Dyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio yn credu bod y ferch yn 17

Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio wedi cyfaddef cael rhyw gyda merch 15 oed, ond dywedodd wrth reithgor mai'r ferch wnaeth ddechrau hynny a'i fod yn credu ei bod hi'n 17.

Mae Ziaullah Badshah, 25, yn un o bump yn Sir Ddinbych sy'n gwadu cyhuddiadau o gamfanteisio'n rhywiol ar ferched yn Y Rhyl.

Cyfaddefodd Mr Badshah hefyd ei fod wedi ysmygu canabis gydag un o'r dioddefwyr honedig - Plentyn B.

Ond, mae'n gwadu cyflenwi'r cyffur iddi hi a merch 14 oed arall - Plentyn C.

Wrth roi tystiolaeth yn ei amddiffyniad am y tro cyntaf yn Llys y Goron Caernarfon, fe wnaeth gadarnhau ei fod wedi dod i'r DU yn 2016 ar ôl iddo orfod gadael Pacistan pan oedd yn 15 oed.

Wrth gael ei holi gan ei fargyfreithiwr, Simon Killeen, dywedodd Mr Badshah ei fod wedi mynd i fyw gyda'i frawd yn Y Rhyl, ar ôl i gartref ei deulu gael ei ddinistrio ac aelod o'i deulu gael ei ladd.

Clywodd y llys fod Mr Badshah yn dioddef ôl-fflachiadau, pryder ac iselder yn dilyn ei brofiad ym Mhacistan ac wedi ceisio dod â'i fywyd i ben "gymaint o weithiau".

Dywedodd Mr Badshah iddo gyfarfod â Phlentyn B a Phlentyn C am y tro cyntaf yng nghartref y cyd-ddiffynnydd, Mustafa Iqbal, ym mis Mawrth 2022, ar ôl bod yn siopa gyda chyd-ddiffynnydd arall, Mohammed Arshad.

Dywedodd eu bod wedi cael gwybod bod y ddwy ferch yn 17 oed.

'Doedd o ddim yn rhywiol'

Clywodd y rheithgor fod gêm o droelli potel ('spin the bottle') wedi'i dechrau gan Blentyn B, wnaeth arwain at Mr Badshah yn cusanu Plentyn B a Phlentyn C.

Ond mynnodd: "Doedd o ddim yn rhywiol."

Ond fe wnaeth dderbyn bod Plentyn B wedi dod draw i'w fflat yn y dref yn ddiweddarach, lle y cafodd ryw gyda'r ferch.

"Hi oedd yr un wnaeth ddechrau'r rhan fwyaf ohono fo - doeddwn i ddim yn poeni cymaint â hynny mewn gwirionedd," meddai wrth y rheithgor.

Cafodd ei holi ynghylch am yr awgrym nad oedd hi wedi rhoi caniatâd.

"Dyna beth mae hi'n ei ddweud rŵan," meddai.

""Hi oedd yr un wnaeth ddechrau'r rhan fwyaf ohono fo."

'Rhywbeth na fyddwn i fyth yn ei wneud'

Cyfaddefodd Mr Badshah ei fod wedi cael rhyw gyda Phlentyn B yn ei fflat ar achlysur arall, tra bod Plentyn C hefyd yn yr un ystafell.

Eto, mynnodd fod hynny â chaniatâd.

Clywodd y llys mai dim ond pan deithiodd y ferch i Lundain gyda'r cyd-ddiffynnydd 65 oed, Jaswinder Singh - sy'n gwadu honiadau o fasnachu a chyflenwi canabis - y daeth i wybod ei bod hi'n 15 oed.

"Roedd fy mywyd newydd ddod i ben," meddai.

"Roedd yn un o'r pethau gwaethaf yn fy mywyd. Mae'n rhywbeth na fyddwn i fyth yn ei wneud - yn enwedig mynd gyda merch o dan oed."

Mae Mr Badshah yn gwadu dau gyhuddiad o dreisio sy'n ymwneud â Phlentyn B, cynllwynio i fasnachu a llafur gorfodol a chyflenwi canabis i un arall.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig