Pryder am effaith Deddf Dedfrydu ar deulu dyn a laddwyd yn Sir Gâr

Aaron JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aaron Jones ar ôl cael ei daro gan gar wrth fynd â'i gi am dro yn Llanpumsaint ym mis Rhagfyr 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddw dyn a gafodd ei ladd ar ôl cael ei daro gan yrrwr wedi mynegi pryder y gallai'r dyn a achosodd ei farwolaeth gael ei ryddhau'n gynt na'r disgwyl.

Bu farw Aaron Jones, 38 oed ac yn dad i ddau o blant, ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gerbyd mewn digwyddiad taro a ffoi.

Mae ei weddw Lisa Jones o Lanpumsaint wedi derbyn llythyr yn nodi y gallai dedfryd Daniel Wyke gael ei hadolygu o dan ddarpariaethau Deddf Dedfrydu 2026.

Mae'r teulu wedi dweud na fydden nhw'n gwybod tan ddiwedd mis Awst a fydd ei gyfnod yn y carchar yn cael ei leihau.

Mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, a Nerys Evans, Aelod Senedd Cymru dros Sir Gaerfyrddin, wedi galw ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod hawliau a lles teuluoedd dioddefwyr wrth galon unrhyw benderfyniadau.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai nod y newidiadau yw mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai, gan bwysleisio mai diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr yw eu blaenoriaeth.

Daniel WykeFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Daniel Wyke ddedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar ym mis Mawrth 2026

Roedd Mr Jones yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro ddeuddydd cyn y Nadolig yn 2024, ac fe wnaeth y gyrrwr, Daniel Wyke adael safle'r digwyddiad.

Cafodd Wyke ei garcharu am bedair blynedd a hanner ym mis Mawrth eleni ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Ann Davies a Nerys Evans fod wynebu'r ansicrwydd ynghylch hyd y ddedfryd yn ychwanegu at alar y teulu.

"Mae'n hanfodol bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gwrando ar ddioddefwyr a'u teuluoedd," medden nhw mewn datganiad ar y cyd.

"Rhaid mynd ati gyda'r gofal a'r sensitifrwydd mwyaf mewn unrhyw benderfyniad i fyrhau dedfrydau mewn achosion o'r difrifoldeb hwn."

Aaron Jones mewn carFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aaron Jones wrth ei fodd gyda cheir a ralio, yn ôl ei deulu a'i ffrindiau

Mae Deddf Dedfrydu 2026 yn golygu y gall rhai carcharorion gymhwyso i gael eu rhyddhau'n gynharach fel rhan o newidiadau i'r system ddedfrydu.

Dywedodd Nerys Evans ei bod hi ac Ann Davies wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i "geisio sicrwydd y gellir clywed llais a barn teulu Aaron fel rhan o unrhyw broses i adolygu'r ddedfryd".

Fe wnaeth Ann Davies godi'r achos yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, gan ddweud bod yr ansicrwydd yn dod â mwy o ofid i deuluoedd dioddefwyr.

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Alan Campbell, ei fod yn deall sensitifrwydd yr achos a'r gofid a achoswyd i'r teulu.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried y pryderon.

Dywedodd bod angen i ystyried hawliau teuluoedd dioddefwyr fod yn "rhan o bob proses, nid dim ond achosion unigol", ac y dylai hynny arwain at "newid diwylliannol" yn y ffordd mae'r system gyfiawnder yn delio â'r materion hynny.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y llywodraeth yn gweithredu'r newidiadau er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng capasiti mewn carchardai.

Dywedodd llefarydd fod "diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr" yn flaenoriaeth, gan ychwanegu "na fydd y troseddwyr mwyaf peryglus yn gymwys i gael eu rhyddhau'n gynharach".

Ychwanegodd y bydd "carcharorion sy'n cael eu rhyddhau'n gynnar yn wynebu amodau llym", gan gynnwys cyfyngiadau ar eu symudiadau, tagio electronig a goruchwyliaeth gan y gwasanaeth prawf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.