Mam o Gaernarfon yn poeni wrth i 'gostau fynd i fyny o bob ongl'

Mae teuluoedd yn dweud bod costau petrol a diesel yn parhau i roi pwysau mawr ar gyllidebau cartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae mam i bedwar o blant o Gaernarfon wedi dweud bod teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu "gadael ar ôl" wrth i gostau byw barhau i godi.
Dywedodd Llywela Wharton ei bod yn anodd cydbwyso costau bwyd, ynni a gofalu am blant, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol.
Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cyfres o fesurau newydd gyda'r nod o leihau costau byw.
Yn eu plith mae toriad TAW o 20% i 5% ar fynediad i atyniadau teuluol fel sinemâu, parciau chwarae dan do a sŵau dros yr haf.
Y bwriad yw lleihau costau ar deuluoedd rhwng Mehefin a diwedd Awst, ac fe fydd hefyd yn effeithio ar brydau plant mewn bwytai a chaffis.
Mae pennaeth polisi elusen wedi croesawu rhai o'r cynlluniau, ond yn rhybuddio nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i helpu teuluoedd sy'n wynebu pwysau ariannol.

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves fod mesurau newydd y llywodraeth wedi'u bwriadu i helpu gyda chostau byw
Wrth gyhoeddi'r mesurau ddydd Iau, dywedodd y Canghellor ei bod yn "deall mai'r hyn sy'n bwysig i deuluoedd ydy nid yn unig cael dau ben llinyn ynghyd, ond gallu mwynhau amser gyda'i gilydd heb boeni am y bil nesaf".
Dywedodd ei bod hefyd yn awyddus i helpu'r sector lletygarwch.
Roedd rhai mesurau eisoes wedi dod i'r amlwg ddydd Mercher, yn cynnwys cadarnhad y byddai'r toriad 5c y litr yn y dreth ar danwydd yn cael ei ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi tripiau bysiau am ddim i deuluoedd yn Lloegr dros wyliau'r haf, a bod tollau ar dros 100 o gynnyrch bwyd sy'n cael eu mewnforio, yn cael eu torri.
Mae'r cyfan yn rhan o becyn o fesurau i geisio cynorthwyo aelwydydd, wrth i gostau byw godi yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon bod teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu "gadael ar ôl" wrth i gostau godi
Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon, sy'n fam i bedwar o blant, bod costau bwyd, ynni a thanwydd yn rhoi pwysau mawr ar deuluoedd sy'n gweithio.
"Costau egni, costau bwyd, costau petrol a diesel sy'n ein heffeithio fwyaf," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Mae'n teimlo fel mae prisiau jyst yn cynyddu a 'di cyflogau ddim."
Dywedodd ei bod hi'n teimlo nad oes digon o gymorth ar gael i bobl sydd mewn gwaith.
"Fyswn i'n licio clywed bod 'na help i'r rheiny sy'n gweithio," meddai.
"Mae'n teimlo bod llawer mwy o help i bobl sydd ddim yn gweithio na phobl sydd yn, ond sy'n trio byw bob dydd."
Ychwanegodd fod costau gwyliau ysgol yn rhoi pwysau ychwanegol ar rieni.
"Mae mynd i lefydd a gwneud pethau efo'r plant yn ofnadwy o ddrud," meddai.
"'Da chi'n sôn am £15 y plentyn weithia', ac i deulu mae hynny'n gallu bod tua £100 am ddiwrnod allan, cyn rhoi bwyd a thrafnidiaeth ar ei ben o."
'Fawr ddim' o help
Dywedodd ei bod yn "eitha' lwcus" bod ei chyflogwr yn gadael iddi weithio o adref yn ystod hanner tymor, ond mai "nid pawb sy' efo'r cyfle yna".
"'Da chi'n gweld costau'n mynd i fyny o bob ongl yn ystod y gwyliau," meddai.
"Mae'r gwyliau haf yn un awful i drio rheoli a chydbwyso pob dim."
Dywedodd Llywela ei bod wedi defnyddio banc bwyd yng Nghaernarfon sawl gwaith oherwydd pwysau ariannol.
"Ma' 'na betha' bach do'n i ddim yn gwybod am, ac mae 'na help allan yna, ond 'di o fawr o ddim byd, yn enwedig pan 'da chi'n gweithio.
"Ges i ryw £30 tuag at gostau ynni ella, ond dydy hynny ddim yn cadw'r tŷ i fynd am wythnos, heb sôn am fis."

Mae Mabli Jones yn rhybuddio bod llawer o deuluoedd yn parhau i wynebu pwysau ariannol er gwaethaf y cynlluniau diweddaraf
Dywedodd Mabli Jones, pennaeth polisi gydag elusen Sefydliad Bevan, nad yw'r cyhoeddiadau hyd yma gan Lywodraeth y DU yn debygol o fynd yn ddigon pell.
"Yr hyn ni 'di clywed hyd yn hyn, yn anffodus fi ddim yn credu y bydd hynny'n ddigonol i helpu pobl gyda'r gwasgedd ar gostau byw 'da ni'n gweld, ac sy'n debygol o godi eto dros weddill y flwyddyn," meddai ar Dros Frecwast.
"'Da ni dal heb glywed unrhyw beth o ran y mesurau fydd yn dod o ran helpu pobl gyda biliau ynni - ni'n gwybod bod rheiny'n debygol o gynyddu lot dros y misoedd nesa'.
"Yn amlwg, mae helpu teuluoedd yn Lloegr gyda chostau bysus yn beth da - 'da ni eisoes gyda chynllun yng Nghymru sy'n un fwy hirdymor ar gyfer plant a phobl ifanc.
"Mae hynny'n bwysig ar gyfer pobl ar incwm isel, achos maen nhw'n fwy tebygol o ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus."
'Her enfawr i deuluoedd'
Dywedodd bod rhai mesurau sydd wedi dod i rym dros y blynyddoedd diwethaf wedi helpu teuluoedd, "yn enwedig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd", sydd wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr".
Ychwanegodd ei bod hi hefyd yn falch o weld ymrwymiad llywodraeth newydd Cymru i roi prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd os yw eu rhieni yn derbyn budd-dal credyd cynhwysol.
"'Da ni hefyd yn gwybod bod pethau fel costau gofal plant yn her fawr i deuluoedd, a 'da ni'n edrych 'mlaen at weld rholio mas y rhaglen o ofal plant am ddim i bawb dros y blynyddoedd nesa'.
"Ond mae pethau fel biliau ynni, costau tai a rhent, costau bwyd, yn dal i fod yn her enfawr i deuluoedd, sy'n gwaethygu o hyd."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Rachel Reeves wedi colli cyfle
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod mesurau'r Canghellor i fynd i'r afael â chostau byw yn gyfle sydd wedi'i golli, a bod y newidiadau'n rhai tymor byr.
Mae angen gweithredu'n "ddyfnach" i ddelio gyda phrisiau ynni, meddai wrth siarad gyda BBC Cymru, er bod rhai pethau cadarnhaol wedi eu cyhoeddi.
Dywedodd bod "camau sy'n bosib eu cymryd ac y dylai Llywodraeth y DU eu cymryd ar brisiau ynni a phrisiau ynni oddi ar y grid".
"Dyna'r camau pellach yr ydym yn credu sydd angen i ni weld gan Lywodraeth y DU."
Dywedodd y byddai'n parhau i "bwyso" ar Lywodraeth y DU i helpu teuluoedd, gan ddadlau mai gweinidogion y DU sy'n rheoli'r prif ddulliau i wneud hynny.
Pan gafodd ei holi a fyddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau tymor byr, dywedodd ei fod yn cydnabod mai costau byw oedd ar frig "rhestr o bethau sy'n poeni teuluoedd".
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth o fewn ein gallu gan ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd27 Ebrill

