Diwedd Gweriniaeth WeimarEffeithiau propaganda

Arweiniodd Cwymp Wall Street a’r ffaith bod America wedi tynnu arian yn ôl, at ddirwasgiad economaidd difrifol yn yr Almaen. Erbyn 1932, roedd 6 miliwn o Almaenwyr yn ddi-waith a dechreuodd y system wleidyddol ddadfeilio wrth i nifer o Almaenwyr cyffredin droi at bleidiau eithafol. Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Effeithiau propaganda

Llun o Joseph Goebbels.
Figure caption,
Joseph Goebbels

Rheolid propaganda’r Natsïaid gan Joseph Goebbels ac roedd yn cynnwys tair prif thema.

  • Cwlt y Führer. Câi Hitler ei bortreadu bob amser fel iachawdwr yr Almaen – y dyn a fyddai’n achub y wlad rhag crafangau’r dirwasgiad.
  • Volksgemeinschaft (cymuned y bobl). Dyma’r syniad y byddai’r Natsïaid yn creu un gymuned Almaenig a fyddai’n golygu bod crefydd neu ddosbarth cymdeithasol yn llai perthnasol i bobl.
  • Gwneud yr Iddewon (ac eraill) yn fwch dihangol am drafferthion yr Almaen. Câi Iddewon eu portreadu’n aml ym mhropaganda'r Natsïaid fel bodau is-ddynol, neu fel bygythiad i burdeb hiliol a dyfodol economaidd y wlad.

Yn ystod y cyfnod, roedd Hitler yn cael ei ystyried fel areithiwr gwych a chanddo bŵer anhygoel i ddwyn perswâd ar bobl. Roedd ymgyrch propaganda Goebbels yn effeithiol iawn a daeth â chefnogaeth enfawr i’r Natsïaid trwy dargedu grwpiau penodol â gwahanol sloganau a pholisïau er mwyn ennill eu cefnogaeth.

Cyflwynid propaganda mewn nifer o ffyrdd – papurau newydd, posteri, radio a ffilmiau newyddion yn y sinemâu. Roedd y negeseuon yn syml, ac yn cyd-fynd gyda safbwyntiau'r cyhoedd ar y pryd.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Poster Natsïaidd gyda’r slogan ‘Mae gwaith yn golygu bara’., Poster propaganda 1 ‘Mae gwaith yn golygu bara’