'Gobeithio cael fy mywyd yn ôl' wedi blynyddoedd o gyflwr croen 'annioddefol'

Mae Meilir wedi cael sawl triniaeth at ei groen ond yr un wedi llwyddo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n byw â chyflwr croen "annioddefol" yn gobeithio y bydd triniaeth, sydd ddim ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn gallu ei helpu.
Ers yn blentyn mae Meilir Rowlands, 21, o Landwrog ger Caernarfon, wedi bod yn defnyddio gwahanol feddyginiaethau i drin ecsema, ond ers blynyddoedd mae cyflwr ei groen wedi dirywio'n arw.
Bellach mae Meilir yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyflwr TSW (Topical Steroid Withdrawal), yn dilyn "tair blynedd annioddefol", a'i obaith yw y bydd triniaeth arbenigol yn rhoi ei "fywyd yn ôl" iddo.
Mae TSW yn gyflwr sy'n achosi cochni ar y croen a phoen llosg difrifol ac yn gallu digwydd wedi i rywun stopio cymryd steroid dwys at gyflyrau croen eraill.
'Gweld rhywun sydd mor wahanol' yn y drych
Mae tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn diodde' o ecsema. Mae'n gyflwr croen eithaf cyffredin sy'n achosi i rannau o'r croen ymddangos yn goch, yn sych a chosi.
Dechreuodd symptomau Meilir wrth iddo geisio rhoi'r gorau i ddefnyddio eli steroid oedd wedi bod yn rhan o'i fywyd ers blynyddoedd.
"Doedd o ddim fel fy ecsema arferol, dwi wedi bod hefo ecsema ers oeddwn i'n fabi. Dwi wedi treulio fy arddegau yn defnyddio steroid cream ond doedd fy nghorff ddim yn delio yn dda hefo fo," meddai.
"Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, roedd fy nghroen yn gwaethygu ac yn gwaethygu. Yn y diwedd roedd tua 90% o fy nghorff wedi'i orchuddio."
Yn ogystal â'r boen gorfforol, dywedodd fod y cyflwr wedi cael effaith enfawr ar ei iechyd meddwl.

Er gwaetha'r heriau meddyliol a corfforol, mae Meilir yn gobeithio parhau gyda'i astudiaethau ym mis Medi
Mae Meilir newydd gwblhau gradd ym Mhrifysgol Met Caerdydd ac yn bwriadu parhau â'i astudiaethau ym mis Medi.
"Cyn i bob dim newid, roeddwn i'n berson cymdeithasol, chwarae llwyth o bêl-droed a mwynhau fy nhymor cyntaf ym Mhrifysgol Met Caerdydd," ychwanegodd.
"Dwi'n edrych yn y drych a'n gweld rhywun sydd mor wahanol i fy hun. Dwi'n canslo plania neu'n methu troi fyny i'm ffrindiau a theulu - mor wahanol i fi go iawn, sy'n mwynhau bod yng nghwmni eraill.
"Dwi'n teimlo fy mod i wedi methu allan ar gymaint o ddigwyddiadau cymdeithasol oherwydd fy nghroen."

Mae Meilir wedi bod yn dogfennu ei frwydr gyda TSW (Total Steroid Withdrawal) ar y cyfryngau cymdeithasol
Er gwaethaf cael triniaethau amrywiol, dywedodd Meilir nad yw wedi gweld gwelliant sylweddol.
"Ar ôl bod bedwar mis ar y biologic injections ma ges i apwyntiad ychydig wythnosau'n ôl a nath nhw basically deud dydyn nhw ddim yn gweithio," meddai.
"Neshi wedyn cael cynnig fwy o gyffuriau a phigiadau ond dwi 'di deud na oherwydd dwi'n fed up o fynd ar stwff sy'n maskio a supressio'r symptomau yn hytrach na thrin yr actual problem."
Yn sgil methiant triniaethau mae Meilir wedi penderfynu codi arian i dalu am driniaeth therapi Plasma Atmosfferig Oer (CAP) mewn clinig preifat.
Mae'n therapi gymharol newydd – heb ei gydnabod yn swyddogol gan y GIG – sy'n defnyddio gronynnau nwy â gwefr i helpu i ladd bacteria ar y croen.
Mae'n costio rhwng £3,000 a £5,000.
"Dwi'n gobeithio neith y CAP therapi helpu gan fod o'n rejuvenate treatment sy'n golygu fod o'n helpu'r croen i recovero a chryfhau," ychwanegodd.

Dywed Meilir ei fod yn lwcus o gefnogaeth ei gariad, Lili, a'i deulu sydd "wedi bod yn gefn iddo"
"Dwi wedi gwneud lot o waith ymchwil am y therapi yma a bydd y driniaeth newydd yn newid fy mywyd. Mae profiadau pawb arall wedi bod yn anhygoel a gobeithio byddai'r un peth.
"Mae pob sesiwn yn ryw £180 am awr a mae'n rhaid ei wneud am 3-5 mis pob wythnos.
"Roeddwn i wedi aros blwyddyn gyfan ar restr aros i weld rhywun, ac yn y diwedd dwi wedi penderfynu mynd yn breifat i geisio cael yr help dwi wirioneddol angen."
Fel rhan o'i ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a phres, mae'n bwriadu herio ei hun drwy gerdded i fyny'r Wyddfa ddiwedd Awst.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.