Pobl ifanc mewn balaclafas yn targedu defnyddwyr llwybr Taith Taf

Taith TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni wedi dweud bod nifer o blant wedi cael eu targedu tra ar eu beiciau ar y llwybr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n cynnal patrolau ychwanegol ar lwybr cerdded a seiclo poblogaidd yng Nghaerdydd yn dilyn ymosodiadau gan bobl ifanc yn gwisgo balaclafas.

Mae pobl wedi bod yn cael eu targedu ar lwybr Taith Taf, yn enwedig yn ardaloedd Parc Hailey, Gabalfa a Llandaf - gan gynnwys un ymgais i ymosod ar swyddogion heddlu oedd mewn dillad plaen.

Mae rhieni wedi dweud bod nifer o blant wedi cael eu targedu tra ar eu beiciau ar y llwybr yn y deufis diwethaf.

Mae Heddlu De Cymru wedi cynyddu patrolau ar y llwybr - sy'n ymlwybro 55 milltir o Aberhonddu ym Mhowys i'r brifddinas.

Mae'r llu wedi dweud bod dau berson ifanc wedi cael eu harestio yn dilyn digwyddiadau ar y llwybr, ond nid oedd yr heddlu'n gallu darparu data ar gyfer nifer y troseddau ar y llwybr fis Mehefin.

Arwydd Taith TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taith Taf yn ymlwybro 55 milltir o Aberhonddu i Gaerdydd, ond mae'n ymddangos mai yn y brifddinas mae'r trafferthion

Yn ôl map troseddu Heddlu'r De, roedd 34 adroddiad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Ystum Taf fis Mehefin.

Roedd 18 adroddiad o'r fath yng Nglanyrafon - ardal arall mae Taith Taf yn mynd trwyddi - ac wyth yn ardal Gabalfa.

Yn siarad mewn cyfarfod am ddiogelwch seiclwyr ar 28 Gorffennaf, dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell bod person ifanc wedi cael ei arestio ar Daith Taf ychydig wythnosau yn ôl wedi iddo "fod yn barod i ymosod" ar ddau swyddog nad oedd yn eu gwisg heddlu.

Mae'r llu wedi cadarnhau hefyd y cafodd bachgen 13 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio dwyn yn ardal Gerddi Sophia ar 23 Gorffennaf.

Yn dilyn patrol gan heddweision mewn dillad plaen fe gafodd bachgen arall 11 oed ei arestio.

Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu'r De wedi adnabod llwybr Taith Taf a Pharc Bute fel ardaloedd ble mae cynnydd wedi bod o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc.

'Gafael ynddo a'i wthio'

Dywedodd Kirsten Price, 36 o'r Eglwys Newydd, bod grŵp mawr o bobl ifanc - rhai yn gorchuddio eu hwynebau - wedi ymosod ar ei mab 12 oed tra roedd ar ei feic gwerth £600 ger caeau Blackweir yng Nghaerdydd ar 25 Gorffennaf.

Dywedodd bod y criw wedi taro ei mab oddi ar ei feic cyn troi at ei ffrind a "gafael ynddo a'i wthio".

Fe lwyddodd ei mab i gael ei feic yn ôl a dianc. Ni chafodd ei anafu, ond nid yw wedi bod allan ar ei feic ers hynny, meddai ei fam.

"Dyma'r tro cyntaf i unrhyw beth fel hyn ddigwydd," meddai Kirsten.

Mae mam i ddau o blant o Ystum Taf - oedd ddim eisiau cael ei henwi - yn dweud bod grŵp o bobl ifanc hefyd wedi ymosod ar ei mab 13 oed ger Clwb Rhwyfo Llandaf fis Mehefin.

Rhys HolmesFfynhonnell y llun, Rhys Holmes
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys Holmes ei bod yn "ofid" gorfod poeni am ymosodiadau ar y llwybr

Cafodd Rhys Holmes, 36, ei ddilyn gan berson yn gwisgo balaclafa ar y llwybr.

Mae Rhys yn seiclwr brwd sydd â chyflwr superficial siderosis - cyflwr niwrolegol prin sy'n cael effaith ar yr ymennydd a'r asgwrn cefn - a dywedodd fod y profiad yn un "brawychus, yn enwedig am ei bod hi'n 09:30, a byddech chi ddim yn disgwyl y peth".

Ers ei ddiagnosis mae Rhys wedi gorfod ailddysgu sut i gerdded, mae'n fyddar ac yn gwisgo mewnblaniad cochlear i'w helpu i glywed.

Mae'n defnyddio Taith Taf i seiclo i Pedal Power - elusen mae'n dweud sydd wedi ei helpu yn feddyliol a chorfforol.

"Gyda seiclo wedi rhoi annibyniaeth i fi eto, mae gorfod poeni am hyn yn ofid," meddai.

Tim Ursell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arolygydd Tim Ursell yn siarad mewn cyfarfod am ddiogelwch seiclwyr ar 28 Gorffennaf

Dywedodd yr Arolygydd Ursell bod yr heddlu yn "ymwybodol o'r pryderon yn dilyn cynnydd mewn adroddiadau", a'u bod wedi cynnal mwy o batrolau o ganlyniad.

"Mae hyn yn cynnwys patrolio amlwg [mewn gwisg heddlu] er mwyn sicrhau bod yr ardal yn aros yn ddiogel, ynghyd â phatrolau mewn dillad plaen a'r defnydd o adnoddau arbenigol eraill.

Dywedodd Cyngor Caerdydd hefyd bod "cynlluniau ar y gweill i gynyddu amlder ac amlygrwydd patrolau gan staff diogelwch parciau yn ardaloedd Taith Taf sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiadau yma".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.