Statws Sychder 'yn bosibiliad' i rannau o Gymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu'r sefyllfa mewn sawl ardal, fel yma yn Llyn Aled Isaf
- Cyhoeddwyd
Gallai rhai ardaloedd yng Nghymru gyrraedd statws sychder, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ar hyn o bryd mae rhai dalgylchoedd yng ngogledd Cymru, Hafren Uchaf a de-ddwyrain Cymru wedi symud o statws 'normal' i 'gyfnod hir o dywydd sych'.
Yn ôl Huwel Manley, pennaeth gweithrediadau de orllewin Cymru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, mae'n "bosibiliad" y gallai'r statws newid eto, gyda rhai afonydd eisoes "wedi dechrau mynd i statws sychder".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod yn asesu'r sefyllfa'n rheolaidd.

Yr olygfa yn Nantglyn, Sir Ddinbych ddydd Mawrth
"Roedd cwymp glaw ar gyfer Mehefin, ar gyfartaledd, fel yr arfer, ond yng Ngorffennaf, ni ond wedi derbyn 5% o lefel hirdymor," meddai Huwel Manley.
"Mae tipyn llai o gwymp glaw wedi bod eleni."
Wrth esbonio fod nifer o ddalgylchoedd eisoes mewn statws hirdymor o dywydd sych, dywedodd fod hyn o safbwynt yr amgylchedd, ac "nid yn uniongyrchol o ran sefyllfa cronfeydd dŵr".

"Mae rhai o'r afonydd gyda ni nawr yng Nghymru yn dechrau mynd i statws sychder," meddai Huwel Manley
Mae'n parhau i annog y cyhoedd, serch hynny, i fod yn ofalus o ran eu defnydd o ddŵr.
Wrth esbonio'r sefyllfa bresennol gyda statws sychder rhai dalgylchoedd, dywedodd fod newid yn "bosibiliad".
"Mae rhai o'r afonydd gyda ni nawr yng Nghymru yn dechrau mynd i statws sychder, felly ni'n asesu'r sefyllfa a gewn ni weld wythnos wrth wythnos beth yw'r sefyllfa.
"Mae'n debygol o newid a hyd yn oed os gewn ni law, fe neith e gymryd sawl wythnos i ddod 'nôl i'n lefelau normal."

Mae effaith y cyfnod sych i'w weld yn glir yn Afon Elwy
Ynghyd â'r effaith ar lefelau afonydd, mae'r diffyg glawiad sylweddol a thymheredd poeth wedi rhoi pwysau ar lefelau dŵr daear, lles eogiaid, mudiad pysgod, bywyd gwyllt a'r tir hefyd yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ar faes y sioe yn Llanelwedd, roedd nifer o ffermwyr yn sôn am effaith y sychder ar eu ffermydd.
Dywedodd Seimon Thomas, sy'n ffermio yn Llanfyrnach yng ngogledd Sir Benfro, fod y tywydd sych yn siŵr o gael effaith ar ffermwyr yn ariannol yn y pen draw.
"Ers yr ail cut, dy'n ni ddim wedi, ers wyth wythnos nawr, dy'n ni ddim wedi cael modfedd o law," meddai.

"Fi'n credu mewn mis neu ddau fe fyddwn ni'n gweld bydd fertility y gwartheg wedi colli tamaid bach," meddai Seimon Thomas
"Mae'n dipyn o straen ar y gwartheg - mae heat stress yn dod mewn iddi. Maen nhw'n yfed lot o ddŵr, mae'r porfa wedi mynd yn llai, mae'r trydydd cut yn edrych fel bod e'n shrinko.
"Sai'n credu bod effaith hwn wedi dod mewn eto ond fi'n credu mewn mis neu ddau fe fyddwn ni'n gweld bydd fertility y gwartheg wedi colli tamaid bach oherwydd y tywydd twym 'ma a stress, so blwyddyn nesaf, byddwn ni'n cymryd hwn yn financially, bydd e'n bwrw ni, fi'n siŵr."
Wrth gyfeirio at y modd y mae e'n llwyddo i fwydo'r gwartheg ar hyn o bryd, dywedodd: "Ni 'di gorfod rhoi silwair mewn iddyn nhw i fwyta wythnos diwethaf achos bod ni'n teimlo bod y borfa yn sychu lan.
"Ni'n dod ben â tyfu porfa eitha' da yng ngorllewin Cymru ar y cyfan ond 'leni nawr, mwy na thebyg bydd rhaid ni agor y pit a wedyn ma hwnna'n meddwl- oes digon o fwyd yn mynd i fod gyda ni ar gyfer y gaeaf?"

"Mae'n rhaid i ni ystyried gwahanol gropiau," meddai Rhun Fychan
Yn ôl Rhun Fychan, ymchwilydd porthiant ym Mhrifysgol Aberystwyth mae'n rhaid edrych ymhellach ar borfa sy'n gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.
"Mae'n rhaid i ni ystyried gwahanol gropiau," meddai.
"Mae gyda ni borfeydd aml rywogaeth sy'n cynnwys pump i wyth o wahanol rywogaethau - mae rheiny'n rhoi mwy o wytnwch i'r borfa.
"Mae llawer ohonyn nhw â gwreiddiau dwfn sy'n gallu cael gafael ar y dŵr wedyn, fel bod e yn tyfu mewn cyfnod sych."

"Fel mae'r tywydd yma yn mynd i bara a falle byddwn ni'n cael hyn dros y blynyddoedd, bydd rhaid i ni gael mwy o common sense," meddai Wyn Williams
Mae undeb ffermwyr NFU Cymru yn dweud ei bod hi'n "hynod bwysig fod cynlluniau a pholisïau mewn lle gan sefydliadau a chynlluniau i sicrhau fod ffermwyr Cymru yn gallu addasu i newidiadau yn y tywydd".
Yn ôl Wyn Williams, Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Drefaldwyn, mae'r sychder yn achosi pryder i rheiny sydd wedi ymrwymo i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd, fel ei gymydog.
"Mae un o'r rheolau yn dweud dy'n nhw ddim yn gallu gwneud silwair tan ar ôl y 15 Gorffennaf ond roedd y silwair yn barod tair wythnos yn ôl," meddai.
"Ro'dd e ofn mynd i wneud e oherwydd byddai e'n torri rheolau'r cynllun newydd.
"Fel mae'r tywydd yma yn mynd i bara a falle byddwn ni'n cael hyn dros y blynyddoedd, bydd rhaid i ni gael mwy o common sense efo'r sefyllfa a'r rheolau o ran ffermio i galendr."

"Mae sychder, fel llifogydd... yn ganlyniad newid hinsawdd ac mae e'n tanlinellu'r angen i weithredu," meddai Llyr Gruffydd
Dywedodd Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd: "Dwi'n gyson yn siarad gyda ffermwyr drwy'r undebau amaeth ac yn uniongyrchol gyda ffermwyr hefyd, ni wedi achub ar ddyddiau o gyfle fan hyn i gael sgyrsiau gyda'r diwydiant.
"Mae sychder, fel llifogydd, os ydych chi'n meddwl am y pegwn arall wrth gwrs, yn ganlyniad newid hinsawdd ac mae e'n tanlinellu'r angen i weithredu er mwyn taclo rhai o'r heriau yna.
"Mae ffermwyr yn gwybod cystal ag unrhywun gymaint o effaith mae hynny'n ei gael ar y llinell waelod o safbwynt y busnes hefyd lle chi'n wynebu sefyllfa lle dyw cnydau ddim yn llwyddo cystal ag y bydden nhw, naill ai oherwydd eu bod nhw dan ddŵr neu oherwydd bod nhw'n sych ac mae hynny yn rhywbeth mae'n rhaid i gymdeithas yn ehangach ei gydnabod, a gweithio gyda ffermwyr i fynd i'r afael ag e, fel ry'n ni'n trio'i wneud trwy'r cynllun ffermio cynaliadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.