Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygolDadeni meddygol y 16eg a’r 17eg ganrif

Mae gwybodaeth feddygol wedi datblygu dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau. Faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn gwybodaeth feddygol dros y canrifoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Dadeni meddygol y 16eg a’r 17eg ganrif

Arweiniodd y Dadeni Dysg at ddiddordeb o’r newydd yng ngwybodaeth y Groegiaid hynafol a’r Rhufeiniaid. Roedd hi'n bosib rhannu eu llyfrau meddygol yn hwylus ar ôl dyfeisio’r wasg argraffu fecanyddol yn tua 1440.

Yn dilyn teithiau darganfod pobl megis Christopher Columbus roedd planhigion newydd ar gyfer meddyginiaethau perlysieuol, yn ogystal â thybaco, ar gael yn Ewrop. Astudiodd arlunwyr y Dadeni Dysg, fel Michelangelo a Leonardo Da Vinci, y corff dynol yn fanwl er mwyn ei efelychu mewn celf, a oedd yn helpu i ddatblygu gwybodaeth feddygol.

Ond, roedd y syniadau yma hefyd yn annog pobl i feddwl dros eu hunain, ac yn fuan roedden nhw'n dechrau herio hen syniadau, ee athrawiaethau a .

  • Roedd meddygon fel Andreas Vesalius a William Harvey yn dechrau arbrofi a datblygu syniadau newydd am anatomi a chylchrediad y corff.
  • Roedd dyfeisio argraffu yn golygu y gellid cynhyrchu llawlyfrau meddygol, gyda brasluniau cywir o’r corff dynol, yn rhatach ac roedd hynny’n helpu i ledaenu syniadau yn gyflym.
  • Roedd arfau newydd, ee powdwr gwn, yn gorfodi meddygon maes y gad i feddwl am ffyrdd newydd o drin clwyfau.

Roedd yna rai unigolion a wnaeth gyfraniadau pwysig i wybodaeth feddygol yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif.