Achosion tlodi – diweithdra a chrwydraeth
Tlodi oedd un o broblemau mawr Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd nifer y di-waith yn sylweddol am nifer o resymau. Roedd agweddau tuag at dlodi hefyd yn wahanol i heddiw gyda nifer o’r farn bod y di-waith yn rhy ddiog i ddod o hyd i waith. Roedd system llesCymorth ariannol a ddarparwyd gan y llywodraeth. gyfyng iawn i helpu’r rheini mewn angen.
Cynnydd mewn tlodi
Arweiniodd amrywiaeth o ffactorau at y cynnydd mewn tlodi yn ystod y cyfnod hwn. Ugain mlynedd cyn teyrnasiad Elisabeth, roedd Harri VIII wedi diddymu'r mynachlogyddCaeodd Harri VIII pob mynachlog yng Nghymru a Lloegr rhwng 1536 a 1541. Gwerthwyd eu holl dir ac adeiladau..
Wnaeth hyn ddim helpu – nid yn unig cafodd gweision y mynachod a’r lleianod eu diswyddo, ond doedd gan y bobl oedd yn byw mewn tlodi unman i fynd am loches achlysurol. O ganol y 1500au, cyfrannodd y ffactorau canlynol yn fawr at y broblem dlodi.
| Rheswm | Eglurhad |
| Y boblogaeth yn cynyddu | Cynyddodd y boblogaeth filiwn yn ystod cyfnod Elisabeth. Roedd mwy o bobl yn golygu mwy o alw am nwyddau, ac felly, cododd prisiau. |
| Chwyddiant | Cododd prisiau nwyddau, ond syrthiodd cyflogau gan fod mwy o bobl ar gael i wneud y gwaith. |
| Cwymp y diwydiant brethyn | Brethyn gwlân oedd yn cael ei allforio fwyaf yn Lloegr. Cafwyd gostyngiad yn y galw ac arweiniodd hynny at ddiweithdra. |
| Rhyfeloedd | Cynyddodd trethi i wneud iawn am bris rhyfela. |
| Cynaeafau gwael | Cafwyd cynaeafau arbennig o wael yn y 1590au, gan arwain at hyd yn oed mwy o alw a phrisiau’n codi ymhellach. |
| Newidiadau mewn ffermio | Penderfynodd nifer o landlordiaid i amgylchynu eu caeau a chadw defaid yn hytrach na thyfu cnydau a arweiniodd at ddiweithdra uchel. |
| Rheswm | Y boblogaeth yn cynyddu |
|---|---|
| Eglurhad | Cynyddodd y boblogaeth filiwn yn ystod cyfnod Elisabeth. Roedd mwy o bobl yn golygu mwy o alw am nwyddau, ac felly, cododd prisiau. |
| Rheswm | Chwyddiant |
|---|---|
| Eglurhad | Cododd prisiau nwyddau, ond syrthiodd cyflogau gan fod mwy o bobl ar gael i wneud y gwaith. |
| Rheswm | Cwymp y diwydiant brethyn |
|---|---|
| Eglurhad | Brethyn gwlân oedd yn cael ei allforio fwyaf yn Lloegr. Cafwyd gostyngiad yn y galw ac arweiniodd hynny at ddiweithdra. |
| Rheswm | Rhyfeloedd |
|---|---|
| Eglurhad | Cynyddodd trethi i wneud iawn am bris rhyfela. |
| Rheswm | Cynaeafau gwael |
|---|---|
| Eglurhad | Cafwyd cynaeafau arbennig o wael yn y 1590au, gan arwain at hyd yn oed mwy o alw a phrisiau’n codi ymhellach. |
| Rheswm | Newidiadau mewn ffermio |
|---|---|
| Eglurhad | Penderfynodd nifer o landlordiaid i amgylchynu eu caeau a chadw defaid yn hytrach na thyfu cnydau a arweiniodd at ddiweithdra uchel. |
Cardotwyr
Yn ogystal â chynnydd mewn diweithdra, cafwyd cynnydd yn nifer y cardotwyr oedd yn crwydro cefn gwlad a threfi yn chwilio am waith. Roedd llywodraeth oes Elisabeth yn bryderus iawn ynglŷn â'r broblem o bobl yn byw mewn tlodi, fel yr oedd pobl gyffredin.
- Clefydau – cafwyd sawl achos o’r pla a chlefydau eraill yn y 16eg ganrif. Roedd nifer o bobl o’r farn bod grwpiau o gardotwyr crwydrol yn lledaenu clefydau.
- Troseddu – byddai cardotwyr yn troi at droseddu’n aml iawn. Doedd dim heddlu ar y pryd, ac roedd Ynadon Heddwch yn credu bod cardotwyr yn fygythiad difrifol i’w hawdurdod.
- Gwrthryfeloedd – roedd llywodraethau’r 16eg ganrif wastad yn poeni am y bygythiad o wrthryfeloedd. Efallai y byddai uchelwyr anhapus yn ceisio ennill cefnogaeth y bobl oedd yn byw mewn tlodi i wrthryfela yn erbyn y frenhines.
- Diogi – roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu bod cardotwyr yn gosod esiampl wael oherwydd bod rhai yn gwrthod gweithio. Roedden nhw’n credu bod diogi yn bechod ac y dylid cosbi’r bobl hyn.
- Y drefn gymdeithasol – credid bod gan bawb lle sefydlog mewn cymdeithas ac y dylid ufuddhau i’r rheini ar frig y drefn gymdeithasol. Roedd cardotwyr crwydrol yn bygwth y ‘drefn naturiol’ hon ac felly’n fygythiad i gymdeithas.
Y ‘tlawd haeddiannol’ a’r ‘tlawd anhaeddiannol’
Y gred ar y pryd oedd bod yna wahanol fathau o bobl oedd yn byw mewn tlodi. Yn gyffredinol roedden nhw’n cael eu ystyried naill ai yn ‘dlawd haeddiannol’ neu yn ‘dlawd anhaeddiannol’.
‘Tlawd haeddiannol’
Dyma’r rhai oedd yn byw mewn tlodi er bod yna ddim bai arnyn nhw – megis pobl oedd yn sâl, hen bobl, pobl ifanc a phobl anabl. Y gred oedd bod y bobl hyn yn haeddu cael help.
‘Tlawd anhaeddiannol’
Y gred oedd nad oedd y bobl hyn yn haeddu cael help. Roedden nhw hefyd yn cael eu disgrifio fel y ‘tlawd abl’ – roedd pobl yn credu bod y cardotwyr holliach hyn yn dewis peidio dod o hyd i waith. Cafodd deddfau eu pasio oedd yn cosbi pobl fel hyn.
Crwydrwyr oedd problem fwyaf y llywodraeth, a hyd yn oed bryd hynny, roedd nifer o fathau gwahanol.
- Dynion Abraham/Tom O’Bedlam – cardotwyr oedd yn ffugio bod yn wallgof, ac yn ceisio cael arian drwy haelioni pobl eraill.
- Clapperdudgeon – ffugio bod yn sâl drwy greu briwiau ffug ar eu cyrff, gan obeithio am gydymdeimlad.
- Ffugiwr ffitiau – ffugio bod yn epileptig. Bydden nhw'n defnyddio sebon er mwyn edrych fel pe bawn nhw'n ewynnu o amgylch y geg.
Sefydliadau ar gyfer y rhai oedd yn byw mewn tlodi
Roedd trefi mwy yn ceisio delio â’r broblem drwy sefydlu sefydliadau amrywiol i ymdrin â mathau gwahanol o bobl oedd yn byw mewn tlodi. Gwnaeth llefydd fel Llundain, Ipswich, Lincoln a Norwich gynlluniau i'w cael nhw i weithio.
Dechreuodd nifer o lefydd gynnal cyfrifiadCyfrif swyddogol o’r boblogaeth. i ddadansoddi’r boblogaeth. Yn Llundain, bu’n rhaid delio â llawer o bobl oedd yn byw mewn tlodi a defnyddiwyd ysbytai fel St Bartholomew’s a St Thomas’ ar gyfer y bobl sâl.