Ffyrdd o fyw’r tlawd a’r cyfoethogDeddfwriaeth y llywodraeth a Deddf Tlodion 1601

Er bod cyfoeth rhai pobl wedi cynyddu yn ystod oes Elisabeth, roedd bywyd i’r mwyafrif yn anodd iawn. Cynyddodd tlodi a diweithdra yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Beth oedd y gwahaniaethau rhwng bywydau pobl gyfoethog a bywydau pobl oedd yn byw mewn tlodi yn ystod oes Elisabeth?

Part ofHanesOes Elisabeth, 1558-1603

Deddfwriaeth y llywodraeth gan gynnwys Deddf Tlodion 1601

Doedd llywodraethau’r Tuduriaid ddim yn gwybod yn iawn beth i’w wneud am bobl oedd yn byw mewn tlodi, oherwydd mewn sawl ffordd, doedden nhw ddim yn deall achosion tlodi.

Roedd llawer yn credu bod nifer ohonyn nhw’n ddiog ac yn gwrthod gweithio. Serch hynny, wrth i deyrnasiad Elisabeth fynd yn ei flaen, gwnaed sawl ymgais i wahaniaethu rhwng y rheini na allai weithio a'r rheini oedd yn gwrthod gweithio. Cyflwynwyd amrywiaeth o fesurau i ddelio â’r naill a’r llall.

Felly, pasiwyd nifer o ddeddfau yn ystod y teyrnasiad oedd, i ryw raddau, yn derbyn cyfrifoldeb y llywodraeth i edrych ar ôl y ’. Serch hynny, roedden nhw hefyd yn ceisio darbwyllo y drwy gosbi a chrwydrwyr.

Deddf a BlwyddynMesurau a gymerwyd
Statud y Llafurwyr 1563Roedd bechgyn yn dilyn prentisiaeth am saith mlynedd. Y bwriad oedd creu swyddi a chadw cardotwyr posib oddi ar y strydoedd.
Deddf Crwydraeth 1572Defnyddiwyd cosbau llym i rwystro crwydraeth. Ail-gyflwynwyd y gosb eithaf. Byddai’n rhaid i bobl leol dalu treth y tlodion. Roedd y rheini oedd yn goruchwylio’r bobl oedd yn byw mewn tlodi yn helpu Ynadon Heddwch i weinyddu cymorth iddyn nhw.
Deddf Cymorth y Tlodion 1576Adeiladwyd Carchardai ym mhob sir. Byddai’r rheini oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu hanfon yno. Byddai’r bobl oedd yn gwrthod talu treth y tlodion yn cael eu cosbi.
Deddf Cymorth y Tlodion 1598Penodwyd pedwar Goruchwyliwr ym mhob plwyf. Roedd rhaid i drigolion dalu treth y tlodion gorfodol i gefnogi’r rhai oedd yn byw mewn tlodi. Daethpwyd o hyd i waith i ddynion a menywod abl.
Deddf Cosbi Dihirod 1598Cafodd y gosb eithaf ei wahardd, ond byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu chwipio a’u dychwelyd i’w plwyf eu hunain. Anfonwyd unrhyw un oedd yn ansicr o’i blwyf genedigol i’r Carchardy.
Deddf a BlwyddynStatud y Llafurwyr 1563
Mesurau a gymerwydRoedd bechgyn yn dilyn prentisiaeth am saith mlynedd. Y bwriad oedd creu swyddi a chadw cardotwyr posib oddi ar y strydoedd.
Deddf a BlwyddynDeddf Crwydraeth 1572
Mesurau a gymerwydDefnyddiwyd cosbau llym i rwystro crwydraeth. Ail-gyflwynwyd y gosb eithaf. Byddai’n rhaid i bobl leol dalu treth y tlodion. Roedd y rheini oedd yn goruchwylio’r bobl oedd yn byw mewn tlodi yn helpu Ynadon Heddwch i weinyddu cymorth iddyn nhw.
Deddf a BlwyddynDeddf Cymorth y Tlodion 1576
Mesurau a gymerwydAdeiladwyd Carchardai ym mhob sir. Byddai’r rheini oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu hanfon yno. Byddai’r bobl oedd yn gwrthod talu treth y tlodion yn cael eu cosbi.
Deddf a BlwyddynDeddf Cymorth y Tlodion 1598
Mesurau a gymerwydPenodwyd pedwar Goruchwyliwr ym mhob plwyf. Roedd rhaid i drigolion dalu treth y tlodion gorfodol i gefnogi’r rhai oedd yn byw mewn tlodi. Daethpwyd o hyd i waith i ddynion a menywod abl.
Deddf a BlwyddynDeddf Cosbi Dihirod 1598
Mesurau a gymerwydCafodd y gosb eithaf ei wahardd, ond byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu chwipio a’u dychwelyd i’w plwyf eu hunain. Anfonwyd unrhyw un oedd yn ansicr o’i blwyf genedigol i’r Carchardy.

Deddf Tlodion 1601

Yn 1601, pasiwyd deddf arall ar gyfer rhoi Cymorth i'r Tlawd. Cafodd ei alw’n Ddeddf Tlodion Elisabeth a pharhaodd am dros 200 mlynedd. Yn y bôn, daeth â holl Ddeddfau’r Tlodion blaenorol at ei gilydd yn un ddeddf, gan sefydlu fframwaith gyfreithiol i geisio datrys problemau’r rhai oedd yn byw mewn tlodi.

Roedd hefyd yn annog sefydlu . Dyma lefydd gafodd eu hadeiladu a’u cefnogi gan roddion preifat oedd fod i ofalu am y 'tlawd haeddiannol'.

Y pedwar darn o ddeddfwriaeth allweddol yn Neddf y Tlodion.
Figure caption,
Egwyddorion Deddf Tlodion 1601

Cynnydd yn nifer y crwydrwyr

Mae’n ymddangos bod y bwlch rhwng y cyfoethog a’r bobl oedd yn byw mewn tlodi wedi ehangu yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Ni wnaeth Elisabeth ddatrys problem crwydrwyr a thlodi, gan fod nifer y crwydrwyr wedi cynyddu mewn gwirionedd yn ystod ei theyrnasiad.

Roedd anfon crwydrwyr i’r Carchardy yn eu cadw oddi ar y strydoedd ond nid oedd hynny’n egluro pam eu bod nhw ar y strydoedd yn y lle cyntaf. Yn yr un modd, roedd eu hanfon o un lle i’r llall ond yn pasio’r broblem o un dref neu bentref i’r llall.

Serch hynny, roedd sylweddoli bod rhai pobl ddim yn gallu cefnogi eu hunain yn gam ymlaen. Aeth deddfau’r tlodion a basiwyd yn ystod ei theyrnasiad ryw ffordd at rwystro pobl rhag crwydro’r ffyrdd. Roedd y cymysgedd hwn o gyfreithiau, elusen breifat ac ymdrechion awdurdodau’r trefi wedi helpu i reoli’r sefyllfa.

Ni wnaeth criwiau o gardotwyr crwydrol wrthryfela yn erbyn cymunedau lleol, a gofalwyd am y rhai oedd yn byw mewn tlodi yn eu trefi a’u pentrefi eu hunain cyn belled â phosibl.