Main content

Sgwrsio: Jess Davies
"Sgwrsio" ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo.
Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda'r gyflwynwraig, awdures ag ymgyrchydd hawliau merched Jess Davies. Fe symudodd Jess i Benrhyncoch o Loegr yn ferch ifanc ac er iddi ddysgu'r iaith yn yr ysgol Gynradd fe gollodd hi hyder yn y Gymraeg tra bod hi yn yr Ysgol Uwchradd a'r Brifysgol. Mae hi bellach wedi ail-ddarganfod yr iaith ac yn cyfrannu i raglenni ar S4C a Radio Cymru. Mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno y podlediad Shame on Who with Jess and Joey.
Rhagor o benodau
Dan Sylw
.
Podlediad
![]()
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.

