Manylion am y diwrnod hwnnw yn dal i ddod i'r amlwg hyd heddiwwedi ei gyhoeddi 09:27 GMT+1
Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Aberfan
Pan o’n i yma ddydd Llun ar gyfer ymweliad Andy Burnham, ges i sgwrs gydag Iestyn Morgan, un o’r plant wnaeth oroesi’r trychineb.
Roedd o’n sôn, hyd yn oed hyd heddiw, fod ‘na bobl sy’n ei chael hi’n anodd siarad am beth ddigwyddodd.
Dim ond yn ddiweddar, er enghraifft, y daeth o i glywed mwy o fanylion am frawd ei ffrind. Roedd o’n gwybod ei fod o wedi marw yn y trychineb - be doedd o heb ddeall tan nawr oedd fod y bachgen wedi cael tynnu cast oddi ar ei goes y diwrnod cynt, ac felly wedi mynnu i’w fam ei fod o am fynd i’r ysgol y dydd Gwener hwnnw, yn lle aros tan y dydd Llun ar ôl yr hanner tymor.

Mae Iestyn Morgan yn teimlo ei bod hi'n bwysig fod pobl yn dal i siarad am y digwyddiad fel ffordd o goffáu'r rhai fu farw
Mae’n un o sawl stori ddirdynnol am bobl allai fod wedi goroesi petai ffawd wedi mynd y ffordd arall, neu fyddai wedi cael eu lladd oni bai am amgylchiadau annisgwyl wnaeth eu cadw oddi yno.
Mae Iestyn Morgan yn un o’r rhai sy’n ei gweld hi’n bwysig siarad am y digwyddiad o hyd, fel ffordd o goffau’r rheiny fu farw, ond mae o’n cydnabod hefyd nad ydi pawb yn teimlo'r un peth.
Fe wnaeth rhai o’r teuluoedd adael Aberfan yn dilyn y trychineb, meddai, ac hyd yn oed ymhlith y rheiny sy’n byw yma heddiw, mae 'na rai sydd wedi mynd i ffwrdd yr wythnos hon er mwyn osgoi’r hyn sy’n mynd ymlaen.
Mae’n amlwg fod y galar a’r creithiau yn amlwg yn taro pawb yn wahanol.






















