeth X11 nhw oedd yn rhan o'r digwyddiad.
"Teithiodd tîm o'n depo yn Rhydaman i'r lleoliad ar unwaith i gefnogi ein gyrrwr a gofalu am ein cwsmeriaid," meddai Zoe Hands, rheolwr gyfarwyddwr First Bus yng Nghymru.
"Diogelwch pawb sy'n teithio gyda ni yw ein blaenoriaeth lwyr bob amser ac rydym yn gweithio gyda'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans i ofalu am y rhai sydd ei angen a deall yr amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad yma."
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y tri aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli etholaeth Sir Gaerfyrddin ar ran Plaid Cymru - Cefin Campbell, Nerys Evans ac Adam Price - eu bod yn "bryderus ofnadwy" o glywed am y digwyddiad.
"Mae ein meddyliau dwysaf gyda'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r ddamwain ac mae ein diolch diffuant i'r gwasanaethau brys sydd wrthi'n ymdrin â'r sefyllfa."