Dafydd Owain yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am albwm 'o gyfnod tywyll'

"Dwi'n siŵr y daw 'na deimlada' anhygoel i'r syrffes yn fuan iawn," meddai Dafydd Owain wedi'r fuddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Dafydd Owain yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026.
Daeth i'r brig gyda'r albwm Ymarfer Byw, oedd ymhlith 15 a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni.
Dyma'r drydedd wobr iddo ennill eleni gyda'r albwm yma ar ôl dod i'r brig yng Ngwobrau'r Selar ddechrau'r flwyddyn ac yna cipio Gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn ym mis Awst.
Ar ôl derbyn y wobr gan gyflwynydd y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd, Sian Eleri, dywedodd ei fod yn "od sefyll ar ben dy hun" ar lwyfan i dderbyn wobr pan fod "un teulu mawr" o bobl, gan gynnwys aelodau band, wedi cyfrannu at y llwyddiant.
Mae'n derbyn tlws a gwobr ariannol o £10,000.
Roedd yna wobr arbennig hefyd i'r gantores Mary Hopkin i gydnabod ei chyfraniad i'r byd cerddoriaeth dros sawl degawd.
Merch y gantores o Bontardawe, Jessica Lee Morgan, wnaeth dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig ar ei rhan.

Yn siarad gyda BBC Cymru wedi iddo ennill y wobr, dywedodd Dafydd Owain fod yr "holl beth 'chydig o blurr".
"Ond dwi'n meddwl bod hynna'n ok achos dwi'n siŵr y daw 'na deimlada' anhygoel i'r syrffes yn fuan iawn."
Cafodd ei holi am yr hyn oedd yr albwm yn ei olygu iddo ac atebodd: "Mae'n albwm anodd, mae'n albwm heriol, mae'n albwm sy'n dod o gyfnod tywyll ac yn y blaen."

Dyma'r drydedd wobr i Dafydd Owain ennill eleni am yr albym 'Ymarfer Byw'
"Ond mae yna lot o oleuni a rhyw betha' fel 'na arni hefyd," meddai Dafydd.
"Dwi'n meddwl be' mai'n golygu i fi ydy bo' pobl eraill wedi gallu ymgysylltu gymaint hefo hi. Dyna sy'n bwysig, dyna pam dwi'n creu cerddoriaeth a dyna ydy'r dileit o ran rhoi cerddoriaeth yn y byd."
Ychwanegodd Dafydd, er nad pres ydy'r rheswm ei fod yn gyfansoddwr, fod gwobr ariannol fel yr un yma yn "hwb bach gobeithio ar y ffordd i allu creu mwy o gerddoriaeth - sef be' 'dan ni eisiau g'neud fel cerddorion".

Rhestr fer 2026 yn llawn:
ADJUA – Everything Is Beautiful
Aleighcia Scott – Taith
Ani Glass – Phantasmagoria
Art School Girlfriend – Lean In
Cerys Hafana – Angel
CHROMA – 25 Forever
Dafydd Owain – Ymarfer Byw
Dewin – Dan y Dderwen
Gruff Rhys – Dim Probs
Gwenifer Raymond – Last Night I Heard the Dog Star Bark
Local – Too Broke to Be This Busy
Mari Mathias – Cyfarwydd
Skindred – You Got This
The Bug Club – Every Single Muscle
The Royston Club – Songs For The Spine

Mae'n ddifyr clywed barn cyd-banelwyr di-Gymraeg am yr albyms Cymraeg ar y rhestr fer, medd Molly Palmer
Y beirniaid eleni oedd:
Tim Jonze, o bapur newydd The Guardian,
Sophie Wiliams, newyddiadurwr cerddoriaeth,
Helen Weatherhead, BBC Radio 6 Music,
Yaw Owusu, ymgynghorydd y diwydiant cerddoriaeth,
Molly Palmer, DJ a chyflwynydd BBC Radio Wales,
Y cerddor a'r cyflwynydd Ifan Davies, ac
Aly Gillani, Aim/First Word Records.

Roedd y gantores Betsan ymhlith enillwyr wobr flynyddol ar gyfer talentau newydd mwyaf cyffrous Cymru
Dywedodd Molly Palmer mai dyma'r trydydd tro iddi fod ar y panel "a bob blwyddyn mae'r rhestr fer yn cryfhau".
"Oedd o'n rili anodd eleni gan fod shwt gyment o albyms gwahanol, genres gwahanol.
"Roedd nhw gyd efo rhywbeth gwahanol i'w gynnig felly roedd o'n benderfyniad anodd eleni."
Dywedodd bod "trafodaeth ddifyr yn digwydd bob blwyddyn" a'i fod yn ddifyr clywed barn panelwyr di-Gymraeg ynghylch yr albyms Cymraeg.
"Mae o wastad mor positif... profiad mor arbennig i fod yn rhan o'r noson."

Mi wnaeth dderbyn tlws a gwobr ariannol o £10,000
Roedd yna glod hefyd i enillwyr Wobr Trisgell eleni, sy'n cael ei rhoi i ddathlu talentau newydd mwyaf cyffrous y sîn yng Nghymru.
Enillwyr eleni oedd y bandiau MWSOG a Casual Smart a'r gantores Betsan a ddywedodd bod derbyn yr anrhydedd a pherfformio yn y seremoni yn "anhygoel".
"Sa i'n siŵr sut wnes i cael fy newis ond dwi mor ddiolchgar ac oedd o'n anhygoel i gael chwarae i gymaint o bobl... mae e jest yn freddwyd i perfformio fan hyn."

Cloriau wyth o'r 15 albwm oedd ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026
Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sy'n agored i albymau o bob genre, ei sefydlu yn 2011 ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys LEMFRECK, Kelly Lee Owens, Rogue Jones, Adwaith, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, a Gwenno.
Mae'n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ac yn agor dathliadau gwŷl Llais eleni.
'Dathlu gwledd o synau amrywiol' Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026
- Cyhoeddwyd6 Hydref
Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025 i Don Leisure
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2025
Dywedodd cyd-sylfaenydd y Wobr, y cyflwynydd Huw Stephens: "Am yr 16eg tro, bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dathlu'r albymau grêt yma mewn noson arbennig.
"Mae'r rhestr hir a'r rhestr fer ddilynol o albymau yn ein hatgoffa'n flynyddol am yr ystod anhygoel o gerddoriaeth sy'n dod o Gymru.
"O hip hop a rap i gerddoriaeth werin, electronica, a roc trwm, mae artistiaid eleni'n dangos y creadigrwydd cyfoethog, amrywiol a bywiog sy'n ffynnu ar draws sîn gerddoriaeth Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.