Cofnodi'r diwrnod mis Mehefin twymaf erioed yng Nghymru

Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin fore IauFfynhonnell y llun, Plaasjapie/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr haul yn tywynnu yn Llanybydder yn Sir Gaerfyrddin fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Dydd Iau yw'r diwrnod mis Mehefin twymaf erioed yng Nghymru, yn ôl ffigyrau y Swyddfa Dywydd.

Prynhawn Iau roedd y tymheredd ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn 35.9C, sy'n uwch na'r record flaenorol o 33.7C a gofnodwyd 'nôl yn 2000.

Mae rhybudd coch am wres eithafol - yr un cyntaf erioed yng Nghymru - yn dal mewn grym ar gyfer rhannau mawr o'r de a'r canolbarth tan 23:59 nos Iau, a rhybudd oren ar draws gweddill y wlad.

Roedd yr arbenigwyr wedi rhagweld y gallai dydd Iau fod y diwrnod poethaf erioed yng Nghymru - 37.1C yw'r record ar hyn o bryd, a gofnodwyd ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint yn 2022.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhagweld y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C cyn i'r rhybudd coch ddod i ben.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, ni wnaeth y tymheredd ostwng yn is na 23.5C dros nos yng Nghaerdydd, sy'n golygu mai nos Fercher oedd y noson dwymaf ar gofnod ym mis Mehefin unrhyw le yn y DU.

Mae hynny'n torri'r record flaenorol o 22.7C a osodwyd yn 1976.

Afon Gwy yn ardal Rheadr GwyFfynhonnell y llun, Minnieminx/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod crasboeth ar lan Afon Gwy yn ardal Rhaeadr Gwy ddydd Iau

Erbyn bore Iau roedd tua 850 o ysgolion wedi cadarnhau eu bod ar gau yn llwyr neu'n rhannol ddydd Iau oherwydd y gwres - dros 200 yn fwy na dydd Mercher.

Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol unigol.

Oherwydd y gwres mae cynghorau wedi addasu gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd, gan gynnwys casglu sbwriel yn gynt yn y diwrnod na'r arfer.

Map y rhybuddion coch ac orenFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybuddion tywydd mewn grym tan 23:59 nos Iau

Wedi i'r tywydd twym eithafol ddod i ben mae rhybudd am stormydd o daranau mewn grym ar gyfer nos Iau a bore Gwener.

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd ar gyfer nos Iau ar gyfer nifer o siroedd y canolbarth a'r de - ardal digon tebyg i'r un ar gyfer y rhybudd coch am wres eithafol - o 18:00 tan hanner nos.

Mae rhybudd arall mewn grym rhwng hanner nos a 10:00 fore Gwener, ar gyfer pob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn a Sir Benfro.

Maen nhw'n dweud y gallai gwyntoedd gyrraedd 60mya mewn mannau, a gall hyd at 20mm o law ddisgyn o fewn awr.

Rhybudd stormyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd am stormydd o daranau mewn grym ar gyfer bore Gwener

Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae'r tywydd yn cael effaith ar wasanaethau trên hefyd.

Mae cyfyngiadau a gafodd eu gosod gan Drafnidiaeth Cymru ddydd Mercher yn parhau ar ambell linell, a hynny oherwydd prinder trenau mewn sawl achos.

Mae'n golygu bod llai o deithiau yn ystod y dydd rhwng Caer a Wrecsam, Aberystwyth ac Amwythig, Machynlleth a Phwllheli, Caerdydd Canolog a Glynebwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, a Chaerdydd a Phenarth.

Mart Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd marchnad da byw Llanelwy ei chynnal yn gynt na'r arfer fore Iau oherwydd y tywydd

Mae'r arwerthwyr Jones Peckover wedi gwneud newidiadau er mwyn sicrhau lles anifeiliaid a diogelwch amaethwyr ym marchnad da byw Llanelwy ddydd Iau trwy gynnal yr arwerthiant ŵyn tew wythnosol am 08:30 y bore, yn lle 10:30.

Fe ddechreuodd y gwaith o'u pwyso yn gynt hefyd, o 04:00 ymlaen, ac mae'r defaid i gyd yn cael eu cadw dan do.

"Dydi symud stoc i unrhyw ffermwr ddim yn job hawdd yn y tywydd yma," dywedodd un o'r arwerthwyr, Sion Eilir, ar raglen Dros Frecwast.

"'Na'th o ddod i'n meddylia' ni ar un pwynt falle bod rhaid i ni ohirio... does 'na neb yn licio cau, bydd rhaid i ni jyst trio g'neud y gora' o be' sy' gennon ni."

Mae Dŵr Cymru yn annog cwsmeriaid i yfed digon o ddŵr, ond i'w ddefnyddio'n bwyllog, gan ragweld i'r galw amdano gyrraedd uchafbwynt.

Mae timau "yn gweithio 24 awr y dydd i gynnal pwysedd ar draws y rhwydwaith a sicrhau bod cyflenwadau'n llifo'n ddiogel i gartrefi, ysbytai a busnesau", meddai'r cwmni.

Ond fe allai'r cyhoedd helpu trwy gamau fel ailddefnyddio dŵr - dyfrio planhigion gyda dŵr pwll padlo, er enghraifft - cymryd cawod yn lle bath, trwsio tapiau sy'n diferu ac ond defnyddio peiriannau golchi pan eu bod yn llawn.

Mae'r cwmni hefyd yn apelio ar bobl i beidio â throchi neu nofio mewn cronfeydd dŵr, gan danlinellu'r peryglon cudd dan yr wyneb a'r perygl i fywyd os yw rhywun yn mynd i drafferthion neu'n ceisio achub rhywun yn y dŵr.

Dywedodd Heddlu De Cymru y bu farw dyn 50 oed ar ôl mynd i'r môr ar Draeth Aberafan yn ystod y tywydd twym ddydd Mercher.

'Sefyllfa yn yr ysbyty yn anodd iawn'

Mae meddygon hefyd wedi rhybuddio am yr heriau sy'n wynebu ysbytai wrth geisio gofalu am gleifion yn ystod y gwres eithafol.

Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd Dr Gwenllian Davies, cymrawd gyda Choleg Brenhinol y Meddygon, fod tymheredd ar rai wardiau wedi cyrraedd 32C.

"Mae'r tywydd yn gwneud y sefyllfa yn yr ysbyty yn anodd iawn," meddai.

Ychwanegodd fod cleifion bregus yn cael eu heffeithio fwyaf gan y gwres, yn enwedig gan nad oes systemau aerdymheru mewn rhai ysbytai.

"Pobl bregus sy'n cael y mwya' o niwed gan y gwres uchel ac mae rhan fwyaf yn y gwely".

Dywedodd fod llawer o gleifion yn methu cyrraedd diodydd drostynt eu hunain ac yn dibynnu ar staff i'w helpu i gadw wedi'u hydradu.

Rhybuddiodd hefyd y gall tymheredd uchel effeithio ar offer meddygol mewn rhai ysbytai os yw'n gorboethi.

Dywedodd Dr Davies fod y gwres yn cael effaith ar staff yn ogystal â chleifion, gyda llawer yn gweithio mewn amodau poeth iawn wrth wisgo gwisgoedd gwaith trwm.

"Dydy adeiladau ysbytai heb gael eu cynllunio i ymdopi gyda'r math yma o dywydd.

"Dydyn ni ddim yn gallu cau ysbytai - rhaid i ni aros ar agor ac edrych ar ôl y cleifion," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.