Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Hip-hopCerddoriaeth hip-hop

Mae’r term ‘hip-hop’ yn cyfeirio at ddiwylliant trefol du Americanaidd, ac mae DJ-io, celf graffiti, breg-ddawnsio, MC-io a rapio yn rhan ohono. Ymhlith yr artistiaid hip-hop rhyngwladol amlwg mae Jay-Z a Public Enemy. Mae Mr Phormula yn artist hip-hop enwog o Gymru.

Part ofCerddoriaethCerddoriaeth boblogaidd

Cerddoriaeth hip-hop

Mae cerddoriaeth hip-hop yn canolbwyntio ar rythm yn hytrach nag ar alaw a harmoni. Ei nodweddion yw:

  • rapio
  • defnyddio samplau
  • defnyddio bîts wedi’u rhaglennu
  • DJ-io

Mae rapio yn golygu adrodd geiriau mewn ffordd rythmig, sy’n odli, gan hanner siarad. Yn aml, bydd aelod arall o’r grŵp yn ymuno â’r prif lais er mwyn:

  • dyblu gair olaf rhai llinellau
  • ychwanegu brawddegau sy’n ateb
  • ychwanegu geiriau ad lib

Dyfais yw samplwr sy’n gallu cymryd unrhyw sain sy’n cael ei roi i mewn iddo, ei brosesu, a’i chwarae yn ôl. Darn o sain wedi’i recordio’n ddigidol yw sampl. Gall hwn fod yn gitâr fas, yn gytgan cân, yn sain gwydr yn torri, neu’n unrhyw beth dan haul.

Infograffeg i gynrychioli hip-hop.

More guides on this topic