Côr Caerdydd yn 'mynd â bach o Gymru allan i'r Fatican'

Côr CaerdyddFfynhonnell y llun, Côr Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Côr Caerdydd yn credu mai dyma'r tro cyntaf i repertoire o gerddoriaeth o Gymru gael ei berfformio yn y Fatican

  • Cyhoeddwyd

Mae Côr Caerdydd yn paratoi am berfformiad arbennig iawn fis nesaf pan fyddan nhw'n teithio i'r Fatican i ganu casgliad o ganeuon gan gyfansoddwyr o Gymru yn bennaf.

Dan arweiniad Gwawr Owen, bydd y côr cymysg yn canu yn ystod yr offeren ym masilica San Pedr.

Dywedodd aelod o'r côr, Gwyn Thomas, eu bod "wir methu aros i gael y profiad yma i ganu mewn lleoliad mor arbennig â'r Fatican".

Gobaith yr aelodau ydy "mynd â bach o Gymru allan i'r Fatican".

Gwyn ThomasFfynhonnell y llun, Gwyn Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni wir yn edrych ymlaen at hwn yn y Fatican," medai Gwyn Thomas

Wrth drafod y perfformiad hanesyddol ar Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd Gwyn: "Daeth y cyfle i fynd yna yn sgil ni'n canu allan yn yr Eidal yng Ngŵyl Carwyn James [yr hyfforddwr rygbi eiconig o Gymru] dwy flynedd yn ôl.

"'Oedd un o'r bobl oedd yn rhan o'r trefniadau yn fan 'na gyda cysylltiadau gyda'r Fatican a dyma'n fe'n gofyn os oedd ddiddordeb gyda ni fel côr i fynd allan i wneud y perfformiad yma yn y Fatican.

"Doedd dim dwywaith amdani - oedd pawb yn awyddus i wneud ac ry' ni off nawr mis nesa."

Blas o Gymru

Bydd y côr yn rhoi blas o gerddoriaeth Cymru yn yr offeren.

"Gan fod ni'n gôr o Gymru ro'n ni'n meddwl bod e'n bwysig iawn bod ni'n mynd â bach o Gymru allan i'r Fatican," meddai Gwyn.

"Felly ry'n ni yn mynd i fod yn canu caneuon gan bedwar cyfansoddwr Cymreig gan gynnwys Pie Jesu gan Robat Arwyn a wedyn perfformiad o Benedictus gan Syr Karl Jenkins.

"Hefyd ry'n ni'n mynd i fod yn canu fersiwn o Agnus Dei gan Geraint Owen a dyma'r tro cyntaf y bydd y fersiwn yma yn cael ei berfformio hefyd, felly ry'n ni wir yn edrych ymlaen at hwn yn y Fatican."

Bydd Côr Caerdydd yn canu gyda Coro Voxel ym masilica Sant'Eustachio ddydd Gwener 17 Ebrill, ac yna yn yr offeren ym masilica San Pedr y diwrnod canlynol.

Côr CaerdyddFfynhonnell y llun, Stephen Cain
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 60 aelod o'r côr yn mynd i fod yn canu yn y Fatican

Mae'r côr yn credu mai dyma'r tro cyntaf i repertoire o gerddoriaeth o Gymru gael ei berfformio yn y Fatican, ac mae 'na dipyn o ymarfer wedi bod ar gyfer y digwyddiad.

"Dwi'n credu bod ni just a bod yna nawr, just yn 'neud bach o'r fine tuning o ran sicrhau bod pawb yn barod," meddai Gwyn.

"Mae'n mynd i fod yn waith sychedig felly ni wedi hefyd bod yn ymarfer bach o Eidaleg i sicrhau bod ni'n gallu archebu diod neu ddau ar ôl hynny."

Mae dros 60 aelod o'r côr yn mynd i fod yn canu yn y Fatican ond yn anffodus mae'r côr ar ddeall bod y Pab yn mynd i fod allan o'r wlad yn ystod y perfformiad.

Er hynny, mae Gwyn dal yn obeithiol y bydd y Pab yn gallu mwynhau'r detholiad o gerddoriaeth Gymreig.

"Mae yna digon o gamerâu CCTV o gwmpas y Fatican felly fi'n siŵr gallith e drefnu cael access i un ohonyn nhw tra bod ni yn perfformio fel bod e ddim yn colli allan..."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol