Ambroise Paré

Bu i Paré newid syniadau ynghylch llawfeddygaeth. Cyn Paré, roedd clwyfau yn cael eu trin drwy dywallt olew berwedig arnyn nhw. Er mwyn atal y gwaedu, roedden nhw'n cael eu serioLlosgi clwyf er mwyn stopio'r gwaedu ac atal heintiad. sef eu selio â haearn gwynias.
Dechreuodd Paré ei yrfa fel prentis i’w frawd, oedd yn barbwr-llawfeddyg. Yn 1536, daeth yn llawfeddyg ym myddin Ffrainc, ble gweithiodd am 20 mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma y datblygodd ei syniadau am lawfeddygaeth.
Yn ystod un frwydr daeth y cyflenwad o olew serio i ben. Felly defnyddiodd Paré eli o felynwy, olew rhosod a thyrpant a ddefnyddiwyd yn oes y Rhufeiniaid. Canfu bod y clwyfau a driniwyd â’r gymysgedd hon yn gwella mwy na’r rhai a driniwyd ag olew berwedig.
Yn ystod trychuTorri aelod o'r corff i ffwrdd, ee braich neu goes., yn hytrach na serio, defnyddiodd rwymynnau. Llinynnau sidan i glymu pibellau gwaed oedd rhain. Yn anffodus, ni lwyddodd rhwymynnau i ostwng y gyfradd marwolaethau. Roedd dwylo budr y llawfeddygon a rhwymynnau halogedig yn achosi heintiau yn y clwyfau oedd yn cael eu trin.
Yn 1575, cyhoeddodd ei lyfr Casgliad o Waith Ambroise Paré (Les Oeuvres d'Ambroise Paré) oedd yn annog newidiadau yn y ffordd yr oedd llawfeddygon yn trin clwyfau a thrychiadau.