Cais i George North yn ei gêm olaf a thimau Cymru'n curo'r Barbariaid

Ychydig a fyddai wedi dyfalu mai cyfraniad olaf George North i rygbi fyddai trosiad yn erbyn Cymru
- Cyhoeddwyd
Profodd Cymru fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, gyda George North yn hawlio cais hefyd yn ei gêm olaf cyn ymddeol o rygbi.
31-33 oedd y sgôr terfynol, wedi'i Dan Edwards hawlio dau, Kieran Hardy a Reuben Morgan-Williams a'r asgellwr Ellis Mee hefyd yn sgorio.
Ond bydd North yn gadael y gamp gyda'i ben i fyny, ar ôl iddo sgorio dau gais i'r Barbariaid wedi iddo ddod oddi ar y fainc.
Bu hi'n boeth iawn yn Stadiwm Allianz, gyda thymereddau'n cyrraedd 32C ac mae Cymru wedi cynhesu ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd gyda buddugoliaeth.
Bydd y dynion mewn coch yn chwarae Fiji nesaf ar ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf,

Ennill oedd hanes tîm merched Cymru hefyd
Ennill oedd hanes tîm merched Cymru hefyd yn erbyn y Barbariaid, ond yn hwyrach yn y dydd.
17-34 oedd y sgôr ar y chwiban olaf, gyda Kayleigh Powell, Seren Lockwood, Courtney Keight a Jorja Aiono yn sgorio ceisiadau ac Amy Williams yn hawlio dau hefyd.
Bryonie King oedd chwaraewr y gêm.
Bydd y merched yn chwarae yn erbyn yr Alban nesaf, fis Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill

- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
