'Mae angen cerflun i Gwenllian a holl ferched Cymru'

- Cyhoeddwyd
Pan mae rhywun yn meddwl am arweinwyr arwyddocaol Cymreig o'r Oesoedd Canol, mae ffigyrau fel Hywel Dda, Llywelyn Fawr, Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Owain Glyndŵr yn dod i'r meddwl.
Ond rhywun arall sydd efallai ddim yn cael y sylw mae'n ei haeddu yw'r Dywysoges Gwenllian ferch Gruffudd.
Bydd deiseb yn cael ei gyflwyno gerbron pwyllgor deisebau Senedd Cymru yn yr haf yn galw am gerflun o Gwenllian.
'Cydnybyddiaeth' a 'gwerthfawrogiad'
Niklas George sydd yn gyfrifol am y ddeiseb, ac mae'n esbonio pam ei fod yn teimlo mor gryf y dylai Gwenllian dderbyn cerflun:
"'Nes i ddechrau'r ddeiseb 'ma achos o'n i'n teimlo bod Gwenllian ferch Gruffudd yn haeddu lot mwy o gydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad yng Nghymru.
"Roedd milwyr Cymreig yn bloeddio 'dial achos Gwenllian' mewn brwydrau am ganrifoedd wedi iddi farw - cymaint oedd ei dylanwad hi ar y genedl."

Daw Niklas George o'r Rhyl yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn ninas Pune yn India
Niklas sydd yn gyfrifol am y cyfrifon Welsh Histories ar Facebook, ac Welshhistories ar Instagram.
Dywed Niklas fod ei ymgyrch yn rhan o ymdeimlad ehangach, bod merched nodedig yn hanes Cymru heb gael y sylw maent yn haeddu.
"Roedd hi'n dywysoges ryfelgar a fu farw tra'n ymladd yn erbyn y fyddin Normanaidd yng Nghastell Cydweli yn 1136, ac roedd hi'n crisialu'r ysbryd Gymreig yna i fi - ac mae hi'n dal i ysbrydoli!
"Hefyd, mae'r ymgyrch yma'n fwy na jest i Gwenllian - mae'n ymgyrch i gydnabod yr holl ferched yn hanes Cymru, i werthfawrogi ac anrhydeddu nhw, ar lafar, mewn llyfrau hanes neu mewn ffurf cerflun."
Teulu Brenhinol Gwynedd
Ganwyd Gwenllian ferch Gruffudd yn Aberffraw yn 1097, yn ferch i Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, a'i wraig Angharad ferch Owain.
Roedd Gwenllian yn un o wyth o blant, gan gynnwys ei brodyr Cadwallon, Cadwaladr ac Owain Gwynedd - aeth Owain ymlaen i enwogrwydd fel Tywysog Gwynedd a Chymru.
Roedd Gwenllian yn berson hynod drawiadol. Fe briododd â Gruffudd ap Rhys, Tywysog Deheubarth, ac felly unwyd teyrnasai Gwynedd a Deheubarth.
Cafodd tad Gruffudd ap Rhys, Rhys ap Tewdwr, Brenin y Deheubarth, ei ladd mewn brwydr ger Aberhonddu yn 1093 wrth iddo amddiffyn ei deyrnas rhag y Normaniaid. O ganlyniad fe dreuliodd Gruffudd ap Rhys 20 mlynedd yn alltud yn Iwerddon. Pan ddychwelodd i Gymru roedd yn barod i deyrnasu eto.
Roedd Gwenllian yn enwog am ei harddwch, ac fe gafodd hi wyth o blant gyda Gruffudd ap Rhys (pedwar o fechgyn a phedair merch) rhwng 1116 ac 1134.

Mae cofeb i Gwenllian yn bodoli eisoes yng Nghydweli, ond dywed Niklas George ac eraill bod angen cerflun i gydnabod ei phwysigrwydd
Aeth Gwenllian i fyw yng nghartref teuluol ei gŵr yn Ninefwr yn y Deheubarth, a oedd yn rhyfela gyda'r Normaniaid yn ne Cymru ar y pryd, yn ogystal â'r Saeson a'r Fflemiaid.
Adeiladwyd cestyll gan y Normaniaid yn Aberteifi a Phenfro, ond roedd gan Gwenllian a'i gŵr, Gruffudd, hefyd eu cadarnleoedd yn y mynyddoedd a'r coedwigoedd. Roedd rhaid i Gwenllian a Gruffudd wynebu bygythiadau cyson yn y cyfnod hwn.
Gwrthryfel 1136
Ar Ddydd Calan 1136, cafodd Hywel ap Maredudd, Arglwydd Brycheiniog, fuddugoliaeth arbennig ym Mrwydr Garn Goch yn ardal Y Gŵyr yn erbyn y Normaniaid.
Roedd y Cymry hefyd wedi adennill rhai o'r tiroedd a gollwyd i Arglwyddi Seisnig ar y ffin, yn rhannol am fod y Saeson yn brysur yn brwydro'r Normaniaid.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o hyn fe welodd Gwenllian a Gruffudd gyfle i guro'r Saeson a'r Normaniaid unwaith ac am byth.
Fe ruthrodd Gruffydd ap Rhys i'r gogledd i gwrdd â'i dad-yng-nghyfraith, Gruffudd ap Cynan, i recriwtio mwy o gymorth ar gyfer y gwrthryfel. Cymerodd Gwenllian yr awenau yn y Deheubarth yn absenoldeb ei gŵr.
Tra'r oedd Gruffudd yng Ngwynedd yn ceisio cytuno ar gynghrair yn erbyn y Normaniaid, penderfynodd Maurice de Londres a Normaniaid eraill arwain cyrchoedd yn erbyn y Cymry yn y Deheubarth, ac felly gorfodwyd Gwenllian i gasglu byddin i'w hamddiffyn.
Dienyddiad yng Nghydweli
Lansiodd y Normaniaid ymosodiadau ar y Cymry, ac mewn brwydr ger Castell Cydweli cafodd byddin Gwenllian ei hamgylchynu o'r ddwy ochr gan fyddinoedd Normanaidd, un oddi uchod iddi o gyfeiriad Mynydd y Garreg a'r llall o'r ochr dan arweiniad arglwydd Normanaidd Cydweli a Charnwyllion, Maurice de Londres.
Cafodd Gwenllian ei dal yn ystod y frwydr, ac fe chafodd ei dienyddio dan orchymyn de Londres (torrwyd ei phen i ffwrdd), er gwaethaf y ffaith ei bod o waed brenhinol ac yn fam.
Lladdwyd mab Gwenllian, Morgan, yn ystod y frwydr hefyd, ac fe gafodd un arall, Maelgwyn, ei gipio ac yna ei ddienyddio.

Castell Cydweli heddiw. Cafodd Gwenllian ei lladd ar un o'r caeau cyfagos yn 1136
Cafodd marwolaeth Gwenllian effaith fawr ar y Cymry a oedd yn byw dan ormes y Normaniaid a'r Saeson, gan arwain i sawl gwrthryfel ledled y wlad.
Lladdodd Iorwerth ab Owain yr Arglwydd Normanaidd yng Ngwent, Richard Fitz Gilbert de Clare, ac fe ymosododd brodyr Gwenllian, Owain a Cadwaladr, ar diroedd a reolwyd gan y Normaniaid yng Ngheredigion, gan feddiannu Llanfihangel, Aberystwyth a Llanbadarn.
Ym mis Hydref 1136 ym mrwydr Crug Mawr ger Aberteifi roedd buddugoliaeth ysgubol gan frodyr Gwenllian, Cadwallon ac Owain Gwynedd, a'i thad, Gruffydd ap Cynan, yn erbyn y Normaniaid, gan ehangu tiriogaeth y Cymry.
Ac wrth gwrs aeth un o blant Gwenllian, Yr Arglwydd Rhys, ymlaen i fod yn un o'r arweinwyr enwocaf yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.

Dadorchuddio Cofeb Gwenllian, Cydweli, 23 Mai, 1991, gyda Gwynfor Evans yn annerch y dorf. Pwyllgor Dyfed Merched y Wawr wnaeth drefnu a chodi arian tuag at y gofeb.
Fe wnaeth Gwenllian gyfraniad arwrol dros Gymru yn ystod ei bywyd, yn brwydro yn erbyn y pwerau Eingl-Normanaidd a oedd yn gormesu ei phobl.
Mae'r ddeiseb am gerflun ohoni'n ymgais i gydnabod ei haberth a'r ysbrydoliaeth y sbardunodd, yn ogystal â'r holl ferched arwrol yn hanes Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd5 Chwefror
