Carys a Rowland Phillips yn creu hanes i'r Barbariaid

Rowland a Carys PhillipsFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rowland yn arfer bod yn brif hyfforddwr ar ferched Cymru a Carys

GanAwen Mutembo
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Pan fydd Carys Phillips yn chwarae yn Stadiwm Allianz ddydd Sadwrn, bydd hi'n creu darn o hanes i'r Barbariaid.

Nid yn unig mae'r teulu Phillips wedi cael dau aelod yn cynrychioli rygbi Cymru, ond Carys a Rowland fydd y tad a merch cyntaf i gynrychioli'r Baa-Baas.

Bydd Carys - un o'r merched sydd â'r nifer fwyaf o gapiau dros Gymru - yn dilyn ei thad, Rowland, a wisgodd y crys du a gwyn dros 20 mlynedd yn ôl.

"Mae'n stori cool i rannu gyda'n gilydd a dwi'n gobeithio bod y teulu yn cael amser da ar y penwythnos yn dod lan i weld fi," meddai Carys.

"Mae dad yn fy atgoffa o dro i dro ei fod wedi chwarae i'r Baa-Baas, dywedodd i mi joio, cymryd popeth mewn ac i greu atgofion melys."

'Siawns i fwynhau rygbi'

Chwaraeodd Sarah Levy i'r Barbariaid yn erbyn De Affrica yn 2021, gan ddilyn ei hen-daid, Louis Babrow, a gynrychiolodd y tîm wyth gwaith rhwng 1938 a 1940.

Ond nid yw tad a merch erioed wedi cyflawni hynny.

Fe wnaeth Carys gymryd rhan mewn pedair pencampwriaeth Cwpan y Byd yn ystod ei gyrfa genedlaethol, gan ennill 87 cap.

Mae hi nawr yn dilyn ei thad - blaenasgellwr Cymru rhwng 1987 a 1990 - a ddaeth yn ôl o ymddeoliad yn 2003 i chwarae ar gyfer y Barbariaid.

"Mae'n hwyl i fod gyda'r Barbariaid, dwi'n hapus iawn bod Carys wedi cael y siawns nawr," meddai Rowland.

"Nid oedd yn brofiad mor fawr â'r hyn mae Carys yn mynd i gael fory.

"Mae hwn yn siawns i Carys gael mwynhau rygbi ac amser i chwarae gyda chwaraewyr enwog yn y byd merched."

Bydd y tîm yn cynnwys seren Seland Newydd, Ruby Tui, ar yr asgell, ac mae'r capten Emily Chancellor yn un o flaenwyr Awstralia.

"Dwi'n edrych ymlaen i chwarae gyda'r grŵp yma," dywedodd Carys.

"Y cyfle o gael mynd allan gyda'r grŵp yma dyma dwi'n edrych ymlaen at fwyaf, ac i chwarae, joio, a chael hwyl."

Bydd Phillips, 33, yn cyflawni'r foment hanesyddol yn erbyn ei chyd-chwaraewyr o'i thîm cenedlaethol, ar ôl peidio â chael ei dewis i Gymru trwy gydol y Chwe Gwlad eleni.

"Fydd yn brofiad gwahanol chwarae yn erbyn Cymru, o fod yna yn ystod y Chwe Gwlad a nawr fi fan hyn yn chwarae yn erbyn nhw.

"Ond dwi wedi caru pob moment hyd yn hyn a dwi ddim eisiau iddo ddod i ben."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig