Ateb y Galw: Lois Elenid

- Cyhoeddwyd
Mae Lois Elenid yn actor, dramodydd a bardd.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn mae hi bellach yn byw yng Nghwm Nedd ac wedi actio ar gyfresi Craith/Hidden a Rownd a Rownd.
Mae hi newydd gwblhau gradd Meistr mewn actio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac mae hi'n gweithio fel artist llawrydd.
Drwy gydol Mawrth mae wedi bod yn Fardd y Mis ar Radio Cymru, ac felly dyma gyfle i'w dod i'w hadnabod yn well.
Beth yw eich atgof cyntaf?
I fod yn onest, dwi ddim yn meddwl mod i'n gwbod be' 'di'n atgof cynta' i. Mae gen i lot o atgofion o chwarae tu allan yn y gwair yn Tacho, fferm yn Nefyn lle gafodd Mam ei magu, a lle wnaeth ei chwaer hi Meinir fyw a magu ei theulu hithau.
Mae gen i lot o atgofion o Rydyclafdy hefyd, pentref lle gafodd Dad ei fagu a lle es i i'r ysgol gynradd.
O'n i wastad yn cael y croeso cynhesaf yn nhŷ Nain a Taid Rhyd, efo bacon butties a llwyth o Mars Bars yn aros amdana'i. Roedd Nain Rhyd yn Gymraes ddi-Gymraeg o'r Cymoedd, wedi symud i'r gogledd am waith ac yna cyfarfod Taid a phenderfynu aros.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mam Lois yn edrych dros draeth Nefyn
Topia traeth Nefyn. Mae'r holl atgofion o gerdded ar hyd llwybr yr arfordir efo Mam a Dad, yn ystod cyfnod lle o'n i'n ddigon lwcus i gael byw efo nhw fel oedolyn, yn golygu fydd fanno wastad yn le gwerthfawr iawn i mi.
Mae'r golygfeydd o draeth Nefyn, Porthdinllaen ac yn ôl am Pistyll yn anodd i ddisgrifio, ma' rhaid chi fynd mewn person. Fydda i'n trio mynd yno am dro pan fydda'i adra ym Mhen Llŷn.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Dwi'n ffodus iawn i gael ffrindia arbennig a dwi'n chwerthin fwyaf pan dwi efo fy ffrindia agos.
Y nosweithiau sy'n dod i 'mhen i ydi'r amseroedd 'dan ni wedi treulio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd. Mae bywyd yn wahanol mewn gŵyl, mae 'na 'wbath reit hudolus am y lle.

Lois gyda'i ffrindiau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Llwglyd, chwilfrydig a sensitif.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 2023 o'n i'n gweithio fel actor yn un o sioeau theatr Cwmni Tebot o'r enw Mae Pawb Isio Byw.
Rhywsut, roedd un o fy ffrindia' agos i sef Elen, wedi camddeall ac yn meddwl mod i yn gwneud set standup comedy (rhywbeth dwi 'rioed yn fy mywyd wedi neud, na chwaith wedi trafod gwneud).
Fel ffrind da, roedd Elen yn hysbysebu hyn efo'n ffrindia' ni ar y Maes. Un dydd ar ôl gorffen sioe dyma fi'n cyfarfod efo grŵp mawr o'n ffrindia' ni o flaen Llwyfan y Maes i ymlacio, cael peint a gwylio'r bandia'.
Pawb yn gwenu yn ddel arna'i yn holi am y "set" yn trio bod yn gefnogol o fy ngyrfa newydd, annisgwyliadwy. Roedd pawb dan yr argraff mod i wedi bod yn gwneud set standup comedy ar y maes.
"Pam ar wyneb y Ddaear bo' chi'n meddwl hynna? Fi? Standup comedy?" "Elen sydd 'di bod yn deud wrth pawb!!"
Ar ôl i bawb sylweddoli bod camddealltwriaeth wedi bod doedd dim rhaid smalio bod yn gefnogol o fy ngyrfa newydd ddim mwy, roedd pawb yn rowlio chwerthin am tua 10 munud.
Y gwir oedd fod Elen, mewn camgymeriad, wedi cychwyn stori ffals ar Maes yr Eisteddfod, stori fy mod i wedi newid gyrfa i fod yn gomedïwr, celwydd llwyr ond stori dda.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Dwi'n tueddol o flocio'r atgofion yma allan o 'mhen, sy'n eitha' bechod achos ma'n beth da i edrych yn ôl, cofio a chwerthin.
Dwi'n cofio bod mewn clyweliad blynyddoedd yn ôl, ac roedd o'n dipyn o big deal felly o'n i'n ofnadwy o nyrfys, o'n i'n cal trafferth anadlu a methu meddwl yn glir.
Dyma'r cyfarwyddwr yn gofyn i mi pa fonolog o'n i am berfformio, allan o ba ddrama oedd hi a gan ba ddramodydd. Dyma fi'n deud enw'r cymeriad, y ddrama ac yna yn methu yn fy myw a chofio enw'r dramodydd, yn panicio yn llwyr ac yn meddwl yn gyflym dyma fi'n penderfynu dweud yr enw cyntaf a ddoth i fy mhen.
Dwi'n gweld gwyneb y cyfarwyddwr a'r panel yn edrych yn syn a chwerthin o dan eu gwynt.
Ar ddiwedd y clyweliad, dyma fi'n cerdded allan a sylweddoli mai'r enw nes i ddeud yn fy mhanics, oedd enw y cyfarwyddwr ei hun, enw y dyn oedd yn eistedd reit o fy mlaen i.
Yn amlwg, methiant oedd y clyweliad ac ma'r atgof dal yn codi cywilydd.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Yn ddiweddar iawn, ddoe ella. Dwi'n crio reit aml.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes. Dwi'n gallu bod reit ddrwg yn procrastinatio a dwi'n grind-io fy nannadd yn fy nghwsg, afiach.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Y llyfr i mi fwynhau fwyaf yn ddiweddar oedd Swimming in the Dark gan Tomasz Jędrowski, llyfr a fenthycwyd i mi gan fy ffrind arbennig Elin (sori Elin, ydi mae'r llyfr dal gen i ac ydw dwi'n gaddo ei ddychwelyd ryw ben).
Mae'r sgwennu yn hyfryd, yn hardd ac yn dorcalonnus. O'n i'n medru gweld fy hun o fewn y llyfr yma, wedi fy amgylchynu gan y byd, y cymeriadau a'r stori.
Dwi'n caru pan mae llyfr yn gwneud hyn. Os oes rhywun efo awgrymiadau, anfonwch neges!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Dad, dwy flynedd ers i ni ei golli. Ma 'na gymaint fwy o sgyrsiau a jôcs i gael.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Llun o'r coed Palmwydd yn Long Beach
Nes i fyw yn Long Beach, California am gyfnod o bum mis pan o'n i'n 19 oed, yn astudio actio a theatr yn California State University Long Beach (dyma lle bu Steven Spielberg yn astudio).
Dyma un o brofiadau gora' fy mywyd, dwi dal mewn cyswllt gydag ambell i ffrind o Long Beach hyd heddiw.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
I ddechrau, mae hi'n ddiwrnod braf. Dwi'n deffro, cael panad, brecwast ac yna panad arall efo fy nghariad Jed, yna yn mynd am dro efo Mam a chwarae efo bob ci dwi'n weld.
Yna mynd am hufen iâ a gwrando ar un o straeon hyleriys fy chwaer i Elin. Hwyrach ymlaen dwi'n mynd i nôl fish a chips (ond heb y fish, sosij mewn batter a curry sauce yn ei le) a'i byta nhw ar y traeth efo teulu a ffrindia'. 'Da'n ni'n gadael i'n stumoga ni setlo cyn mynd i nofio am chydig yn y môr.
Ateb y Galw: Jed O'Reilly
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Nic - tad Lois - gyda Sol... neu Twm... y gath
Dyma lun o Dad, ar ôl diwrnod hir, yn cael seibiant yn yr haul efo panad, a Sol y gath ffyddlon wrth ei ochr (er, odd Dad yn mynnu galw Sol yn Twm am ryw reswm).
Dwi'n meddwl fod y llun ei hun yn deud digon.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'n meddwl swni'n hoffi bod yn aderyn, un sy'n gallu hedfan yn uchel, barcud ella, i gael hedfan o gwmpas a mwynhau'r olygfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd21 Chwefror
