Crynodeb

  1. Diolch am ddilyn ☀️wedi ei gyhoeddi 17:05 GMT+1 24 Mehefin

    Mae wedi bod yn ddiwrnod eithriadol o boeth ar draws Cymru wrth i'r wlad wynebu ei rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

    Mae disgwyl i'r tymheredd barhau yn uchel iawn yfory felly cymerwch ofal.

  2. Tonnau gwres 'amlach a dwysach'wedi ei gyhoeddi 16:55 GMT+1 24 Mehefin

    Mae newid yn yr hinsawdd wedi arwain at donnau gwres amlach a dwysach, yn ôl prif wyddonydd y Swyddfa Dywydd.

    Dywed yr Athro Stephen Belcher fod digwyddiadau fel hyn "yn fwy tebygol a dwysach" yn sgil y newid.

    "Mae gweld tymereddau fel yma yn y DU ym mis Mehefin yn peri pryder mawr," ychwanegodd.

    Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn dangos bydd cyfnodau poeth yn dod yn amlach yn y dyfodol, yn enwedig dros dde-ddwyrain y DU.

    HaulFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Mwy o bobl ddigartref mewn perygl yn ystod gwres eithafolwedi ei gyhoeddi 16:50 GMT+1 24 Mehefin

    Ashella Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Ashella Lewis ydy cyfarwyddwr Skylight for Crisis

    Dywedodd Ashella Lewis, cyfarwyddwr Skylight for Crisis - sy’n helpu’r digartref yn ne Cymru, y gall digartrefedd fod yn heriol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

    Ond pwysleisiodd, mewn gwres eithafol, fod mwy o bobl sydd ar y stryd mewn perygl o losgi’n ddifrifol, peidio yfed digon o ddŵr a gall fod yn fygythiad i fywyd gyda blinder gwres.

    “Os yw pobl eisiau helpu gallen nhw fynd at rywun a chynnig nôl dŵr neu eli haul iddyn nhw, os ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny.”

    Ychwanegodd Ms Lewis fod posib i’r cyhoedd adrodd am unrhyw un sy’n cysgu ar y stryd trwy Streetlink.

  4. Trafnidiaeth Cymru: 'Lot i ddysgu gyda phob pennod o dywydd eithafol'wedi ei gyhoeddi 16:37 GMT+1 24 Mehefin

    Dywed Gethin Wyn Jones ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi bod yn cadw golwg ar y traciau a'r system signalau gydol yr wythnos.

    Maen nhw hefyd yn gwirio bod bysiau yn gallu teithio.

    "Mae 'na lot i ddysgu gyda phob pennod o dywydd poeth eithafol," ychwanegodd.

    Gethin
    Disgrifiad o’r llun,

    Gethin Wyn Jones y tu allan i Orsaf Caerdydd

  5. Mwy o ysgolion yn cyhoeddi eu bod ar gau ddydd Iauwedi ei gyhoeddi 16:27 GMT+1 24 Mehefin

    Mae rhagor o ysgolion bellach yn cyhoeddi na fyddan nhw ar agor i ddisgyblion yfory.

    Ar hyn o bryd, mae 'na amcangyfrif fod bron i 630 o ysgolion am fod ar gau yng Nghymru yfory.

    Mae manylion ar gael ar wefannau cynghorau Mynwy, dolen allanol, Castell-nedd Port Talbot, dolen allanol, Pen-y-bont ar Ogwr, dolen allanol, Powys, dolen allanol, Abertawe, dolen allanol a Thorfaen, dolen allanol. Gwiriwch eich cyngor lleol chi am y diweddaraf yn eich ardal chi.

  6. Cymru 'heb baratoi o gwbl'wedi ei gyhoeddi 16:12 GMT+1 24 Mehefin

    Tydi Cymru "heb baratoi o gwbl" ar gyfer effaith y gwres eithafol sy'n effeithio rhannau helaeth o'r wlad, yn ôl gwyddonydd hinsawdd.

    "Brawychus" oedd disgrifiad Mary Gagen, o Brifysgol Abertawe, o'r rhybudd coch a bod tonnau gwres y gorffennol ddim yn cymharu gyda'r hyn yr ydym yn ei weld nawr o ran dwyster ac amlder.

    "Dyw ein seilwaith ddim yn barod o gwbl ar gyfer hyn," meddai.

    Ychwanegodd Ms Gagen, wrth gyfeirio at don wres mis Mai, ei fod yn anghyffredin iawn i gael dwy don yn olynol.

  7. Ffermwyr yn gorfod addasu eu ffordd o weithiowedi ei gyhoeddi 16:04 GMT+1 24 Mehefin

    Claire Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Claire Jones yn godro yn Llanddewi Brefi

    Gyda'r gwres yn llethol ledled y wlad, tybed sut mae ffermwyr yn gorfod gofalu am anifeiliaid ar y fferm?

    Dywedodd Claire Jones sy'n godro yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion ei bod yn cadw’r gwartheg yn y sied er mwyn ymdopi gyda’r gwres.

    “Ma’ nhw mas yn gynnar yn y bore yn pori ac maen nhw mewn bwyti 11:00 jest cyn i’r gwres really codi."

    Eglurodd eu bod wedi addasu'r ffordd y maen nhw’n gweithio ar y fferm, trwy wneud yn siŵr bod digon o gysgod, fel coed, ar y caeau, porfa a digonedd o ddŵr.

    Ychwanegodd mai ei phryder mwyaf wrth edrych ymlaen at yfory ydy’r gwres ac os ydy tywydd fel hyn yn digwydd yn amlach y byddai’n rhaid buddsoddi mewn seilwaith “a chael ffans mewn hefyd”.

  8. Cyngerdd The Cure i fynd yn ei flaen 🎵wedi ei gyhoeddi 15:51 GMT+1 24 Mehefin

    Mae trefnwyr wedi cadarnhau y bydd cyngerdd The Cure yn mynd yn ei flaen er gwaethaf y rhybudd coch am y tymheredd.

    Bydd Robert Smith a'i fand yn perfformio ar Gaeau Blackweir heno gyda'r band o'r Alban, The Twilight Sad. a'r Cymry, The Joy Formidable, hefyd yn perfformio.

    Fe ddaeth cadarnhad yn gynharach y bydd cyngerdd Harry Styles yn Llundain hefyd yn parhau, gyda nifer o ffans o Gymru'n debygol o fod yn teithio yno ar ei gyfer.

    cureFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Robert Smith, prif leisydd The Cure

  9. Sut mae rhybuddion tywydd yn gweithio?wedi ei gyhoeddi 15:40 GMT+1 24 Mehefin

    Y Swyddfa Dywydd

    Rhoddir lliw i rybuddion tywydd – melyn, oren neu goch – yn dibynnu ar gyfuniad o ddau beth; yr effaith y mae'r tywydd yn debygol o gael a'r tebygolrwydd y bydd yn digwydd.

    Defnyddir system fatrics i helpu i benderfynu ar ddifrifoldeb y rhybuddion, sydd wedyn yn helpu i benderfynu ar y lliw.

    Melyn yw'r haen isaf o rybudd, oren yw rhybudd haen ganol a choch yw'r math mwyaf difrifol o rybudd posibl.

    Mae wyth math gwahanol o dywydd wedi'u cynnwys: glaw, eira, gwynt, stormydd mellt a tharanau, mellt, niwl, iâ, a gwres eithafol.

    rhybuddion tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
  10. Ysgol wedi cymryd camau 'synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 15:26 GMT+1 24 Mehefin

    Dywedodd Meilir Thomas bod Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd wedi cymryd camau "synhwyrol" ddydd Mercher i leihau'r risgiau i blant, yn cynnwys gosod rhagor o bebyll ar yr iard i roi cysgod, cynnig digon o ddiodydd, cwtogi amseroedd egwyl a pheidio caniatáu chwarae pêl-droed ar ôl i rai deimlo'n wael ar ôl chwarae ddydd Mawrth.

    Am 13:00 heddiw aeth y plant adre'n gynnar.

    Meilir Thomas
  11. Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth ar gau ddydd Iauwedi ei gyhoeddi 15:17 GMT+1 24 Mehefin

    Ar y cyfryngau cymdeithasol mae pennaeth Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi dweud y bydd yr ysgol ar gau yfory.

    Mae nifer o'r athrawon yn rhieni yng Ngheredigion lle mae'r ysgolion cynradd ar gau, medd y pennaeth.

    Dywedodd hefyd fod nifer o blant wedi mynd adref yn sâl ddydd Mercher yn sgil y gwres a'i bod yn broblem cadw'r bwyd yn ddigon oer.

    "Mae staff wedi gorfod cael gwared â llawer o'r bwyd heddiw, meddai wrth i dymheredd y gegin gyrraedd 45C.

    bro hyddgen
  12. Diolch wedi 'apêl frys' elusen am ffans ac oeryddionwedi ei gyhoeddi 15:10 GMT+1 24 Mehefin

    Mae elusen sy'n achub cŵn sydd wedi'u hesgeuluso yn Llanharan yn ne Cymru wedi diolch am bob cymorth wedi iddyn nhw apelio ar y cyfryngau cymdeithasol am ffans a systemau oeri aer.

    Cafodd y cais ei ddisgrifio ganddyn nhw fel "apêl frys", wedi iddyn nhw weithio'n galed yn y ganolfan i gynllunio ar gyfer y tywydd eithafol.

    Erbyn prynhawn Mercher roedd nifer wedi dod i'w helpu.

    Y ffan wedi cyrraeddFfynhonnell y llun, Elusen Hope Rescue
    Disgrifiad o’r llun,

    Y ffan wedi cyrraedd

  13. 'Saffach' anfon plant adref yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 15:04 GMT+1 24 Mehefin

    Roedd plant yn gadael Ysgol Glan Morfa yng Nghaerdydd am 13:00 heddiw ar ôl i'r ysgol agor ei drysau y bore 'ma ar gyfer sawl digwyddiad.

    Ond dywedodd y pennaeth ei bod yn "saffach" anfon plant adref erbyn y prynhawn.

    Dywedodd Meilir Thomas bod ddoe yn "heriol iawn, mae'n boeth ofnadwy, plant yn dechrau colli mynedd, 'oedden nhw'n boeth ac ambell i ddeigryn hefyd".

    Ychwanegodd ei fod yn "teimlo bod o'n fwy diogel, ac o ran lles pawb, oedd hi'n annioddefol ddoe yn y dosbarth, felly saffach bod plant yn gallu bod yn eu cartrefi eu hunain lle mae ganddyn nhw fwy o bethau o'u cwmpas nhw i gadw nhw'n oerach na sydd ganddon ni yn yr ysgol".

    Glan Morfa
  14. ☀️ Mwynhau'r heulwen ym Mhorthdinllaen yn Llŷn - gyda gofalwedi ei gyhoeddi 14:54 GMT+1 24 Mehefin

    Dyma'r golygfeydd ym Mhorthdinllaen ddydd Mercher

    Porthdinllaen
    Porthdinllaen2
    Porthdinllaen
  15. Sawl ysgol yn cadarnhau na fyddan nhw'n agor ddydd Iauwedi ei gyhoeddi 14:50 GMT+1 24 Mehefin

    Yng Nghaerdydd mae sawl ysgol eisoes wedi cadarnhau na fyddan nhw ar agor ddydd Iau.

    Ar hyn o bryd mae 50 o ysgolion yn dweud na fyddan nhw'n agor, a 35 yn agor yn rhannol.

    Ewch i wefan eich cyngor lleol i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf.

  16. Y tymheredd amser cinio - 30.3C yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 14:42 GMT+1 24 Mehefin

    Y Swyddfa Dywydd

    Roedd y tymheredd yn 30.3C yng Nghaerdydd am 13:00.

    Yn Lloegr roedd y tymheredd yn 33.9C yn Thorney Island yn Ngorllewin Sussex.

    Yn Yr Alban roedd y tymheredd yn 24.2 yn Chaterhall ac yng Ngogledd Iwerddon roedd y tymheredd yn Castlederg yn 23.4C.

  17. 'Gwneud pethau syml' i helpu staffwedi ei gyhoeddi 14:34 GMT+1 24 Mehefin

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Claire Beynon
    Disgrifiad o’r llun,

    “Ni’n trio symud y bobl sydd angen aerdymheru fwyaf i mewn i ardaloedd sydd gyda systemau i’w cadw’n oer,” meddai Claire Beynon

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud eu bod yn “gwneud pethau syml fel dweud wrth staff y gallen nhw wisgo gwisg haf, trowsus byr a chrysau polo”.

    “Ni’n trio symud y bobl sydd angen peidio bod yn dwym i mewn i ardaloedd sydd gyda systemau awyru,” meddai Claire Beynon y cyfarwyddwr gweithredol.

    Ychwanegodd hi fod y bwrdd wedi gyrru neges o amgylch yr holl sefydliad yn holi i weld a allai unrhyw un ddod i mewn i helpu rhannu dŵr mewn wardiau.

    Dywedodd Reina Bannerji, cymrawd clinigol iau mewn adran achosion brys, fod cyflyrau sy'n gysylltiedig â gwres yn gallu bod yn “angheuol weithiau” os nad yw pobl yn edrych ar ôl eu hunain ac eraill yn ystod tonnau o wres.

    Mae’r cyflyrau hynny yn cynnwys strôc yn sgil gwres, pwysau gwaed isel, problemau iechyd meddwl a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â nofio.

  18. Pob ysgol yn Sir Gâr ar gau heddiw - a fory etowedi ei gyhoeddi 14:24 GMT+1 24 Mehefin

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Oherwydd y gwres eithafol, mae holl ysgolion uwchradd Sir Gâr wedi penderfynu cau heddiw a ddydd Iau.

    Y wybodaeth yn llawn ar wefan y cyngor., dolen allanol

    arwyddFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gâr
  19. Iechyd Cyhoeddus yn annog pobl i yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcoholwedi ei gyhoeddi 14:12 GMT+1 24 Mehefin

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog pobl i "weithredu ar unwaith" yn sgil y rhybudd coch.

    "Gall gwres eithafol gael effeithiau difrifol ar iechyd," meddai llefarydd.

    "Yng Nghymru, lle nad yw cartrefi a threfnau dyddiol wedi'u cynllunio ar gyfer tymereddau uchel parhaus, gall pobl fynd yn sâl yn gyflymach nag y gallent ei ddisgwyl.

    "Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ond mae pobl hŷn, babanod a phlant bach, a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn wynebu'r risg fwyaf.

    "Gall pobl sy'n gweithio yn yr awyr agored, yn byw mewn fflatiau ar y llawr uchaf, neu sy'n agored i'r gwres am gyfnodau hir fod yn arbennig o agored i niwed hefyd."

    Maen nhw'n annog pobl i yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcohol, caffein a diodydd llawn siwgr, ac aros allan o'r haul ac yn y cysgod cymaint â phosibl.

    yfed dwrFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Dim dosbarthiadau ymarfer corff yng nghanolfan Plascrug, Aberystwythwedi ei gyhoeddi 14:07 GMT+1 24 Mehefin

    Cyngor Ceredigion

    Yn sgil y rhybudd tywydd, mae pob dosbarth wedi'u canslo yng Nghanolfan Plascrug, Aberystwyth ddydd Iau "er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb".

    hysbysebFfynhonnell y llun, Cyngor Ceredigion