Gosod dyddiad am bleidlais diffyg hyder yng nghadeirydd URC

Richard Collier-KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Bydd dyfodol cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cael ei benderfynu mewn cyfarfod cyffredinol arbennig fis nesaf.

Mae Richard Collier‑Keywood yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y cyfarfod ar 13 Ebrill yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Daw'r cyfarfod yn sgil cefnogaeth i alwad un o adrannau URC, Undeb Rygbi Morgannwg Ganol, i alw pleidlais o ddiffyg hyder.

Daeth yr alwad yn sgil cynlluniau dadleuol URC i leihau nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri erbyn Mehefin 2027, sydd wedi denu beirniadaeth, protestiadau a chamau cyfreithiol.

Mae aelodau Undeb Rygbi Morgannwg Ganol eisiau oedi'r cynlluniau, cynnal adolygiad o gyllid URC a sefydlu "grŵp llywio rygbi" o unigolion o fyd busnes a'r gêm ei hun, "er mwyn cynghori ar faterion rygbi a lleihau'r angen am ymgynghorwyr drud".

Bydd dau benderfyniad "arbennig" ynghylch dewis aelodau'r cyngor yn gofyn am 75% o bleidleisiau'r clybiau, tra bod penderfyniad "arferol" arall – sy'n gofyn am 50% yn unig – yn galw am ddiffyg hyder yn Collier‑Keywood a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall, sydd eisoes wedi camu'n ôl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.