Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygolDatblygiad technegau sganio yn yr 20fed ganrif

Mae gwybodaeth feddygol wedi datblygu dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau. Faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn gwybodaeth feddygol dros y canrifoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Datblygiad technegau sganio yn yr 20fed ganrif

Gwellodd gwybodaeth feddygol yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif. Un o’r datblygiadau cynharaf oedd pan wnaeth Wilhelm Rontgen ddarganfod pelydr X yn 1895. Roedd yn arbrofi â phelydrau catod a sylweddolodd y gallen nhw fynd drwy gnawd ond nid drwy esgyrn.

O fewn chwe mis roedd peiriannau pelydr X mewn ysbytai ac fe wnaethon nhw ddylanwadu’n fawr ar feddygaeth. Roedd meddygon yn gallu gweld y tu mewn i’r corff dynol am y tro cyntaf, heb orfod perfformio llawdriniaeth. Roedd y peiriannau pelydr X cyntaf yn cynhyrchu dognau uchel o ymbelydredd oedd yn arwain at sgil-effeithiau.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu i belydrau X achub miloedd o fywydau oherwydd bod llawfeddygon yn gallu perfformio llawdriniaethau yn fwy cywir. Ers hynny mae pelydrau X wedi cael eu defnyddio’n gyffredinol mewn ysbytai er mwyn archwilio problemau esgyrn.

Datblygiadau ers yr Ail Ryfel Byd

Uwchsain

Mae hyn yn defnyddio sŵn amledd uchel er mwyn gweld y tu mewn i’r corff, ac felly mae’n osgoi gorfod defnyddio ymbelydredd pelydr X. Mae’n cynhyrchu delweddau 3D o organau mewnol megis y galon a’r arenau, yn ogystal â chyhyrau, ac ers y 1970au fe'i defnyddiwyd i weld datblygiad babanod yn y groth.

MRI

Mae Delweddu Atseiniol Magnetig (Magnetic Resonance Imaging - MRI) yn defnyddio tonfeddi radio er mwyn creu darlun manwl o organau a meinwe ac fe’i defnyddir i ganfod mannau yn y corff lle mae clefydau.

Sganiau PET

Mae tomograffeg allyrru positronau (PET - positron emission tomography) yn defnyddio llifyn arbennig sydd ag olrheinwyr ymbelydrol ynddo. Mae’r olrheinwyr yma yn cael eu chwistrellu i wythïen. Wrth i’r organau a’r meinwe amsugno’r olrheinwyr, maen nhw'n cael eu uwcholeuo o dan sganiwr PET, sy’n galluogi i feddygon archwilio clefydau megis canser a chlefyd y galon. Mae sganiau CT (tomograffeg gyfrifiadurol) yn driniaethau pelydr X sy’n cyfuno nifer o ddelweddau pelydr X gyda chymorth cyfrifiadur er mwyn cynhyrchu delweddau trawstoriadol o’r organau mewnol a strwythurau’r corff.

Mae’r holl dechnegau sganio yma wedi chwyldroi gwybodaeth feddygol, yn arbennig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n , ond maen nhw'n galluogi meddygon i ganfod clefydau yn gynt, a gwella’r gobaith o oroesi o ganlyniad i hynny.