Pris gwlân ar ei uchaf ers degawd - 'teimlad neis o'r diwedd'

- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr wedi croesawu cynnydd mewn pris gwlân, gyda'r arian sy'n cael ei dalu ar ei uchaf ers degawd.
Dywedodd Gareth Jones, pennaeth ymgysylltu Gwlân Prydain fod y pris yn gynnydd o 70% ar bris llynedd.
Mae'n "deimlad neis o'r diwedd fod pris wedi mynd ar ei fyny," meddai Geraint Davies sy'n ffermio ger y Bala, a'i fod bellach yn "covero costau cneifio'r defaid".
Dywedodd Gwlân Prydain eu bod yn "obeithiol" y bydd y pris yn parhau i godi yn sgil y "galw a chyflenwad".
Prisiau yn 'siomedig o isel'
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Gareth Jones o Wlân Prydain: "'Da ni wedi gweld sefyllfa yn y diwydiant prisiau gwlân ers sawl blwyddyn lle mae'r pris y mae'r ffermwr yn ei dderbyn wedi bod yn siomedig o isel.
"Ond be' 'da ni wedi gweld ers y ddwy flynedd diwethaf ydi arferiad yn y farchnad ac mae'r pris yna wedi bod yn cynyddu."
Aeth yn ei flaen i ddweud mai'r "prif reswm am hynny yw galw a chyflenwad".
Dywedodd fod y cyflenwad a'r nifer o ddefaid yng Nghymru a Phrydain yn "disgyn felly mae llai o wlân yn cael ei gynhyrchu" ond mae'r "galw wedi cynyddu".
"O ran y pris eleni, mae'r pris wedi codi 70% o'i gymharu â beth oedd o llynedd, ac mi fydd ffermwyr yn derbyn y pris uchaf ers degawd eleni," meddai.

Dywedodd Gareth Jones mai'r prif reswm am y cynnydd yw "galw a chyflenwad"
Ond er gwaetha'r newyddion calonogol i rai ffermwyr, dywedodd Gareth: "Ma' gyda ni dal ffordd i fynd yn enwedig gyda rhai teip o wlân a bridiau, 'di o ddim am fod yn ddigon i dalu costau cneifio.
"'Da ni'n derbyn bod o'n lefel isel, ond roedd rhaid i'r arferiad gychwyn yn rhywle," meddai.
"Ein prif rôl ni yw cael y pris gorau gallwn ni i ffermwyr ac wrth reswm dwi a chydweithwyr yn y British Wool yn falch iawn o weld y cynnydd yma.
"Mae' 'na lawer iawn o ffactorau yn gwneud bywyd yn heriol i ffermwyr pan maen nhw'n trio cynhyrchu bwyd a thyfu cnydau ac yn y blaen, felly 'da ni'n gobeithio bod pris gwlân yn cynyddu yn rhywbeth sy'n cael ei groesawu.
"Dyma'r ail flwyddyn allan o 12 'da ni wedi gweld y pris yn codi a 'da ni'n obeithiol iawn neith hynny barhau yn ystod y tymor nesaf 'ma."

Mae'r cneifio yn atyniad poblogaidd yn ystod wythnos y Sioe Fawr
Dywedodd Geraint Davies, sy'n ffermio ger y Bala, ei fod yn "deimlad neis o'r diwedd fod y pris wedi mynd ar ei fyny".
Esboniodd fod ganddo ddefaid mynydd Cymreig ac mae wedi gweld y pris yn "mynd fyny tua 60c y cilogram," tra bod y "defaid a'r gwlania mwy ffein wedi mynd ar eu fyny i'r pwynt lle maen nhw'n covero'r costau cneifio".
Ond dywedodd fod "gennym ni dal le i fynd hefyd".

Daw'r cynnydd ar ôl "blynyddoedd lawer o'r pris ar y ddaear" meddai Geraint Davies
"'Da ni wedi cael blynyddoedd lawer o'r pris ar y ddaear a ddim yn dod yn agos at covero costau cneifio'r defaid."
Roedd o'r farn bod gwlân yn "gynnyrch anhygoel" gyda "cymaint o wahanol allu" iddo.
"Gobeithio neith y pris fynd i fyny fel ma' pobl yn deall pa mor bwysig ydi o iddyn nhw a'r amgylchedd yr un amser," meddai.
Dywedodd bod y cynnydd yn y pris yn "rywbeth mae rhywun yn ei groeso i giât y ffarm", a bod gobaith "iddo dal i fynd ar ei fyny a dal i chwilio am farchnadoedd newydd iddo fo a deud y gwir".
"Ma' na gymaint allith gwlân gyflawni i ofynion pobl fyd eang.
"Mae'n bleserus i wybod mae'r joban maen nhw'n neud er mwyn lles yr anifail ar yr un amser yn gallu troi mewn i fod yn helpu i roi pres yn ein poced ni hefyd a gymaint o dyfu gallith o wneud wrth i ni edrych ymlaen hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.