Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,3 mins

25 mlynedd yn ôl, prin y byddai merched yn cael cyfle i gyflwyno rhaglenni chwaraeon

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Mae Lauren Salter, sydd efallai yn fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol. Daeth yn fwy enwog byth yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am iddi gyfweld chwaraewr rygbi o Ffrainc yn Ffrangeg a chyfieithu ei atebion yn syth i'r Gymraeg. Fe ddaw yn wreiddiol o Lanelli, yn gyn disgybl Ysgol Gymraeg Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Y Strade. Fe astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg fel Gradd ym Mryste, a bu'n gweithio am gyfnod yn siop Louis Vuitton ym Mharis yn ystod ei blwyddyn allan. Mae hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa ac yn sôn sut mae pethau wedi newid yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Programme Website
More episodes