Plant ag alergedd yn cael eu 'gwthio allan' heb ddewis amgen llaeth ysgol

Llun JacobFfynhonnell y llun, Zoe Stokes-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jacob, 8, alergedd difrifol i laeth

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni plant sydd ag alergedd i laeth yn galw ar ysgolion i gynnig dewisiadau eraill, gan fod rhai plant yn teimlo fel eu bod nhw'n colli allan.

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn gallu cynnig llaeth am ddim i blant dan bump oed, ac yna llaeth am bris isel, gyda chymhorthdal ​​i blant dan 11 oed.

Yng Nghymru mae llaeth am ddim i blant pump i saith oed mewn ysgolion.

Ond mae rhai rhieni'n dweud bod angen diweddaru'r cynllun, gan mai dim ond llaeth buwch, gafr a dafad sy'n gymwys ar hyn o bryd.

Yn ôl un fam i fachgen sydd ag alergedd llaeth difrifol, "llaeth buwch neu ddŵr" oedd yr unig opsiynau pan ddechreuodd yn yr ysgol gynradd.

Roedd 11 o'r 22 cyngor yng Nghymru wedi darparu gwybodaeth ar faint o ysgolion sy'n darparu dewis amgen i laeth anifail.

Dywedodd y rhan fwyaf bod dewis amgen ar gael ar gost ychwanegol i'r cyngor, ond yn ô' Cyngor Torfaen mae llaeth amgen ar gael ymhob ysgol yn y sir.

Daeth ymchwil BBC Cymru i'r casgliad bod ysgolion yn cael darparu dewis amgen, ond bod angen gwneud cais a chael cymeradwyaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nhw wrthi'n "adolygu trefniadau presennol" y Cynllun Llaeth Ysgol, ond bod gan gyrff llywodraethu'r rhyddid i ddylunio bwydlenni i gynnwys diodydd soi, reis neu geirch.

'Teimlo fel ei fod ar ben ei hun'

Daeth Zoe Stokes-Jones, 37 o Gaerdydd, yn ymwybodol o alergedd llaeth ei mab Jacob pan oedd yn chwe mis oed.

Bellach yn wyth oed, mae gan Jacob alergedd difrifol ac mae'n cael ymateb anaffylactig i laeth.

Llun Zoe a Jacob yn eistedd nesaf i'w gilyddFfynhonnell y llun, Zoe Stokes-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Zoe dywedodd yr ysgol wrthi mai llaeth buwch neu ddŵr oedd yr unig opsiynau i'w mab

Mae'n rhaid iddo gario Epipen, yn ogystal â chymryd llawer o wahanol gyffuriau gwrth-histamin.

Gall anaffylacsis achosi anhawsterau anadlu, chwyddo o'r gwddf a'r geg, achosi pen ysgafn, ac mae'n gallu bygwth bywyd.

Pan ddechreuodd Jacob yn y feithrinfa, dywedodd Zoe eu bod nhw'n gallu darparu llaeth ceirch i'r ysgol fel opsiwn arall iddo.

Ond unwaith iddo fynd i'r ysgol cafodd wybod mai "llaeth buwch neu ddŵr yn unig" oedd yr opsiwn, gan nad oedd cyfleusterau i storio sawl math o laeth.

Llun Zoe gyda Jacob a'i frawdFfynhonnell y llun, Zoe Stokes- Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Zoe fod Jacob yn colli allan ar amser gyda'i gyd-ddisgyblion

Dywedodd bod Jacob yn "teimlo fel ei fod yn cael ei wthio allan", a'i fod "ar ben ei hun oherwydd nad yw'n gallu cael yr un profiad â'i ffrindiau".

"Maen nhw i gyd yn eistedd lawr gyda'i gilydd, ac os na allwch chi gael y llaeth, chi ddim yn cael eich cynnwys."

"Mae'n drist ac mae'n effeithio arno," meddai Zoe, gan ychwanegu: "Mae modd gwneud mwy i stopio fe rhag teimlo felly, ond nid yw pobl bob amser yn meddwl am yr oblygiadau."

Er bod Zoe yn cydnabod bod yr alergedd yn effeithio ar leiafrif, dywedodd fod yna diffyg ymwybyddiaeth ynghylch y risgiau sy'n gysylltiedig ag alergeddau llaeth.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod ysgolion sy'n rhan o'r Cynllun Llaeth Ysgol yn gallu darparu dewisiadau amgen i laeth yn ogystal â'r cynnig â chymhorthdal.

Ychwanegodd llefarydd bod y cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu bwydlenni heb wy, heb soi, heb glwten a heb laeth, "er mwyn sicrhau bod anghenion y plant hynny sydd â gofynion dietegol penodol yn cael eu diwallu".

Mae tua 1.5 miliwn o blant dan bump oed yn derbyn llaeth ysgol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o dan y Nursery Milk Scheme, dolen allanol.

Mae'n caniatáu i ddisgyblion mewn meithrinfeydd gael 189ml (1/3 peint) o laeth am ddim bob dydd.

Yng Nghymru, derbyniodd 81,374 o ddisgyblion hyd at gyfnod allweddol 1 laeth ysgol am ddim dros y flwyddyn 2024/25, sy'n cynnwys llaeth cyflawn neu hanner sgim wedi'i drin â gwres, iogwrt plaen a llaeth heb lactos.

Nid yw unrhyw laeth heblaw llaeth buwch, gafr neu ddafad yn cael ei gynnwys, yn ôl gwefan y cynllun.

'Byddai'n gwneud iddo deimlo fel ei fod wedi'i gynnwys'

Dywedodd Stacey Angel, 41 o Gasnewydd, ei bod yn gwario dros £170 yr wythnos ar ei siopa bwyd i wneud yn siŵr bod ei mab, Brayen, 5, yn ddiogel.

Mae Brayen yn anaffylactig i laeth, banana, pîn-afal, pys, ffa gwyrdd, gwenith, wyau, soi, cnau, ciwi, llysiau gwreiddiau ac unrhyw brotein pys mewn bwyd.

Llun BrayenFfynhonnell y llun, Stacey Angel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brayen yn anaffylactig i gynnyrch llaeth ond nid yw ei ysgol yn cynnig dewis arall o laeth

Dywedodd Stacey ei bod yn ddiolchgar bod Brayen yn un o bump sydd ag alergedd neu anoddefiad (intolerance) i laeth yn ei ysgol, a'u bod nhw'n eistedd gyda'i gilydd ac i ffwrdd o ddisgyblion eraill.

Does dim opsiwn llaeth ar gael i'r pump, rhywbeth sy'n annheg yn ôl Stacey:

"Mae pawb yn cael llaeth. "Yr holl bwynt yw eu bod nhw'n cael y calsiwm sydd angen.

"Byddai'n gwneud i Brayen deimlo'n well.

"Er ei fod e dal yn ymwybodol ei fod yn wahanol ac nad yw'n cael yr un llaeth, byddai'n gwneud iddo deimlo fel ei fod wedi'i gynnwys."

Nid oes gan Gyngor Casnewydd gofnod o nifer yr ysgolion sy'n cynnig opsiynau llaeth tu hwnt i laeth anifail, ond maen nhw'n dweud bod gan bob un o'i 56 ysgol y gallu i wneud os ydynt yn dymuno.

Mewn ymateb, dywedodd ysgol Brayen fod dewisiadau llaeth eraill bellach yn cael eu trefnu i blant sydd eu hangen, am ddim.

"Mae'r ysgol yn cymryd camau i sicrhau bod plant ag alergeddau difrifol yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw risg bosibl," ychwanegodd.

Llun Stacey gyda'i mab Brayen a'i wyresFfynhonnell y llun, Stacey Angel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stacey Angel a'i gŵr yn gofalu am bedwar o blant ac mae'r teulu cyfan yn bwyta bwydydd heb gynnyrch llaeth i gadw Brayen yn ddiogel

Mae Dr Helen Allergy yn arbenigwr alergedd ac mae ganddi fab sydd ag alergedd i laeth.

Dywedodd nad yw pobl yn ystyried pa mor ddifrifol mae'n gallu bod.

"Alergedd llaeth sy'n achosi'r nifer uchaf o farwolaethau yn gysylltiedig ag alergedd," meddai, gan ychwanegu bod y rhan fwyaf o farwolaethau'n digwydd mewn ysgolion a meithrinfeydd.

Dywedodd bod angen mwy o ymwybyddiaeth o alergeddau, a byddai cynnwys dewis tu hwnt i laeth anifail yn y cynllun yn helpu rhieni'n ariannol.

Byddai hefyd yn "osgoi eithrio plant sydd ag alergedd", meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r Cynllun Llaeth Ysgol yn cefnogi plant i dderbyn manteision llaeth.

"Rydym wrthi'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a chyflenwyr i adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer cyflwyno'r cynllun.

"Mae pob dysgwr cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu y rhyddid i ddylunio bwydlenni a all gynnwys diodydd soi plaen, reis plaen neu geirch plaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.