Vaughan Roderick yn poeni am ddyfodol newyddiaduraeth

Dywed Vaughan Roderick fod pobl yn gadael newyddiaduraeth "i wneud pethau fel bod yn gynorthwywyr mewn ysgolion cynradd, oherwydd bod y cyflogau mor sâl"
- Cyhoeddwyd
Mae'r gohebydd a chyflwynydd Vaughan Roderick wedi sôn am ei bryder am ddyfodol newyddiaduraeth.
Dywedodd Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru bod pobl yn gadael eu swyddi yn y diwydiant ar ôl cyfnodau byr gan fod cyflogau mor isel i'r rhai sy'n dechrau - er eu bod angen o leia' gradd i gael swydd.
Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi newid yn llwyr ers ei gyfnod ef yn dechrau ei yrfa, pan oedd prentisiaethau papurau newydd ar gael i bobl ifanc 16 oed ac nad oedd gradd yn angenrheidiol.
'Angen ôl-radd i gael cyfweliad'
Dywedodd : "[Yn fy nyddiau i] mi roedd y drws yn fwy agored.
"Rwy' yn becso am y proffesiwn y dyddiau yma - bod y proffesiwn yn talu llai a llai a llai ond bod nhw'n disgwyl i rywun gael nid un gradd ond ôl-radd hefyd cyn hyd yn oed cael cyfweliad.
"A fi'n gwybod bod pobl sy'n mynd i weithio - ddim i'r BBC i fod yn deg - ond sy'n mynd i weithio i ystafelloedd newyddion, ac sy'n gadael ar ôl blwyddyn neu ddwy ar ôl hyfforddi am flynyddoedd, i wneud pethau fel bod yn gynorthwywyr mewn ysgolion cynradd, oherwydd bod y cyflogau mor sâl erbyn hyn."

Roedd Vaughan Roderick yn siarad gyda Beti George
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru, dywedodd Vaughan Roderick ei fod ef wedi gallu cychwyn ar ei yrfa heb gael gradd, wedi iddo adael Prifysgol Bangor ar ôl dim ond blwyddyn yn yr 1970au.
Gweithiodd am gyfnod yn catalogio i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan cyn dod yn gyflwynydd ar BBC Radio Wales a gorsafoedd radio masnachol, a magu profiad fel newyddiadurwr.
Trafod dyddiau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd
Gwrandewch ar Gwleidydda gyda Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones
Ers blynyddoedd bellach mae'n wyneb cyfarwydd ar raglenni gwleidyddol ac etholiadol BBC Cymru.
Mae hefyd yn cyflwyno Dros Ginio ar Radio Cymru, Sunday Supplement ar Radio Wales, a phodlediad Gwleidydda ar BBC Sounds.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ers yn blentyn, a byddai ei dad - y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Selwyn Roderick - yn mynd ag ef i wrando ar wleidyddion yn siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus.
Fe gafodd ieir y teulu eu henwi ar ôl gwleidyddion, gan gynnwys Harold ar ôl y prif weinidog Llafur Harold Wilson, Jemima ar ôl arweinydd y Rhyddfrydwyr yn yr 1970au Jeremy Thorpe, a Gwynfor ar ôl AS cyntaf Plaid Cymru Gwynfor Evans.
Dyfodol ansicr papurau newydd
Dywedodd Vaughan bod sefyllfa'r diwydiant papurau newydd hefyd yn bryderus.
Tra bod nifer fawr yn darllen straeon digidol ar wefannau'r papurau newydd, meddai, mae'r elw yn dod o werthiant y papurau - sy'n isel ac yn parhau i ostwng.
"Y dyddiau yma maen nhw'n codi £5 neu £6 am y papurau yma, a mae'r hen bobl sydd yn eu darllen nhw yn fodlon talu," meddai.
"A beth sy'n digwydd pan mae'r genhedlaeth olaf yna wedi mynd, pwy a ŵyr?
"Hynny yw, beth yw'r model busnes sydd yn mynd i gynnal papurau?
"Mae'n anodd iawn gwybod, oherwydd dyw pobl ddim yn gwneud elw o'u gwefannau nhw."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 2 Awst neu ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
