Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Tonnau seismigArdal gysgodol ton S

Mae daeargrynfeydd yn cynhyrchu tonnau seismig. Gallwn ni ddefnyddio seismograffau i ganfod y tonnau hyn. Mae rhai tonnau seismig yn donnau arwyneb, ac mae rhai eraill yn gallu teithio drwy'r Ddaear.

Part ofFfisegTrydan, egni a thonnau

Ardal gysgodol ton S

Ardal gysgodol y don S yw'r rhan o arwyneb y Ddaear lle dydyn ni ddim yn gallu canfod tonnau S ar ôl daeargryn. Mae'r ardal gysgodol hon wedi arwain daearegwyr at fodel o'r Ddaear â mantell solid a chraidd hylifol. Gallwn ni weld ar y diagram y rhan lle dydyn ni ddim yn gallu canfod tonnau S. Mae daearegwyr wedi gallu defnyddio'r mesuriadau hyn i gyfrifo maint y craidd hylifol.

Diagram yn dangos llwybr crwm tonnau S trwy’r Ddaear. Maen nhw’n teithio drwy’r fantell, ond ni allant deithio drwy’r craidd allanol hylifol.