Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl marwolaeth menyw yng Nghasnewydd

Heol Cas-gwent, Casnewydd
  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi'i lansio ar ôl marwolaeth menyw yng Nghasnewydd yn oriau mân bore Sadwrn.

Cafodd swyddogion Heddlu Gwent eu galw i adroddiad o ffrae y tu allan i eiddo ar Heol St Vincent yn gynnar fore Sadwrn.

Bu farw'r fenyw, sydd heb ei henwi'n ffurfiol eto, ychydig bellter i ffwrdd ger Heol Cas-gwent er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Mae dyn 66 oed o Gasnewydd wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn nalfa'r heddlu.

Heol St Vincent, Casnewydd

Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion, gan gynnwys swyddogion arfau tanio arbenigol, wedi mynd i'r lleoliad yn dilyn adroddiad o ffrae.

Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod am ei marwolaeth, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd John Davies nad yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Ychwanegodd y bydd mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal tra bo ymholiadau'n parhau.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam wedi'i recordio rhwng 01:00 a 03:00 fore Sadwrn 18 Gorffennaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.