Cymraeg fel pwnc: Patrwm o TGAU i Safon Uwch yn 'anffodus'

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'n "anffodus" nad yw'r cynnydd yng nghanran y disgyblion sy'n astudio Cymraeg fel pwnc ar lefel TGAU yn cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch, meddai Llywodraeth Cymru.

Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, 3.1% o'r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg iaith gyntaf ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg iaith gyntaf.

Dim ond 0.8% o'r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg ail iaith.

Yn 2008/09 roedd y ffigwr yn 6.7% ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf, a 2.9% ar gyfer ail iaith.

Roedd 80% o ddysgwyr Blwyddyn 11 wedi'u cofrestru i sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith yn 2024/25 (18% Cymraeg iaith gyntaf, a 62% Cymraeg ail iaith).

Mae hyn wedi cynyddu o 70% yn 2008/09 (14% Cymraeg iaith gyntaf, a 56% ail iaith).

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn adroddiad blynyddol 2024–25 Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth: "Rydym am weld mwy o ddysgwyr yn astudio'r iaith ar lefel Safon Uwch ac ar lefel gradd, er mwyn inni allu creu'r genhedlaeth nesaf o academyddion, athrawon a gweithwyr dwyieithog mewn sectorau allweddol lle mae angen sgiliau iaith lefel uwch."

'Parhau i ostwng'

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod "canran y cofrestriadau TGAU Cymraeg sydd hefyd yn cofrestru i wneud Cymraeg Safon Uwch (iaith gyntaf ac ail iaith) yn parhau i ostwng".

"Mae'r niferoedd sy'n astudio Saesneg ac ieithoedd tramor modern Safon Uwch hefyd wedi gostwng yn sylweddol – nid yw'n unigryw i'r Gymraeg."

Dywed y llywodraeth eu bod yn ariannu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc Safon Uwch ac i ddarparu grantiau i helpu ysgolion gynnal dosbarthiadau Safon UG a Safon Uwch lle mae'r niferoedd sy'n astudio'r pwnc yn isel.

Yn ystod 2024/25, fe wnaeth y coleg ddyrannu 86 o grantiau i helpu ysgolion a cholegau addysg bellach i ddarparu Cymraeg fel pwnc.

Un o ofynion y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol nodi sut y maen nhw'n gweithio gydag ysgolion i gydlynu'r gwaith o ddarparu Cymraeg fel pwnc ym mlwyddyn 10 ac uwch.

Dywed yr adroddiad: "Er bod y niferoedd sy'n astudio Cymraeg Safon Uwch mewn ysgolion yn isel mewn rhai ardaloedd, ac ysgolion weithiau'n cael trafferth parhau i gynnig y pwnc, mae llawer o awdurdodau wedi adrodd eu bod wedi gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, awdurdodau cyfagos ac amrywiol bartneriaethau eraill yn 2024/25 i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc, ynghyd â'i manteision o ran gyrfa a chyflogaeth."

Denu athrawon yn 'parhau'n her'

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod denu nifer digonol o athrawon i addysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg yn "parhau'n her".

Yn Cymraeg 2050, gosododd Llywodraeth Cymru y nodau canlynol erbyn 2031:

  • 3,900 o athrawon cynradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • 4,100 o athrawon uwchradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae data diweddaraf y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn dangos bod:

  • 2,678 o athrawon cynradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • 2,458 o athrawon uwchradd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ffigyrau hyn yn dangos gostyngiad bach ers 2023/24.

Pasiodd y Senedd Bil y Gymraeg ac Addysg yn unfrydol ar 13 Mai 2025, ac fe gafodd y mesur Gydsyniad Brenhinol ar 7 Gorffennaf 2025.

Prif nod y ddeddf yw sicrhau, erbyn 2050, bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 33% o bobl ifanc 16-17 oed yn gallu siarad Cymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.