Disgwyl cyhoeddiad sychder wrth i lefelau afonydd agosáu at eu hisaf ar gofnod

Afon ElwyFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o afonydd Cymru yn agosáu at eu lefelau isaf ar gofnod

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Mae lefelau sawl afon yn agosáu at eu hisaf ar gofnod, gyda rhybudd bod rhannau o'r wlad yn wynebu datganiad o sychder yn ddiweddarach ddydd Iau.

Hyd yma mae Cymru wedi gweld oddeutu 5% o'r glaw sydd i'w ddisgwyl ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf, wedi sawl ton o wres a chyfnod sychach na'r arfer ers mis Ebrill.

Mae mudiad Afonydd Cymru yn rhybuddio bod llif isel sawl afon yn achosi "problemau sylweddol" i fywyd gwyllt, tra bod yr undebau amaeth yn dweud bod cnydau'n methu a da byw o dan straen.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) brynhawn Iau. Mae'r corff amgylcheddol wedi dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa'n agos.

LlangollenFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Alastair Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Caeau sych i'w gweld yn ardal Llangollen ddydd Mercher

Fe gyhoeddodd CNC fod gogledd a de ddwyrain Cymru yn symud i statws 'cyfnod hir o dywydd sych' yr wythnos diwethaf - sef y cam cyn datgan sychder swyddogol.

Mae'n arwain at fwy o fonitro a phrofi afonydd ac ardaloedd o bwys i fywyd gwyllt, gyda chyngor hefyd i ffermwyr a'r busnesau sy'n tynnu dŵr o afonydd.

Ymysg yr afonydd sydd â lefelau eithriadol o isel o ddŵr mae'r Clwyd, Alwen, Alyn Clywedog, Dyfi, Conwy a'r Gwy.

Mae dŵr ychwanegol yn cael ei ryddhau o gronfeydd, er mwyn cynnal llif afonydd Clwyd a Gwy, yn ogystal ag afon Hafren ac afon Dyfrdwy.

Tir sychFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae sychder amgylcheddol yn golygu prinder dŵr mewn afonydd ac yn y pridd, gan effeithio ar ecosystemau

Petai rhai o'r dalgylchoedd yma'n symud i statws o sychder amgylcheddol, byddai hynny'n golygu fod prinder dŵr yn yr afonydd ac yn y tir, gyda phriddoedd sych hefyd yn cael effaith niweidiol ar ecosystemau.

Nid yw'n golygu bod bygythiad i ddŵr yfed a chyflenwadau i gartrefi a busnesau ar hyn o bryd. Mae cyhoeddiadau o'r fath yna yn dod gan gwmnïau dŵr.

Ond fe fydd datganiad o sychder amgylcheddol yn golygu negesau cryfach i'r cyhoedd ar arbed dŵr, er mwyn lleihau'r pwysau ar afonydd a chronfeydd sy'n cynnal bywyd gwyllt, cynefinoedd a'r pridd.

LlanrhyddladFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Beefy
Disgrifiad o’r llun,

Caeau amaethyddol sych yn Llanrhyddlad ar Ynys Môn ddydd Mercher

Dywedodd Gail Davies-Walsh, pennaeth Afonydd Cymru, fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd.

"Mae'r diffyg glawiad a lleihad yn llif afonydd wir yn dechrau gwaethygu ansawdd dŵr," meddai.

"Ry'n ni'n barod wedi cael cwpwl o afonydd sydd wedi sychu'n llwyr a ry'n ni'n derbyn adroddiadau o bysgod sydd wedi marw oherwydd prinder dŵr."

Mae tymereddau'r dŵr hefyd yn arwain at bryderon am fywyd gwyllt, gyda thymereddau mor uchel â 28 gradd wedi'u recordio ar afonydd Gwy ac Wysg.

'Deall y rhwystredigaeth yna'

Dywedodd MS Davies-Walsh ei bod yn poeni bod rhwystredigaeth pobl gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â charthffosiaeth a phibellau'n gollwng yn golygu eu bod nhw'n llai tebygol o wrando ar gyngor ynglŷn â bod yn ofalus a'u defnydd o ddŵr.

"Dwi'n edrych ar yr holl sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a dwi'n deall y rhwystredigaeth yna," meddai.

"Ond mae wir angen i ni feddwl am y ffaith bod ein defnydd ni o ddŵr yn effeithio'n uniongyrchol ar y llif yna yn yr afonydd ac yn effeithio yn uniongyrchol ar bysgod a gallu bywyd gwyllt i oroesi.

"Mae angen i ni wneud be fedrwn ni i'w gwarchod nhw."

Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gail Davies-Walsh fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd

Ym mhebyll garddwriaeth y Sioe Fawr yn Llanelwedd roedd ffermwyr a thyfwyr yn barod iawn i sôn am drafferthion y tywydd sych.

Mae Nerys Jones yn tyfu blodau a llysiau yn Nolanog ger Llanfair Caereinion, mae'r dŵr i'w chartref yn dod o ffynnon 30 droedfedd o ddyfnder yn yr ardd.

"Mae'n ok, ar hyn o bryd, ond 'da ni'n dyfrio'n ofalus, a defnyddio ychydig yn y tŷ"

"Da ni'n gallu gweld lefel y dŵr yn newid, ac mae'n bell o fod yn normal, mae'n isel, isel iawn. 'Da ni bron ddim yn gallu gweld y dŵr ar hyn o bryd".

"Dwi'm 'di gweld hi mor sych â hyn, dwi'm 'di gweld hi mor isel â hyn - erioed dwi'm yn credu."

'Effeithio ar bawb'

Bu ei ffrind Elinor Edwards, Llangadfan, ymddeol y llynedd ac wedi cymryd y cyfle i ail-ddechrau tyfu llysiau.

"Mae pethe fel beetroot yn gwneud yn dda, ond dydy pethe fel cennin ddim yn tyfu bron dim o gwbl."

Mae Jack Bourke-Bennett yn athro o Dreuddyn, Sir Fflint, ac yn ymweld â'r sioe gyda'i bartner, Elen Hughes.

"Mae'r plant yn siarad amdano fo. Maen nhw'n dod o ar draws yr ardal, rhei yn dod lawr o agos at y môr a rhei yn dod o gefn gwlad, o ffermydd ac mae o'n effeithio pawb."

Dywedodd Elen fod y fferm deuluol wedi gorfod dechrau bwyd porthiant y Gaeaf i'w gwartheg yn barod, am nad oedd y gwair yn tyfu.

Nerys Jones ac Elinor Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cryn drafod y tywydd sych yn adran arddwriaeth y Sioe Fawr

"Mae 'di bod yn sych iawn, ond hefyd yn boeth ofnadwy ac mae hynny'n golygu bod da byw o dan straen," meddai Abi Reader, llywydd NFU Cymru.

"Mae'n rhaid i chi neud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o ddŵr a chysgod a ry'n ni'n clywed am ffermydd lle mae'u ffynnon neu'u nentydd wedi sychu," meddai.

Roedd cnydau'n gorfod cael eu cynaeafu yn arbennig o gynnar hefyd eleni, meddai - gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un digynsail - fyddai'n effeithio'n ariannol ar ffermwyr.

'Seiliedig ar y galw lleol am ddŵr'

Pwysleisiodd Dŵr Cymru fod datganiadau sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn wahanol i'w cyhoeddiadau nhw am brinder dŵr.

Mae'r cwmni eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr ar gyfer 33,000 o dai yng ngorllewin Cymru.

"Mae statws sychder CNC yn adlewyrchu amodau amgylcheddol, gan gynnwys ffactorau megis glawiad, llif afonydd a lefelau dŵr daear," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Mewn cyferbyniad, mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro Dŵr Cymru yn fesur gweithredol sy'n seiliedig ar y galw lleol am ddŵr a'n gallu i ailgyflenwi cronfeydd gwasanaeth â dŵr yfed ar yr un gyfradd, neu'n gyflymach nag y mae cwsmeriaid yn defnyddio'r dŵr."

"Caiff hyn ei yrru gan allu'r gweithfeydd trin dŵr lleol a'r rhwydwaith dosbarthu i ymdopi â'r galw parhaus."

"Mae hyn yn golygu y gall gwahanol rannau o Gymru wynebu pwysau gweithredol gwahanol, hyd yn oed os nad ydynt yn yr un categori sychder amgylcheddol sydd wedi ei ddatgan gan CNC."