Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

EsbonioCrynodeb o’r asesiad

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn esbonio. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part ofCymraegYsgrifennu

Crynodeb o’r asesiad

Bydd yr arholiad hwn yn profi dy sgiliau darllen ac ysgrifennu. Yn Adran A bydd rhaid i ti ateb ystod o gwestiynau yn seiliedig ar destunau darllen. Bydd y darnau darllen yn yr arholiad hwn yn ddarnau Disgrifio, Naratif ac Esbonio.

Yn Adran B fe gei di ddewis o ddau ddarn i’w hysgrifennu. Bydd rhaid i ti ysgrifennu un o’r ddau. Gall y dasg fod naill ai’n dasg ddisgrifio, tasg naratif neu dasg esbonio.

Mae’r papur yn werth 70 o farciau:

  • 30 marc ar gyfer y darllen.
  • 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu sef, ysgrifennu estynedig am 35 marc, cyfathrebu a threfn am 20 marc a 15 marc am ysgrifennu’n gywir. Bydd un dasg prawf-ddarllen yn canolbwyntio ar ysgrifennu’n gywir yn uned dau yn ogystal.

Esbonio

Beth yw testun sydd yn esbonio?

  • Testun sydd yn esbonio proses neu sut mae rhywbeth yn gweithio.
  • Mae angen defnyddio paragraffau i gyflwyno gwahanol resymau/camau i’r broses.
  • Gan amlaf byddi yn ysgrifennu gan ddefnyddio amser presennol y ferf.
  • Gan amlaf mae angen canolbwyntio ar achos ac effaith.
  • Weithiau bydd rhaid defnyddio geiriau a thermau technegol.
  • Mae modd defnyddio diagramau a siartiau llif (cofia does dim disgwyl i ti wneud hyn wrth ysgrifennu yn yr arholiad).

Dyma rai o’r ffurfiau ysgrifennu sy’n bosibl:

  • adroddiad ar destunau gwahanol – gwyddonol, hanesyddol, papur newydd
  • cofnodion cyfarfodydd
  • ffeithlun

Cofia feddwl am y canlynol wrth ysgrifennu esboniad:

  • ffurf – ym mha ffurf wyt ti’n ysgrifennu (adroddiad, cofnodion, erthygl ayyb)
  • cynulleidfa – ar gyfer pwy wyt ti’n ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)
  • pwrpas – pam wyt ti’n ysgrifennu (i egluro, esbonio, adrodd hanes ayyb)
  • arddull – sut wyt ti’n ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig, bratiaith ayyb)