Cofio 60 mlynedd ers trychineb echrydus Aberfan

- Cyhoeddwyd
Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal fore Mercher i gofio'r rheiny fu farw yn nhrychineb Aberfan 60 mlynedd yn ôl.
Ar 21 Hydref 1966 fe wnaeth tomen o lo lithro i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a 18 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl.
Fe fydd y diwrnod o ddigwyddiadau i goffáu'r drychineb yn dechrau gyda gwasanaeth ym Mynwent Aberfan am 09:15.
Bydd y Brenin, y Frenhines a Thywysog Cymru'n ymweld â'r ardal hefyd ac mae disgwyl cannoedd yn Aberfan ar gyfer munud o dawelwch.
Mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi gofyn i bobl Cymru i nodi'r tawelwch bryd hynny.

Bydd y Prif Weinidog a'i ddirprwy, Sioned Williams AS, yn cyfarfod ac Ymddiriedolwyr Aberfan a chynrychiolwyr eraill o'r gymuned.
Bydd aelodau'r Teulu Brenhinol yn ymweld â Gardd Goffa Aberfan, gafodd ei chodi ar safle Ysgol Pantglas.
Mae disgwyl iddyn nhw gwrdd â rhai wnaeth oroesi'r drychineb, rhieni rhai o'r plant a fu farw, aelodau o'r gwasanaethau brys ac aelodau o'r gymuned.
Bydd y Tywysog William hefyd yn dadorchuddio Coeden Goffa Aberfan yn Ysgol Gynradd Ynysowen.

Roedd Dewi Meirion Lewis o Harlech yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn 1966
Roedd Dewi Meirion Lewis, o Harlech, newydd gychwyn yn y brifysgol yn Abertawe ym 1966.
Fe deithiodd o, gyda 30 arall, i Aberfan ar fws mini y tîm rygbi, i helpu gyda'r gwaith achub.
Fe weithiodd, gydag offer annigonol, dros nos yn ceisio symud y gwastraff glo o flaen yr ysgol ar Moy Road.
Dydi o ddim wedi siarad yn gyhoeddus am yr hyn a welodd yn Aberfan tan yr wythnos hon.

"Roedd hi'n dywyll iawn y noson honno," meddai Dewi, a aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddianus iawn ym maes ffiseg, a gweithio yn labordy CERN yn y Swistir.
"Dwi'n cofio edrych allan a gweld y bryniau o gwmpas Aberfan, a rhesi o dai, a wedyn bwlch mawr yn y mynyddoedd lle roedd y domen wedi bod.
"Mae'n dal yn ddychrynllyd i feddwl faint o sbwriel a gwastraff ddaeth i lawr," meddai.
Roedd o a'i gyd-fyfyrwyr mewn rhesi yn pasio bwcedi o wastraff glo er mwyn clirio llwybr i achubwyr eraill fynd mewn i'r ysgol i chwilio am gyrff.
"Mae llun o res yn helpu gyda bwcedi, a dwi'n siŵr mai dyna'n rhes ni yn symud y glo allan o ben y twmpath."
'Fy mhlentyndod innau wedi gorffen heddiw'
Wedi oriau o waith caled, fe wnaeth Dewi sicrhau fod sedd wag wrth ei ymyl ar y bws mini yn ol i Abertawe.
Doedd o ddim am siarad gyda neb arall am yr hyn yr oedd o a'i gyd-fyfyrwyr wedi gorfod ei wneud yn Aberfan.
Erbyn cyrraedd nôl i'w neuadd breswyl, lle roedd ond wedi byw ers ychydig o wythnosau, daeth i ddeall gwir maint y drychineb.
"Ro'n i'n oer, ro'n i'n wlyb, ro'n i'n fudr, a bron â llwgu," meddai Dewi, gan ychwanegu: "Dwi'n cofio mynd i eistedd ar fy ngwely a meddwl bod fy mhlentyndod innau wedi gorffen heddiw."

Roedd Val Hopkins yn byw ochr draw i'r cwm yn 1966
Roedd Val Hopkins yn byw yr ochr draw i'r cwm yn Ynysowen ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Merthyr Vale.
Roedd hi i fod yn Ysgol Pantglas ar 21 Hydref 1966 gan bod ei mam, oedd yn feichiog, ar fin rhoi genedigaeth i'w chwaer.
"Ro'dd Mam i fod yn yr ysbyty, ac ro'n i fod i fynd i aros gyda'n Mam-gu" meddai, gan ychwanegu: "Roedd trefniadau wedi'u gneud i fi fod yn Ysgol Pantglas.
"Ond diolch i Dduw, roedd fy chwaer yn hwyr yn cael ei geni, felly yn Ysgol Merthyr Vale yr oeddwn i.
"Ond fe roedden ni'n clywed swn yr ambiwlansys ac fe ddes i i ddeall fy mod inne wedi colli ffrind annwyl iawn i mi, Annette druan."

Mae Anne England wedi bod yn aelod o bwyllgorau Ymddiriedolaethau Aberfan.
Mae un yn gofalu am Ardd Goffa Aberfan ac am feddi'r 144 gafodd eu lladd.
Dosbarthu arian i ysgolion sy'n derbyn plant o ardaloedd Aberfan a Merthyr Vale ydy cyfrifoldeb y llall.
"Eleni ni wedi rhoi £250,000," meddai Anne, "mae ysgolion yn brin o arian, ac ry'n ni hefyd.
"Mae'n rhywbeth positif, ond fydden ni ddim ishe gweld yr un cymuned yn mynd drwy hyn," meddai.
"Bu'n rhaid i ni frwydro'r anghyfiawnder, a ni'n ei weld e'n digwydd eto gyda Hillsborough a Grenfell," meddai, "ond dyw anghyfiawnder ddim yn rhywbeth mae pobol Aberfan yn fodlon ei oddef."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
