Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llandeilo

Ffordd gyda choed ar y ddwy ochr a sawl cerbyd heddlu a thân wedi'u parcio arni
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi gwrthdrawiad angheuol ar yr A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 16:25 brynhawn Gwener wedi'r gwrthdrawiad rhwng bws Scania a fan Ford Transit.

Yn hwyr nos Wener cadarnhaodd yr heddlu bod gyrrwr y fan wedi marw yn syth wedi'r gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y bws a theithiwr 14 oed a oedd yn y bws eu cludo i Ysbyty Glangwili fel mesur rhagofalus, gydag anafiadau nad sy'n cael eu hystyried yn rhai sy'n peryglu bywyd.

Mae ffordd yr A40, a fu ar gau am sawl awr yn dilyn y gwrthdrawiad, bellach wedi ailagor.

Dywedodd yr heddlu fod perthnasau agos gyrrwr y fan wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.

Mae swyddogion yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A40 adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dashcam, i gysylltu â nhw.

llandeilo

O'r safle (toc cyn 19:00 nos Wener)

Meleri Williams, Gohebydd BBC Cymru

Mae llawer o blismyn o hyd ar ffordd yr A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig.

Rwy' wedi gweld dwy injan dân yn gadael ac mae'r ambiwlans awyr hefyd wedi mynd nôl.

Yn y pellter rwy'n gallu gweld fan wen ar y llain galed a bws cwmni Ffoshelig.

Mae Ffoshelig yn gwmni adnabyddus yn Sir Gâr - yn bennaf mae'r bysys yn cludo plant ysgol ond dydyn ni ddim wedi cael cadarnhad bod y bws yn cludo disgyblion.

Dywedodd cwmni Ffoshelig nad oedden nhw am wneud sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig