Angen annog rhagor o ffermwyr i ddefnyddio technoleg, medd undeb

Peiriant godro robotaidd
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o gymorth i ffermwyr fabwysiadu mwy o dechnoleg ar eu ffermydd, medd undeb NFU Cymru.
Byddai hynny'n sicrhau ffermio mwy effeithiol a chynaliadwy, medd yr undeb.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod cymorth, gan gynnwys grantiau, eisoes ar gael.
Yn fferm Fagwrfran yn Cas-mael yn Sir Benfro mae'r gwaith o odro'r fuches o 150 o wartheg ar waith. Ond does yna neb yn y parlwr godro.
Yn hytrach robotiaid sy'n gwneud y gwaith. Mae'r cwbl yn awtomatig, sy'n galluogi Michael Williams i ganolbwyntio ar bethau eraill ar ei fferm

Mae Michael Williams yn defnyddio peiriant godro robotaidd
"Y peth cyntaf oedd y periannau godro a'r rheswm mwyaf oedd amser - amser i fi gymeryd off y ffarm gyda'r teulu neu i wneud gwaith mwy effeithlon ar y ffarm," medd Michael Williams.
"Mae'r benefits o ddim gorffod godro dwywaith y dydd.
"Mae'r data sy'n dod mas o'r periannau yn helpu fi gyda monitro iechyd y da a gwneud pob peth yn fwy effeithlon."

Un o'r gwartheg yn y peiriant godro
"Bydd hi'n ddeg mlynedd Nadolig ers i ni gael y peiriannau," ychwanegodd.
"Mae pethau wedi gwella - mae traed y da yn well achos maen nhw ddim yn hala cymaint o amser yn sefyll yn aros i odro.
"Mae mastisis rates wedi cwmpo tipyn. Mae antibiotic use dros y ffarm i gyd wedi cwmpo achos mae mwy o amser gyda fi i hala ar y lloi neu ar gwaith tu ôl y llwyfan ar y ffarm, fel petai."

Ochr arall y clos i'r parlwr godro mae sied y lloi ac mae datblygiadau technolegol i'w gweld yma hefyd.
"Mae automated robot feeding dan ni fan hyn yn y sied lloi," meddai Michael Williams wrth elguro sut mae'r cyfan yn gweithio.
"Mae hwn wedi bod mewn ers tua tair blynedd. Mae hwn yn bwydo'r lloi, mae'n cymysgu llath, mae EID tag gyda pob llo. Maen nhw'n dod mewn i'r unit, maen nhw'n gwybod faint maen nhw fod cael eu bwydo - mae'n bwydo nhw, os nad y'n nhw'n cymeryd y llaeth i gyd ni'n cael gwybod trwy app, felly ni'n gallu cadw llygad ar iechyd y lloi.
"Mae'n gadael mwy o amser i ni ofalu amdano nhw yn lle bod ni jyst yn cymysgu lla'th.
"Mae'r data yn dod nôl yn yr app. Os mae'r llo yn dechrau mynd off lliw heddi, dwi'n cael gwybod cyn bod ni'n gweld clinical signs."

Dyw technoleg ddim yn beth newydd i fyd amaeth. O aredig gyda llaw neu anifail, i ddefnyddio peiriannau, mae yna ddatblygiadau sylweddol wedi bod yn y maes.
Ond mae yna ragor i ddod yn ol Dr Manod Williams, o Adran Gwyddorau Byw, Prifysgol Aberystwyth.
"Rwy'n credu bod ffermwyr yn fwy parod i fuddsoddi, i adoptio, os liciwch chi, unrhyw fath o dechnoleg sydd yn mynd i helpu nhw.
"Mae ffrwythlondeb wedi bod yn ffocws mawr, allwch chi fynd yn bellach na synwyryddion, allwch chi drafod genomeg hefyd.
"Mae ffermwyr yn adoptio y gwaith gwyddonol sydd wedi mynd mewn i ddatblygiadau yn y maes hynny hefyd, yn geneteg yr anifeiliaid yma, sut i fridio yn fwy effeithiol ag ati i gynhyrchu mwy o laeth neu mwy o gig ac ati.
"Mae yna barodrwydd yna a dwi'n tybio mae'r technolegau yma i aros am y degawdau nesaf."

Mae Dafydd Jarrett o NFU yn credu bod angen anogaeth bellach ar rai ffermwyr i ddefnyddio technoleg
Ma Swyddog Polisi NFU Cymru, Dafydd Jarrett wedi bod yn rhan o gynllun peilot sy'n defnyddio dronau i gael gwared ar rhedyn ar ei dir.
Mae e'n gweld potensial yn y defnydd o dechnoleg ar ffermydd Cymru, ond mae'n credu bod angen rhagor o anogaeth ar ffermwyr i fuddsoddi mewn technoleg newydd.
"Yn sicr fysa ni'n croesawu help fel rhan o'r SFS yn yr adran gyfalaf, efallai bysa 'na gymhorthdal tuag at rhein achos dyw e ddim yn unig yn fantais i'r ffermwr ei hun, ond mae e'n fantais i'r amgylchedd a gwneud pethau yn iawn," meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae ffermwyr yn gallu cael mynediad i grantiau ar gyfer offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad eu busnes a bydd hynny'n parhau o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae'r llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n adolygu pa offer fydd yn gymwys am grantiau.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud bod ffermwyr yn gallu gwneud cais am fenthyciadau a chyfraddau llog isel ers dechrau mis Gorffennaf trwy'r Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Cynaliadwy.
Ond dyw'r cynlluniau yma ddim ar gael i gontractwyr.
Pris gwlân ar ei uchaf ers degawd - 'teimlad neis o'r diwedd'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Cyllideb taliadau amaeth tan 2030 yn cynnig 'sicrwydd i ffermwyr'
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
I Michael Williams, mae edrych am y ffordd nesa' o ffermio'n fwy effeithiol wastad ar ei feddwl, ond mae ganddo gyngor hefyd.
"Bydden i'n dweud peidiwch mynd a hala arian just i gael rhywbeth shiny yn y sied.
"Mae eisiau bod e naill ai yn gwneud chi'n fwy effeithlon neu ddim yn creu mwy o gwaith.
"Mae lot o dechnoleg i gael a mae e'n mynd i glymu chi lawr. I fi yn bersonol, mae eisiau bod e'n gallu gwneud y gwaith a bywyd fi'n hawddach," ychwanegodd.