Lluniau: Golwg newydd ar Aberafan ar ôl i'r ffwrnes olaf gau

- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa newydd o luniau gan y ffotograffydd uchel-ei-barch, Jon Pountney, dolen allanol, newydd agor yn Y Plaza, Aberafan, tan Awst 14 - gan gyflwyno delweddau trawiadol o weithfeydd dur Port Talbot, portreadau o bobl leol a lluniau o dirlun diwydiannol syfrdanol y dref.
Mewn partneriaeth â'r prosiect ymchwil After the End, mae'r casgliad Steeling Ourselves yn ddogfen weledol o'r gweithfeydd a'r dref ei hun sydd yn sefyll ar groesffordd hanesyddol, bron i ddwy flynedd ers i'r ffwrnes olaf gau.
I Pountney, mae'r strwythurau enfawr hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo ers y tro cyntaf iddo yrru heibio'r lle ar yr M4 yn 1998:
"Cefais fy syfrdanu wrth weld y fflamau glas a'r pwffiadau o stêm yn codi o'r Gweithfeydd Haearn, fel ei fod yn ymestyn o amgylch y bae gan wneud i'r dref edrych yn fychan o gymharu.
"Rwyf wastad wedi gweld beth fyddai llawer yn ei alw'n 'hyll' fel rhywle diddorol iawn i weithio."
'Syfrdanol yn ei faint'
Fel un o'r ffotograffwyr olaf i gael mynediad i mewn i'r ffwrnes ei hun cyn iddi gau, mae ei luniau'n dal maint a gallu aruthrol y gweithfeydd. Meddai am y profiad o fod yn nghrombil y ffwrnes:
"To see the Works from within gave me a sense of being within a huge living machine, awe inspiring in its scale. I found it really difficult to do justice to these vistas in my photos. The town keeps calling me back."
Mae'r arddangosfa am ddim ac ar agor yn Y Plaza, Aberafan, rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst.











Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror

- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
