David Brooks: O frwydro canser i frwydro am le yng Nghwpan y Byd

David BrooksFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

David Brooks yn dathlu ar ôl sgorio yn erbyn Gogledd Macedonia y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Roedd David Brooks ymhlith miloedd o aelodau'r Wal Goch oedd wedi ymgynnull yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn 2022 - ond doedd y wên wrth wisgo crys y tîm cenedlaethol ddim yn adrodd y stori gyflawn.

Y bwriad i Brooks, oedd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr dros Bournemouth ar y pryd - ac sydd yno hyd heddiw - oedd bod yng nghanol y cyfan gyda gweddill y garfan wrth i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 o flynyddoedd.

Ond roedd cael diagnosis o ganser flwyddyn ynghynt wedi tarfu ar ei yrfa broffesiynol ar adeg mor dyngedfennol.

Wrth gefnogi o'r eisteddle, roedd Brooks ar y trywydd cywir ac wedi gwella o Hodgkin Lymphoma Cyfnod 2 erbyn i dîm Rob Page gamu ar y cae yn Doha.

Ond roedd y straen gorfforol o frwydro yn erbyn y salwch difrifol a misoedd o driniaeth cemotherapi wedi ei lethu, ac wedi amddifadu'r chwaraewr o gynrychioli ei wlad ar y llwyfan mwyaf.

David BrooksFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Brooks yn gwylio Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd Qatar gyda'i wraig, Flora

Pedair blynedd yn ddiweddarach ac mae Cymru eto'n anelu am le yn y rowndiau terfynol.

Ond mae her y gemau ail gyfle yn ymddangos yn ddibwys bron i rywun sydd wedi profi cymaint yn barod.

Yn ôl Tom Lockyer, ffrind agos i Brooks ac aelod o'r garfan aeth i Qatar, byddai'r profiad hwnnw yn Doha wedi bod yn rhyfedd ac yn chwerw felys.

"Byddai David byth wedi dangos y peth, ond doedd gwylio'r gemau a pheidio bod allan ar y cae gyda ni ddim yn brofiad braf iddo fe," meddai.

"Ond dwi'n gwybod sut mae o wedi cymryd ysbrydoliaeth o hynny.

"Dwi ddim yn credu bod e'n cael digon o glod am ba mor dda yw e fel chwaraewr, neu'r lefelau mae o wedi cyrraedd ar ôl popeth sydd wedi digwydd."

David BrooksFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Brooks mewn sesiwn ymarfer gyda'r tîm cenedlaethol cyn ei ddiagnosis yn 2021

Mae'n dair blynedd ers i Brooks gamu'n ôl ar y cae ar ôl ei driniaeth - a hynny i gymeradwyaeth y dorf yn erbyn Aston Villa.

Fe ddilynodd cyfnod ar fenthyg i Southampton cyn iddo adennill ei le gyda Bournemouth, a sicrhau cytundeb newydd pedair blynedd o hyd gyda'r clwb.

Un arall sy'n llawn edmygedd o'r hyn y mae Brooks wedi'i gyflawni ydy Chris Mepham, a chwaraeodd gydag ef i Bournemouth yn ogystal â Chymru.

"Wrth edrych ar David nawr, dydy o ddim yn edrych fel chwaraewr sydd wedi bod ar yr ymylon am mor hir," meddai.

"Mae safon ei chwarae yn gyson bob wythnos, sy'n anhygoel pan 'da chi'n meddwl am y peth.

"Doedd neb yn cwestiynu ei dalent. Yr unig amheuaeth o bosib oedd am ei ffitrwydd, ond mae'r ystadegau'n dangos ei fod yn rhedeg mwy rŵan nag erioed."

Dywedodd un o'i gyd-chwaraewyr eraill i Bournemouth a Chymru, Kieffer Moore, ei fod hefyd wedi'i ryfeddu dros ymateb Brooks i gyfnod mor dywyll.

"Mae o'n parhau i fynd o nerth i nerth, sy'n rhyfeddol o ystyried yr hyn mae o wedi bod drwyddo yn gorfforol ac yn feddyliol," meddai.

'Wastad wedi bod yn benderfynol'

Ond i'r rhai sy'n adnabod Brooks orau, does dim syndod ei fod wedi brwydro'n ôl o'i salwch.

"Mae e wastad wedi bod yn gymeriad penderfynol," meddai Lockyer.

"Ond mae e hefyd yn berson sydd ddim yn cymryd pethau'n rhy ddifrifol.

"Y prif beth i Brooksy oedd cael cyfle i chwarae eto, ac mae e wedi gwneud hynny.

"Ro'n i'n teimlo drosto yn Doha ac yn gallu gweld y rhwystredigaeth tu ôl i'w wên.

"Roedd cyrraedd Cwpan y Byd yn freuddwyd, a byddai'n anhygoel gallu gwneud hynny gyda fe yn y garfan.

"Dwi'n gwybod chwaraewr mor dda yw e, ac mae'n haeddu'r cyfle i ddangos ei dalent i'r byd i gyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.